Mae sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau band eang sefydlog a gwasanaethau rhyngrwyd symudol yn flaenoriaeth i Ofcom. Rydyn ni am i bobl allu cael gafael ar wasanaethau o ansawdd uchel am brisiau y maen nhw’n gallu eu fforddio.
Ers mis Rhagfyr 2020, rydyn ni wedi cyhoeddi adroddiadau sy’n:
- rhoi crynodeb o’n hymchwil i fforddadwyedd gwasanaethau cyfathrebu; a
- rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd, ymwybyddiaeth a’r nifer sy’n defnyddio tariffau band eang cymdeithasol.
Crynodeb o’r canfyddiadau – Ebrill 2023
Fforddadwyedd gwasanaethau cyfathrebu: Diweddariad Ebrill 2023 (PDF, 784.1 KB)
Ein gwaith ar dariffau cymdeithasol
Mae tariffau cymdeithasol yn becynnau band eang a ffôn rhatach i bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill. Gall y pecynnau rhatach hyn helpu aelwydydd i fforddio eu gwasanaethau cyfathrebu. Ers mis Rhagfyr 2020, mae mwy a mwy o ddarparwyr band eang sefydlog a symudol yn cyflwyno tariffau cymdeithasol – sy’n golygu eu bod bellach ar gael i nifer dda o gartrefi ledled y DU. Ond rydyn ni hefyd wedi gweld bod y nifer sy’n manteisio arnynt (fel cyfran o’r aelwydydd cymwys) yn dal yn isel.
Byddwn yn parhau i fonitro argaeledd tariffau cymdeithasol yn y marchnadoedd band eang sefydlog a band eang symudol. Byddwn hefyd yn diweddaru ein gwefan gan nodi rhestr o’r tariffau sydd ar gael.
Ein hymchwil ar fforddadwyedd
Drwy ein Traciwr Fforddadwyedd Cyfathrebu, cyhoeddir ddwywaith y flwyddyn, byddwn yn parhau i asesu agweddau ac ymddygiad defnyddwyr o ran fforddadwyedd gwasanaethau cyfathrebu, a sut maen nhw’n newid.