Mae ein Pecyn Cymorth Gwerthuso yn ganllaw ‘sut i’ ar gyfer cynllunio a chynnal gwerthusiad o ymyriad ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
Aethom ati i greu’r pecyn cymorth hwn oherwydd ein bod am rymuso’r rheini sy’n cynnal ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i werthuso’u prosiectau eu hunain, a defnyddio a rhannu’r canfyddiadau hynny i gefnogi darparu mentrau mwy effeithiol yn y dyfodol.
Mae'r pecyn cymorth yn cael ei ategu gan ein banc canlyniadau, set o 27 o ganlyniadau gydag enghreifftiau o ddangosyddion a chwestiynau arolwg, wedi'u strwythuro o amgylch pum maes, â phob un yn cyfateb ag agwedd wahanol ar lythrennedd yn y cyfryngau. Gall gynorthwyo gyda chynllunio cychwynnol trwy eich helpu i ddewis canlyniadau priodol ar gyfer gweithgareddau prosiect, a darparu ysbrydoliaeth ar gyfer dangosyddion a chasglu data. Gallwch ddod o hyd i'r banc canlyniadau isod.
Caiff y canllaw ei ategu gan ddwy lyfrgell ar-lein y gellir eu chwilio:
Dyma'r drydedd fersiwn o'r pecyn cymorth a'r dogfennau ategol ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf ym mis Chwefror 2023. Mae'r fersiwn ddiwddaraf hon, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2026, yn seiliedig ar argymhellion o adolygiadau a gomisiynwyd gennym ym mis Mawrth 2023 a mis Medi 2025.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch ni yn makingsenseofmedia@ofcom.org.uk

Pecyn cymorth gwerthuso
Adnoddau
Llyfrgell mentrau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau
Mae'r llyfrgell hon yn darparu gwybodaeth am fentrau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau a allai fod o ddiddordeb i sefydliadau sy'n chwilio'n fwy cyffredinol am fewnwelediad i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.
Er mai ein nod yw gwneud y llyfrgell yn adnodd defnyddiol ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, noder nad yw cael ei gynnwys yn y llyfrgell hon yn awgrymu bod Ofcom yn cymeradwyo menter neu sefydliad.
Gyrrwch e-bost atom yn makingsenseofmedia@ofcom.org.uk os dymunwch enwebu sefydliad neu fenter i gael ei ystyried i'w gynnwys yn y gronfa ddata, ac am y meini prawf cynnwys. Byddwn ond yn cynnwys rhaglenni yr ystyriwn eu bod yn berthnasol.
Llyfrgell ymchwil ymwybyddiaeth o'r cyfryngau
Mae'r llyfrgell hon yn darparu gwybodaeth am adroddiadau ymchwil sydd ar gael ar-lein yn gyhoeddus ac a allai fod o ddiddordeb i sefydliadau sy'n chwilio am gymaryddion ymddygiad, neu fewnwelediadau agweddol i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.
Er mai ein nod yw gwneud y llyfrgell yn adnodd defnyddiol ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, noder nad yw cael ei chynnwys yn y llyfrgell hon yn awgrymu bod Ofcom yn cymeradwyo'r ymchwil neu ei chanfyddiadau.
Cysylltwch â ni yn makingsenseofmedia@ofcom.org.uk os dymunwch gyflwyno ymchwil i gael ei hystyried i'w chynnwys, ac am y meini prawf cynnwys. Byddwn ond yn cynnwys ymchwil mynediad agored a gyhoeddwyd ers 2018 sydd ar gael yn gyhoeddus, yr ystyriwn ei bod yn berthnasol.