Gwleidyddion yn cyflwyno newyddion: Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i Reol 5.3 o God Darlledu Ofcom

Cyhoeddwyd: 12 Mai 2025
Ymgynghori yn cau: 23 Mehefin 2025
Statws: Datganiad ar y gweill (Wedi'i Gau)
Diweddarwyd diwethaf: 20 Hydref 2025

Datganiad 20 Hydref 2025

Rhwng 12 Mai a 23 Mehefin 2025, ymgynghorodd Ofcom ar ddiwygiad arfaethedig i Reol 5.3 o God Darlledu Ofcom i atal  wleidyddion rhag cyflwyno newyddion mewn unrhyw fath o raglen deledu neu radio. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ar ddiwygiadau arfaethedig i Ganllawiau Ofcom ar y rheol hon. Mae'r datganiad hwn yn crynhoi'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn nodi ein casgliadau.

Yr hyn rydyn ni wedi'i benderfynu – yn gryno

Mae'r ymgynghoriad wedi ein galluogi i archwilio'r ddadl ynghylch gwleidyddion fel cyflwynwyr newyddion. Ar ôl ystyried ystod eang o safbwyntiau, nid ydym o'r farn bod angen newid geiriad Rheol 5.3 a'r Canllawiau fel gwnaethom eu cynnig yn wreiddiol. Bydd Rheol 5.3 yn aros yn ei ffurf bresennol.

Fodd bynnag, rydym wedi diwygio'r Canllawiau ar Reol 5.1 i esbonio'n glir y rhyngweithio rhwng Rheol 5.1 (sy'n gofyn am gywirdeb priodol a didueddrwydd mewn newyddion) a Rheol 5.3 (sy'n cyfyngu ar wleidyddion rhag cyflwyno rhaglenni newyddion). Yn ogystal, rydym wedi diwygio'r diffiniad o "gwleidydd" ac wedi gwneud newidiadau pellach i'r Canllawiau ar Reol 5.3 i roi mwy o eglurder i ddarlledwyr. Mae'r Canllawiau diwygiedig ar gyfer y ddwy reol bellach mewn grym.

Rydym yn cydnabod bod hwn yn faes lle mae'n rhaid i ni aros yn ymwybodol o ddisgwyliadau cynulleidfa sy'n esblyguFelly, byddwn yn archwilio cynnal ymchwil pellach i agweddau cynulleidfaoedd tuag at newyddion a chynnwys materion cyfoes ar y teledu a'r radio.

Ymatebion

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Adolygiad o ymgynghoriad Rheol 5.3: Gwleidyddion yn cyflwyno newyddion
Tîm Safonau – Y Grŵp Darlledu a’r Cyfryngau
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA