Mae radio yn parhau i fod yn boblogaidd iawn yn y DU, gyda bron i 9 o bob 10 o bobl yn gwrando ar wasanaeth radio bob wythnos. Wrth i fwy o wrando digwydd dros y rhyngrwyd, er enghraifft trwy seinydd clyfar, mae'n bwysig y gall cynulleidfaoedd gael mynediad hawdd at radio'r DU ar-lein trwy wasanaethau sy'n cael eu hysgogi gan lais.
Mae Deddf y Cyfryngau yn cyflwyno set o reolau am y tro cyntaf sy'n anelu at ddiogelu argaeledd radio'r DU ar ddyfeisiau sain gysylltiedig. Mae'n rheoleiddio rhai gwasanaethau ar-lein sy'n cael eu hysgogi gan lais – gwasanaethau dewis radio, neu RSS – sydd wedi'u dynodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol ('DRSS'). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i DRSS ddarparu ffrydiau ar-lein o wasanaeth radio darlledu yn y DU yn ddibynadwy mewn ymateb i orchymyn llais defnyddiwr, ymhlith gofynion eraill.
Mae gan Ofcom nifer o rolau mewn perthynas â'r fframwaith rheoleiddio newydd hwn ar gyfer ffrydiau radio ar-lein. Ein rôl gyntaf yw darparu adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud argymhellion ynghylch pa wasanaethau dewis radio y dylid eu dynodi. Ysgrifennydd Gwladol sydd i benderfynu pa rai o'r RSS sydd ar gael yn y DU sydd wedi'u dynodi. Cyn i ni ddarparu'r adroddiad hwnnw, rhaid i ni ddatblygu set o egwyddorion a dulliau y byddwn yn eu defnyddio i gyrraedd yr argymhellion yn yr adroddiad. Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi ein cynigion ar gyfer yr egwyddorion a'r dulliau hyn.
Prif ddogfennau
Ymchwil (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig)
Ymatebion (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig)
Gwybodaeth cyswllt
Media Act – Part 6 team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA