Adroddiad ar wasanaethau mynediad teledu: chwe mis cyntaf 2025

Cyhoeddwyd: 21 Hydref 2025

Mae'r adroddiad hwn yn nodi i ba raddau y mae sianeli teledu sy’n cael eu darlledu wedi darparu is-deitlau, disgrifiadau sain a/neu iaith arwyddion ("gwasanaethau mynediad", gyda’i gilydd) rhwng Ionawr a Mehefin 2025.

O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae'n ofynnol i sianeli teledu sy’n cael eu darlledu sicrhau bod cyfran benodol o'u rhaglenni’n hygyrch. Mae'r Cod ar Wasanaethau Mynediad Teledu yn nodi'r rhwymedigaethau hyn.

Mae'n rhaid i ddarlledwyr gyrraedd targedau ar gyfer y gwahanol wasanaethau mynediad y maent yn eu darparu ar eu sianeli. Mae'r targedau hyn yn cael eu cyfrifo ar sail fforddiadwyedd ac am faint o amser y mae’n rhaid i’r sianel fod wedi darparu gwasanaethau mynediad. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae'r cwotâu hyn yn cael eu cyfrifo ar gael yn y Cod ar Wasanaethau Mynediad Teledu.

Mae'r cwotâu blynyddol ar gyfer sianeli darlledu yn cael eu dangos fel canran o'r oriau y mae'n rhaid eu darparu gyda phob gwasanaeth mynediad. Er hwylustod, mae Ofcom yn adrodd un ffigur ar gyfer y gwasanaethau mynediad a ddarperir ar gyfer pob sianel. Fodd bynnag, mae'r cwotâu yn berthnasol ar bob llwyfan darparu lle mae gwasanaeth yn cael ei reoleiddio. Mae'r cwotâu blynyddol yn cael eu cyfrifo ar sail blwyddyn galendr, ac rydym yn disgwyl i bob sianel fod wedi cyflawni'r cwotâu hyn erbyn diwedd y flwyddyn.

Gall sianeli sydd â chyfran o'r gynulleidfa rhwng 0.05% ac 1% yr opsiwn naill ai i ddarlledu swm penodol o raglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion bob mis neu gymryd rhan mewn trefniadau amgen sydd wedi’u cymeradwyo gan Ofcom, sy'n cyfrannu at sicrhau bod rhaglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion ar gael.

Pan fydd "LumoTV Contribution" yn cael ei ddangos yn yr adroddiad, mae hyn yn nodi bod y darlledwr wedi cyfrannu at LumoTV, sy'n comisiynu rhaglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion ac sy'n cael ei ddarlledu ar y sianeli Film4 a Together TV.

Pan fydd "Eithriad" yn cael ei nodi yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y sianeli wedi'u heithrio rhag darparu disgrifiad sain oherwydd anawsterau technegol a fyddai'n ei gwneud yn anymarferol gwneud hynny. Mae hyn oherwydd natur y cynnwys a ddarlledir ar y gwasanaethau hyn (e.e. rhaglenni newyddion) sy’n golygu nad oes llawer o le yn y deunydd sain i ddarparu disgrifiadau sain.

Yn yr un modd ag adroddiad canol blwyddyn y llynedd, ni fyddwn yn adrodd ar hygyrchedd gwasanaethau rhaglenni ar-alw ("ODPS") ar hyn o bryd a byddwn yn cyhoeddi data, mewn perthynas â ODPS a hysbyswyd, ar gyfer y flwyddyn lawn 2025 yng Ngwanwyn 2026.

Adroddiad rhyngweithiol

Rydym wedi darparu'r adroddiad hwn mewn fformat rhyngweithiol fel y gallwch gymharu hygyrchedd gwasanaethau darlledu ac ar-alw ar draws amrywiaeth o lwyfannau.

Am y profiad gorau, ehangwch i'r sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde isaf).

Noder bod yr isod yn Saesneg yn unig.

Mae'r set ddata lawn hefyd ar gael i'w lawrlwytho mewn fformat CSV (Saesneg yn unig).

Os oes gennych ofynion hygyrchedd nad ydynt wedi'u diwallu gan y cyhoeddiadau hyn, ac os hoffech ofyn am yr wybodaeth hon mewn fformat gwahanol, gallwch anfon e-bost accessibility@ofcom.org.uk neu ffonio ein Tîm Cymorth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 ar 020 7981 3040 neu 0300 123 3333.

Os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich lleferydd, gallwch ddefnyddio ein rhifau ffôn testun, sef 020 7981 3043 neu 0300 123 2024.