Fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau cydgyfeiriol y DU, mae Ofcom yn gweithio gyda diwydiannau sydd â thechnoleg yn ganolog iddynt. Mae’r rhain yn sectorau sydd wedi ysgogi arloesedd a thwf economaidd sylweddol dros ddegawdau.
Mae ein dull o reoleiddio wedi ceisio meithrin a chefnogi twf ac aflonyddwch, gan gredu mai cystadleuaeth am syniadau yn ogystal â marchnadoedd yw’r ffordd gywir o gyflawni canlyniadau cynaliadwy i ddinasyddion, defnyddwyr a’r economi.
Rydym yn cydnabod bod rheoleiddio da a thwf economaidd yn mynd law yn llaw. Gan ystyried y prif ysgogwyr newid ar draws ein sectorau – sef anghenion defnyddwyr sy'n newid, effaith trawsnewid digidol ar fusnesau, a’r cwestiynau newydd a godir gan dechnolegau newydd – byddwn yn parhau i gefnogi arloesedd a chefnogi buddsoddiad yn y rhwydweithiau a’r gwasanaethau newydd sydd eu hangen ar y DU.
Mae’r Cynllun hwn yn nodi’r gwaith y byddwn yn ei wneud yn 2025/26 tuag at ein cenhadaeth i wneud i gyfathrebiadau weithio i bawb, a sut y byddwn yn eu cyflawni.
Ochr yn ochr â hyn, rydym yn cyhoeddi ein Cynllun Tair Blynedd, sy’n nodi uchelgeisiau a blaenoriaethau tymor hwy Ofcom ar gyfer 2025-2028.
Ymatebion
Gwybodaeth cyswllt
Plan of Work team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA