Mae'r gwirwyr ffôn symudol a band eang yn gadael i chi nodi cod post i weld darpariaeth yn ôl darparwr, neu argaeledd gwasanaethau band eang (safonol, cyflym iawn ac uwchgyflym). Gallwch hefyd weld y canlyniadau fel mapiau rhyngweithiol.
Gallwch weld y gwiriwr yn y Gymraeg neu Saesneg drwy newid iaith ar frig y dudalen ar y dde. Am ragor o wybodaeth am y gwiriwr, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin am ffonau symudol a Chwestiynau Cyffredin Band Eang.
API band eang a data symudol
Mae data band eang sefydlog a data ffôn symudol hefyd ar gael i ddatblygwyr trwy API.
Eisiau gwirio statws y rhwydwaith yn eich ardal?
Ni all ein gwiriwr darpariaeth ddweud wrthych am waith cynnal a chadw na phroblemau a adroddwyd amdanynt yn eich ardal. Efallai bod gan eich darparwr y wybodaeth hon ar eu gwefan.
A yw eich band eang yn rhy araf?
Os na allwch gael cyflymder lawrlwytho o 10Mbit yr eiliad, efallai eich bod yn gymwys ar gyfer y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol (USO) band eang.