women-in-politics-(web)

Profiadau menywod mewn gwleidyddiaeth o gasineb ar-lein a cham-drin ar-lein

Cyhoeddwyd: 14 Gorffennaf 2025

Mae adroddiad newydd gan Ofcom yn canolbwyntio ar brofiadau ar-lein menywod sy'n gweithio ym maes gwleidyddiaeth – gan gynnwys Aelodau Seneddol presennol a chyn-Aelodau Seneddol.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys 23 o wleidyddion. Dywedodd y rhai roeddem wedi siarad â nhw wrthym fod casineb a cham-drin ar-lein yn gyson ac yn effeithio ar sut y maent yn byw eu bywydau bob dydd, yn gwneud eu gwaith ac yn mynegi eu hunain ar-lein.

Mae bod ar-lein yn rhoi lle i wleidyddion rannu eu negeseuon, cysylltu ag etholwyr, ac ymgysylltu â materion gwleidyddol. Ac eto, mae llawer o'r menywod y buom yn siarad â nhw yn credu bod cam-drin ar-lein yn atal rhai menywod rhag mynd i fyd gwleidyddiaeth yn gyfan gwbl. Dywedodd rhai ei fod wedi bod yn ffactor sydd wedi gwneud iddyn nhw, a menywod eraill y maent yn eu hadnabod, dynnu'n ôl o fywyd gwleidyddol.

Dywedodd cyfranogwyr wrthym fod y canlynol yn wir am gasineb a cham-drin ar-lein:

  • Mae naws fisogynistaidd iddo’n aml, ac mae'n arwain at fygythiadau o drais rhywiol a marwolaeth yn rheolaidd.
  • Mae’n dod gan amrywiaeth o bobl, gan gynnwys pobl sy’n ystyried eu hunain yn etholwyr, yn ogystal â chyfrifon dienw.
  • Mae’n aml yn cael ei sbarduno gan rannau cyffredin o’u swydd, fel lleisio barn am fater penodol.
  • Mae'n anodd ei reoli, ac nid yw nodweddion fel tewi neu flocio yn mynd yn ddigon pell i helpu i'w hamddiffyn.
  • Mae’n gwaethygu ac yn dod yn fwy cyffredin ac yn fwy soffistigedig o ran sut mae’n targedu unigolion, ac mae’n ymddangos ei fod yn cael ei normaleiddio.

Mynd i'r afael ag aflonyddu ar-lein

Mae rhai mathau o gam-drin ar-lein yn anghyfreithlon o dan gyfraith y DU, fel rhai mathau o ymddygiad bygythiol neu gamdriniol, ac aflonyddu. O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rhaid i lwyfannau asesu'r risg y bydd defnyddwyr yn y DU yn dod ar draws deunydd anghyfreithlon, a defnyddio mesurau priodol i'w diogelu rhag hynny.

I gydnabod y niwed sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched, mae Ofcom wedi ymgynghori ar ganllawiau i gwmnïau technoleg fynd i'r afael â niwed ar-lein yn erbyn menywod a merched. Mae’n tynnu sylw’n benodol at aflonyddu ar-lein – sy’n aml yn effeithio ar fenywod mewn bywyd cyhoeddus – fel un o’r pedwar maes blaenoriaeth arfaethedig ar gyfer gweithredu, ochr yn ochr â cham-drin domestig ar-lein, cam-drin ar sail delweddau, a chasineb at fenywod ar-lein. Mae ein hymgynghoriad wedi dod i ben erbyn hyn, ac rydym nawr yn ystyried yr ymatebion cyn llunio ein canllawiau terfynol.

Dyletswyddau diogelwch ar-lein newydd ar lwyfannau

Mae ymchwil heddiw yn rhan o raglen waith ehangach i gael gwell dealltwriaeth o brofiadau bywyd grwpiau ac unigolion y mae niwed ar-lein wedi effeithio arnynt yn arbennig.

Fel rhan o waith Ofcom i weithredu Deddf Diogelwch Ar-lein y DU, byddwn yn cynhyrchu Cod Ymarfer ar gyfer ymgynghori ar sut gall rhai gwasanaethau 'wedi'u categoreiddio' gydymffurfio â dyletswyddau i gynnig adnoddau i oedolion sy'n eu helpu i reoli'r cynnwys y maent yn ei weld. Mae’r cam-drin a'r casineb a brofir gan bobl yn llygad y cyhoedd, gan gynnwys menywod mewn gwleidyddiaeth, wedi dylanwadu’n rhannol ar y dyletswyddau grymuso defnyddwyr hyn, a fydd yn cefnogi pobl sy'n destun camdriniaeth ar-lein nad yw'n anghyfreithlon o dan gyfreithiau'r DU.

Yn ôl i'r brig