
Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £700,000 i'r darparwr cyfathrebu Vonage am fethu â sicrhau y gallai rhai cwsmeriaid busnes wneud galwadau i'r gwasanaethau brys.
Mae ein rheolau’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau mynediad di-dor i sefydliadau brys fel rhan o unrhyw wasanaethau galwadau a gynigir.[1]
Mae gallu cysylltu â'r gwasanaethau brys yn hanfodol ac mae Ofcom yn cymryd unrhyw doriad o'r natur hon o ddifrif.
Hysbysodd Vonage Ofcom am broblem a oedd yn effeithio ar allu ei gwsmeriaid busnes i wneud galwadau gwasanaeth brys rhwng 23 Hydref 2023 a 3 Tachwedd 2023.
Beth a ganfuwyd yn ein hymchwiliad
Yn ystod y cyfnod hwn, nid oedd cwsmeriaid busnes VoIP Vonage yn y DU yn gallu cysylltu â'r gwasanaethau brys wrth ddefnyddio ffonau desg.
Canfuom nad oedd prosesau mewnol Vonage yn cynnwys asesiad digonol o ran a oedd gan ddiweddariad meddalwedd, a achosodd y broblem, y potensial i effeithio ar alwadau brys. O ganlyniad, methodd Vonage â chynnal profion yn dilyn y diweddariad, a arweiniodd at fethiant ei wasanaeth galwadau brys.
Methodd Vonage hefyd â chael gweithdrefnau monitro digonol ar waith, sy'n golygu nad oedd ganddo oruchwyliaeth ddigonol o'i rwydwaith i'w alluogi i nodi toriad sy'n effeithio ar alwadau brys.
Cosb ariannol
Rydym yn cymryd cydymffurfiaeth â'r gofynion hyn o ddifrif. Rydym wedi dod i'r casgliad bod Vonage wedi torri ein rheolau, ac rydym wedi rhoi dirwy o £700,000 i'r cwmni.[2]
Mae Vonage wedi gwneud nifer o newidiadau i'w brosesau i atal gwallau yn y dyfodol.
Dywedodd George Lusty, Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom: "Gall galw'r gwasanaethau brys olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Mae'n hanfodol bod darparwyr telathrebu yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ac os nad ydynt yn gwneud hynny, byddwn yn eu dwyn i gyfrif. Methodd Vonage ar nifer o lefelau, gan roi ei gwsmeriaid mewn perygl annerbyniol."
Byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau llawn ein hymchwiliad cyn bo hir.
Nodiadau i olygyddion:
- Amod Cyffredinol A3.2(b)
- Rhaid i Vonage dalu'r ddirwy o fewn pedair wythnos i'r penderfyniad hwn, a bydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i Drysorlys EM. Mae'n cynnwys gostyngiad o 30% o ganlyniad i gyfaddefiad Vonage o atebolrwydd a chytundeb i setlo'r achos.