Mae Ofcom yn cyhoeddi datganiad sy'n nodi mesurau newydd i'w cynnwys yn y Codau Ymarfer Cynnwys Anghyfreithlon i fynd i'r afael â cham-drin delweddau personol ar-lein. Mae'r datganiad hwn yn nodi ein penderfyniad i argymell y dylai rhai darparwyr gwasanaeth ddefnyddio technoleg 'paru hash' i ganfod cam-drin delweddau personol a lleihau ei ledaeniad ar-lein.
Creodd y Ddeddf rhannu neu fygwth rhannu delweddau personol heb ganiatâd ('cam-drin delweddau personol') yn droseddau. Mae cam-drin delweddau personol yn gallu cael effeithiau seicolegol, emosiynol, proffesiynol a pherthynol negyddol dwys i oroeswyr a dioddefwyr, wedi'u gwaethygu gan yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth geisio cael cynnwys wedi’u ddileu, a'r ofn y gallai ailymddangos ar-lein. Mae cam-drin delweddau personol yn niwed eang, mae tystiolaeth yn awgrymu ei fod yn cynyddu o ran nifer yr achosion, ac mae amlhau offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (GenAI) yn achosi cynnydd pellach. Gan adlewyrchu difrifoldeb y datblygiad hwn, mae Senedd y DU wedi penderfynu ei gwneud yn drosedd i wneud neu gyflenwi offer AI y gellir eu defnyddio i greu delweddau personol.
Mae rhai darparwyr gwasanaeth eisoes yn defnyddio paru hash i fynd i'r afael â cham-drin delweddau personol, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu ei fod yn offeryn effeithiol ar gyfer canfod delweddau personol sydd wedi'u rhannu heb ganiatâd. Gall defnydd mwy eang o baru hash helpu i leihau faint o gam-drin delweddau personol sy'n cael eu rhannu a'u gweld ar-lein.
Ym mis Mehefin 2025, gwnaethom ymgynghori ar nifer o fesurau diogelwch ychwanegol, gan gynnwys argymhelliad bod rhai darparwyr gwasanaeth yn defnyddio technoleg paru hash i ganfod cam-drin delweddau personol. Ar ôl ystyried adborth y rhanddeiliaid yn ofalus, rydym wedi penderfynu cadarnhau'r argymhelliad hwn cyn y mesurau diogelwch ychwanegol eraill a gynigiwyd yn ymgynghoriad Mehefin 2025. Wrth argymell y mesur hwn, ein nod yw bod darparwyr gwasanaeth yn defnyddio cronfa ddata baru hash sy'n cyfateb neu'n well na'r gronfa ddata trydydd parti blaenllaw, StopNCII.org, a fydd yn lleihau’r achosion o gam-drin delweddau personol ar eu gwasanaethau yn sylweddol.