
Mae Ofcom wedi cyhoeddi canllawiau newydd i ddarlledwyr ar wleidyddion yn cyflwyno newyddion, yn dilyn ein hymgynghoriad ar y mater hwn.
Mae'r canllawiau, sy'n dod i rym o heddiw ymlaen, yn adlewyrchu'r dirwedd newyddion fodern ac yn rhoi arweiniad i ddarlledwyr sy'n defnyddio gwleidyddion fel cyflwynwyr mewn rhaglenni sy'n cynnwys newyddion.
Yn benodol, mae ein canllawiau diwygiedig yn egluro’r rhyngweithio rhwng ein rheol cywirdeb dyladwy a didueddrwydd mewn newyddion (5.1 o dan y Cod Darlledu), a'r rheol sy'n atal gwleidyddion rhag cyflwyno rhaglenni newyddion (5.3). Mae hefyd yn diweddaru'r diffiniad o 'wleidydd' i roi mwy o eglurder.
Mae ein dull gweithredu yn ystyried yr ymatebion i'n hymgynghoriad ac yn adlewyrchu canllawiau diweddar gan yr Uchel Lys ar y mater hwn mewn achos a gychwynnwyd gan GB News.[1] Rydym o'r farn ei bod yn darparu'r amddiffyniad cywir i gynulleidfaoedd wrth ddiogelu hawliau i ryddid mynegiant, ac yn adlewyrchu'r safonau uwch sydd wedi'u hymgorffori yn y gyfraith ar gyfer cynnwys newyddion.
Mae hyn yn golygu, yn dilyn ein hymgynghoriad, nad ydym o'r farn bod angen newid geiriad Rheol 5.3 ei hun fel yr oeddem yn ei gynnig yn wreiddiol.[2]
Archwilio'r ddadl
Mae mynediad at newyddion cywir a diduedd ar y teledu a'r radio yn hanfodol i gymdeithas ddemocrataidd. Or herwydd, rhoddir lefel uwch o amddiffyniad i newyddion darlledu o dan gyfraith y DU o gymharu â chynnwys nad yw'n newyddion.
Mae'r dirwedd newyddion wedi esblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r gwahaniaeth rhwng cynnwys newyddion a materion cyfoes wedi dod yn fwy aneglur i gynulleidfaoedd[3], ac er nad yw’n ddim byd newydd i wleidyddion gyflwyno rhaglenni materion cyfoes, mae wedi dod yn arfer golygyddol mwy sefydledig.
Er mwyn sicrhau bod ein rheolau darlledu yn cadw i fyny â'r newidiadau hyn, ac yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys yn gynharach eleni, gwnaethom lansio ymgynghoriad ynghylch gwleidyddion fel cyflwynwyr newyddion. Mae'r broses hon wedi ein galluogi i archwilio'r ddadl am yr arfer hwn ac i ddeall yn llawn safbwyntiau ystod eang o ddarlledwyr, cynulleidfaoedd, academyddion a rhanddeiliaid eraill.
Roedd yr ymatebion i'n hymgynghoriad wedi’u polareiddio, gan adlewyrchu'r ystod eang o safbwyntiau cyffredinol, ac roedd lefel uchel o gonsensws ymhlith darlledwyr o blaid cadw geiriad Rheol 5.3. Roedd llawer o ymatebwyr yn pryderu y byddai diwygio Rheol 5.3 yn cyflwyno heriau ymarferol sylweddol ac ansicrwydd gweithredol i ddarlledwyr, ac y byddai'n arwain yn anfwriadol at waharddiad de facto ar wleidyddion sy'n cyflwyno unrhyw fath o raglenni.
