Rydyn ni’n falch o'n hymrwymiad i'r Gymraeg a'r ffordd rydyn ni'n ei hintegreiddio i'n gwaith. Mae'r gwaith hwn, gan ein timau ar draws y DU, yn galluogi chi i gyfathrebu ag Ofcom yn eich dewis iaith - Cymraeg neu Saesneg.
Sut rydyn ni'n mynd ati
Mae Ofcom yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn ein gwaith yng Nghymru. Wrth ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg, ein nod yw sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Wrth benderfynu pryd i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg, rydyn ni'n cymhwyso proses gwneud penderfyniadau gyson. Os yw’r gwasanaeth dan sylw yn ymwneud â rhywbeth sy’n effeithio ar ddinasyddion a busnesau yng Nghymru, neu sy’n berthnasol iddynt, byddwn yn darparu gwasanaeth Cymraeg fel mater o drefn.
Rydyn ni'n credu bod ein dull o weithio'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at allu siaradwyr Cymraeg i ymdrin â materion cyfathrebu yn yr iaith o'u dewis.
Dyma fraslun o'r hyn rydyn ni'n ei gynnig i siaradwyr Cymraeg.
Yn 2011 datganodd Mesur y Gymraeg na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na Saesneg yng Nghymru. Ei egwyddor craidd yw y dylai pobl yng Nghymru fedru byw eu bywydau trwy'r Gymraeg os mai dyna beth maen nhw eisiau gwneud.
Gan fod Ofcom yn gorff cyhoeddus gyda swyddfa yng Nghaerdydd, mae'n rhaid i ni gydymffurfio â deddfwriaeth iaith Gymraeg. Ers 25 Ionawr 2017, rydyn ni wedi gweithio mewn partneriaeth â Chomisiynydd y Gymraeg ar weithredu ein safonau Cymraeg. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn disgrifio sut mae'n rhaid i Ofcom ddarparu a hybu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hysbysiad cydymffurfio terfynol Ofcom gan Gomisiynydd y Gymraeg wedi derbyn awdurdod, cefnogaeth a chymeradwyaeth lawn Ofcom.
Rydym yn anelu at ddarparu gwasanaeth o safon uchel i bawb trwy'r amser, ond yn cydnabod y gall pethau fynd o chwith. Os bydd hynny'n digwydd, rydyn ni'n deall y byddwch efallai eisiau gwneud cwyn i ni.
Rydyn ni eisiau gwrando ar eich barn fel y gallwn ni ddysgu o unrhyw gamgymeriadau, a'u cywiro.
Os yw eich cwyn am waith Ofcom yn y Gymraeg neu ein cydymffurfiad â safonau'r Gymraeg, mae angen i chi gwblhau a chyflwyno ein ffurflen gwyno. Byddwn yn adolygu eich achos ac yn ymateb i chi mor fuan â phosibl.
Os nad yw hyn yn datrys eich pryderon, gallwch gysylltu â swyddfa Ysgrifennydd y Gorfforaeth.