Ar y dudalen hon, mae rhagor o wybodaeth a dolenni i gefnogi eich ymholiad trwyddedu. Os oes angen cymorth arnoch chi gyda’r broses amrywio meysydd electromagnetig, ewch yn ôl i’n our tudalen Meysydd Electromagnetig.
Porth trwyddedu
Os ydych yn drwyddedai awyrennol, amatur, radio Busnes, EHF, mynediad a rennir neu drwyddedai radio llong ac eisoes wedi cofrestru gyda ni, gallwch reoli eich trwydded yn gyflym ac yn effeithlon ar-lein. Dilynwch y ddolen ‘mewngofnodi’ isod.
Os nad ydych chi wedi defnyddio ein gwasanaethau ar-lein o’r blaen, gallwch chi gofrestru drwy ddilyn y ddolen isod a byddwn yn anfon eich manylion mewngofnodi atoch chi. Fel defnyddiwr ar-lein, gallwch chi wneud cais am drwyddedau newydd neu dalu amdanynt, ildio trwyddedau presennol a newid eich manylion – i gyd mewn un lle.
Cymorth a gwybodaeth ar gyfer pob trwyddedai
Ar gyfer pob trwydded arall, gan gynnwys trwydded Amatur a Llongau, gallwch chi ddod o hyd i gymorth a gwybodaeth drwy ddilyn y dolenni isod.