Ein penderfyniad yn fanwl
Bydd geiriad Rheol 5.3 yn aros yr un fath. Yn lle hynny, rydym wedi penderfynu bod cynulleidfaoedd yn cael eu diogelu’n ddigonol trwy'r cyfuniad presennol o Reolau 5.1 a 5.3, ond rydym wedi cyhoeddi Canllawiau diwygiedig i wneud y berthynas rhyngddynt yn gliriach, ac yn fwy perthnasol i'r dirwedd newyddion fodern. Yn benodol, rydym wedi penderfynu:
- diweddaru ein Canllawiau ar Reol 5.1, sy'n nodi bod yn rhaid adrodd newyddion, ar ba bynnag ffurf, gyda chywirdeb dyladwy a'u cyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy.
Mae ein gwelliannau’n ei gwneud yn glir pe bai AS yn cyflwyno newyddion mewn rhaglen nad yw'n newyddion, yna byddai eu statws fel AS yn debygol o fod yn ffactor perthnasol wrth ystyried p’un a gyflwynwyd y newyddion hynny gyda didueddrwydd dyladwy. Rydym yn egluro y byddem hefyd yn ystyried pob ffactor perthnasol eraill – gan gynnwys, er enghraifft, natur a phwnc y newyddion dan sylw a safbwynt gwleidyddol yr AS ar y mater hwnnw. Mae'r canllawiau newydd hefyd yn nodi, lle mae gwleidyddion yn cyflwyno newyddion mewn rhaglenni newyddion, fod Rheol 5.3 yn berthnasol.
- diweddaru ein Canllawiau ar Reol 5.3, sy'n nodi na chaniateir defnyddio unrhyw wleidydd fel darllenydd newyddion, cyfwelydd na gohebydd mewn unrhyw raglenni newyddion oni bai, yn eithriadol, ei fod wedi'i gyfiawnhau'n olygyddol. Yn yr achos hwnnw, rhaid egluro teyrngarwch gwleidyddol y person hwnnw yn glir i'r gynulleidfa.
Mae ein canllawiau diwygiedig yn cynnig eglurhad pellach ar ystyr "amgylchiadau eithriadol" – a ddiffinnir fel y rhai na ellir eu rheoli na'u rhagweld gan y darlledwr. Rydym hefyd yn egluro y byddem yn disgwyl i sefyllfaoedd o'r fath fod yn brin, ac i drwyddedeion sy'n defnyddio gwleidyddion fel cyflwynwyr roi trefniadau wrth gefn priodol ar waith i osgoi'r sefyllfaoedd hyn.
- diweddaru'r diffiniad o "gwleidydd" yn ein Canllawiau
Mae'r diffiniad newydd bellach yn cynnwys cyfeiriad at "aelodau o Dŷ'r Arglwyddi" a "chynrychiolwyr" pleidiau gwleidyddol, tra bod y cyfeiriad at "ymgyrchwyr" wedi'i ddileu.
Daw'r newidiadau hyn i'r Canllawiau i rym o heddiw.
Gwleidyddion fel cyflwynwyr mewn rhaglenni nad ydynt yn newyddion, gan gynnwys rhaglenni materion cyfoes
Nid oes unrhyw reol gan Ofcom sy'n atal gwleidydd rhag cyflwyno neu ymddangos ar raglen deledu neu radio – ar yr amod nad ydynt yn sefyll mewn etholiad sy'n digwydd, neu ar fin digwydd, a bod y rhaglen fel arall yn cydymffurfio â'r Cod Darlledu.
Roedd rhai ymatebwyr eisiau i ni ymestyn ein rheolau i atal gwleidyddion rhag cyflwyno rhaglenni nad ydynt yn newyddion, gan gynnwys rhaglenni materion cyfoes, ond mae hyn y tu allan i gwmpas ein hymgynghoriad.
Mae ein Cod Darlledu yn cynnwys rheolau cadarn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddarlledwyr gynnal didueddrwydd dyladwy ar faterion – a materion pwysig – sy’n ymwneud â dadleuon gwleidyddol neu ddiwydiannol a pholisi cyhoeddus cyfredol. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i unrhyw raglen sy'n ymdrin â materion a phynciau o'r fath, gan gynnwys rhaglenni materion cyfoes a gyflwynir gan wleidyddion. Os bydd rhaglen yn codi materion o dan y rheolau hyn, bythwn yn mynd ati’n syth i ymchwilio a chymryd camau gorfodi priodol, fel yr ydym wedi'i wneud sawl gwaith o'r blaen.
Rydym yn cydnabod bod hwn yn faes lle dylid ystyried disgwyliadau cynulleidfa sy'n esblygu. Byddwn yn ystyried cynnal ymchwil bellach i agweddau cynulleidfaoedd tuag at newyddion a materion cyfoes ar y teledu a'r radio.
Dywedodd Cristina Nicolotti Squires, Cyfarwyddwr y Grŵp Darlledu: "Rydym wedi gwrando'n ofalus ar safbwyntiau cynulleidfaoedd, darlledwyr ac arbenigwyr eraill drwy ein hymgynghoriad.
"Mae ein canllawiau wedi'u diweddaru yn darparu'r amddiffyniad cywir i gynulleidfaoedd, tra hefyd yn diogelu rhyddid mynegiant a disgresiwn golygyddol darlledwyr i ddewis eu cyflwynwyr."
Nodiadau
- Ar 28 Chwefror 2025, cyhoeddodd yr Uchel Lys ei ddyfarniad - R (ar gais GB News Limited) v Ofcom [2025] EWHC 460 (Gweinyddol). Canfu'r Uchel Lys, yn ôl y gyfraith, na all rhaglen fod yn rhaglen newyddion a rhaglen materion cyfoes ar yr un pryd. Dyfarnodd, fel y’i geiriwyd ar hyn o bryd, fod Rheol 5.3 yn berthnasol i wleidyddion sy'n gweithredu fel darllenydd newyddion, cyfwelydd newyddion neu ohebydd newyddion mewn "rhaglenni newyddion" yn unig. Cadarnhaodd y dyfarniad fod gwleidyddion sy'n gweithredu fel darllenydd newyddion, cyfwelydd newyddion neu ohebydd newyddion mewn unrhyw raglenni eraill, gan gynnwys rhaglenni materion cyfoes, yn dod y tu allan i Reol 5.3 ac yn cael eu rheoleiddio o dan Reol 5.1.
- Fe wnaethom ymgynghori ar gynnig i newid Rheol 5.3 i: Ni chaniateir defnyddio unrhyw wleidydd fel darllenydd newyddion, cyfwelydd newyddion na gohebydd newyddion mewn unrhyw fath o raglenni oni bai, yn eithriadol, ei fod wedi'i gyfiawnhau’n olygyddol. Yn yr achos hwnnw, rhaid egluro teyrngarwch gwleidyddol y person hwnnw yn glir i'r gynulleidfa.
- Mae cynulleidfaoedd bellach yn gweld a gwrando’n rheolaidd ar newyddion sydd wedi'u cynnwys mewn rhaglenni sydd hefyd yn cynnwys cynnwys nad yw'n newyddion, fel rhaglenni cylchgrawn dyddiol. Gellir cynnwys newyddion o fewn rhaglen nad yw'n rhaglen newyddion heb iddi gael ei gwahanu’n glir oedd wrth weddill y rhaglen fel gyda bwletin newyddion confensiynol. Er enghraifft, gellid cynnwys fflach newyddion am ddigwyddiad newyddion sy’n newydd torri neu ddiweddariad ar stori sy'n datblygu mewn rhaglen materion cyfoes fyw. Yn achos allbwn newyddion a materion cyfoes, gall darlledwyr symud fwy neu lai yn ddi-dor rhwng y mathau hyn o gynnwys. Nid oes diffiniad o "newyddion" wedi'i gynnwys yn y Cod Darlledu. Mae'n bwysig nodi nad oedd y Senedd yn diffinio "newyddion" yn y Ddeddf ac roedd yn amlwg ei fod yn bwriadu i fod yn eang ac yn berthnasol i "newyddion ym mha bynnag ffurf"