Canllawiau mewn perthynas â rhaglenni

Cyhoeddwyd: 26 Mai 2010
Diweddarwyd diwethaf: 19 Chwefror 2026

Canllawiau mewn perthynas â chynnwys a safonau darlledu

Ar 7 Mai 2026 cynhelir: etholiadau yng Nghymru ar gyfer Senedd Cymru ac yn yr Alban ar gyfer Senedd yr Alban; ac etholiadau lleol (maerol) sy'n digwydd mewn rhai rhannau o Loegr.

Er mwyn helpu darlledwyr i wneud penderfyniadau golygyddol yn ystod ymgyrchoedd etholiadol, rydym yn cyhoeddi crynodeb o dystiolaeth o gefnogaeth etholiadol flaenorol (h.y. canlyniadau etholiadol) a thystiolaeth o gefnogaeth gyfredol (ar ffurf arolygon barn).

Tystiolaeth o gefnogaeth mewn etholiadau'r gorffennol ac o gefnogaeth bresennol cyn yr etholiadau sydd i'w cynnal ar 7 Mai 2026

Mae'r canllawiau hyn i gynorthwyo'r darlledwyr hynny sydd â chynnwys hysbysebu PTV seicig ac yn benodol i dynnu sylw at ddehongliad tebygol Ofcom o reolau perthnasol Cod BCAP sy'n ymwneud â rhai materion cydymffurfio.

Ofcom guidance on Psychic television services predicated on premium rate telephony services (PDF, 51.8 KB) - Rhagfyr 2011  

Mae Ofcom wedi contractio allan reoleiddio'r rhan fwyaf o agweddau ar hysbysebu darlledu i'r ASA, ond mae'n cadw cyfrifoldeb am hysbysebu gwasanaethau adloniant rhywiol sy'n seiliedig ar delathrebu a phob gwasanaeth 'teledu cyfranogiad' (PTV) arall.

Guidance on the advertising of telecommunications-based sexual entertainment services and PRS daytime chat services (PDF, 88.1 KB) - diwygiwyd 15 Gorffennaf 2013

Mae'r nodyn canllaw hwn yn cynrychioli dull newydd o reoleiddio dyletswydd C4C i ddarparu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar draws ystod lawn ei lwyfannau cyfryngau, gan gynnwys Channel 4, sianeli digidol eraill, Film 4 ac ar-lein.

Guidance note for completion of C4C combined statement of programme and media content policy (PDF, 149.0 KB) - 15 Chwefror 2013

Mae'r ddogfen hon yn cynnwys y Rheolau y mae Ofcom wedi'u gwneud yn unol ag adran 333 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Mae'r Rheolau'n adlewyrchu'r gofynion sylfaenol y mae'n ofynnol i Drwyddedeion eu dilyn wrth benderfynu ar hyd, amlder, dyraniad a/neu amserlennu darllediadau gwleidyddol pleidiau neu ymgyrchoedd refferenda.

Ofcom rules on Party Political and Referendum Broadcasts (PDF, 206.9 KB) – 1 Ionawr 2021  

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i benderfyniad Ofcom ar anghydfodau heb eu datrys rhwng pleidiau gwleidyddol a thrwyddedai darlledu o dan reolau Ofcom ar Ddarllediadau Gwleidyddol a Refferendwm (Rheolau PPRB Ofcom):

Procedures for determination of disputes under Ofcom's rules on Party Political and Referendum Broadcasts (PDF, 129.4 KB) - diwygiwyd 22 Mawrth 2017  

Mae pob trwydded darlledu teledu Ofcom yn cynnwys amod bod trwyddedai yn gweithredu ac yn cynnal system i wirio bod cyfathrebiadau ffôn cyfradd premiwm yn cael eu trin yn briodol.

Guidance to television broadcasters on verification obligations for the use of premium rate services in programmes (PDF, 139.0 KB)