Gwneud rhaglenni a digwyddiadau arbennig (PMSE)

Cyhoeddwyd: 27 Mehefin 2010
Diweddarwyd diwethaf: 21 Ionawr 2026

Newidiadau pwysig i'r defnydd o sbectrwm PMSE (978 MHz ar gyfer sain PMSE a dronau)

O 11 Mawrth 2025 ni  fydd 976.5 MHz i 979.5 MHz ar gael i'w  ddefnyddio ar gyfer sain PSME awyr agored.

Gall defnyddwyr PMSE wneud cais am yr amleddau hyn i'w defnyddio dan do (gydag uchafswm pŵer ymbelydredig o 50mW).  Ni fydd yr amleddau hyn ar gael i'w harchebu ar borth gwe PMSE Rhaid anfon unrhyw geisiadau am drwydded ar gyfer yr amleddau hyn at pmse@ofcom.org.uk  

Y rheswm am y newid hwn yw bod y band hwn yn cael ei rannu ag offer diogelwch awyrennol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Gall defnyddwyr PMSE hefyd nawr ddefnyddio 1015-1016 MHz; 1044-1045 MHz1075-1076 MHz a 1104-1105 MHz (dan do ac awyr agored) - nad oedd ar gael i'w ddefnyddio o'r blaen. O 11 Mawrth 2025 ymlaen, mae'r amleddau hyn ar gael i'w harchebu trwy borth gwe PMSE.

Os ydych yn defnyddio meicroffonau di-wifr, dyfeisiau ‘talkback’ (walkie-talkie) a gwasanaethau cynhyrchu ar gyfer radio a theledu, bydd angen trwydded gwneud rhaglenni a digwyddiadau arbennig arnoch chi. Mae hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith os ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â pherfformiad neu ddigwyddiad.

Ionawr 2026 - Diweddariad ar ein hadolygiad o sbectrwm PMSE

Mae Ofcom yn adolygu'r defnydd o sbectrwm gan gymwysiadau PMSE sain a fideo i sicrhau bod ein penderfyniadau rheoli sbectrwm yn parhau i gefnogi'r sector i ddarparu manteision i ddinasyddion y DU a'r economi ehangach.

Rydym bellach wedi cyhoeddi Galwad am Fewnbwn yn gwahodd rhanddeiliaid - gan gynnwys defnyddwyr PMSE a gweithgynhyrchwyr offer - i ddarparu gwybodaeth i lywio ein hadolygiad.  


Mai 2022 – Nodyn Atgoffa Pwysig

Cofiwch ein bod yn ceisio prosesu ceisiadau am drwyddedau o fewn tri diwrnod gwaith ond efallai y bydd yn cymryd mwy o amser yn ystod cyfnodau prysur (mis Ebrill i fis Medi). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried yr amserlen hon wrth gyflwyno ceisiadau.

Mae’n ofyniad cyfreithiol bod trwydded Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr yn cael ei rhoi gan Ofcom cyn i chi ddechrau darlledu a bod eich offer yn cael ei weithredu yn unol â’ch trwydded. Mae’r cosbau am ddefnydd heb awdurdod yn amrywio ond gallant gynnwys dirwyon mawr a charchar, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich cais gyda digon o amser i roi’r drwydded briodol ar waith.

Gellir gwneud y rhan fwyaf o geisiadau yn gyflym ac yn effeithlon ar-lein hefyd heb fod angen aros. Tarwch olwg ar y dudalen ‘Gwneud cais am Drwydded Gwneud Rhaglenni a Digwyddiadau Arbennig’ i gael rhagor o wybodaeth neu i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.