Bydd gorsafoedd radio cymunedol ledled y DU yn elwa o gynnydd sylweddol yn y Gronfa Radio Cymunedol, yn dilyn cynnydd mewn cyllid gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS)..
Mae'r Gronfa Radio Cymunedol yn rhaglen grantiau a sefydlwyd i gefnogi costau gweithredu craidd gorsafoedd radio cymunedol sydd â thrwydded gan Ofcom. Mae’r gorsafoedd hyn yn rhai nid-er-elw a’u nod yw gwasanaethu cymunedau penodol drwy ddarparu buddion cymdeithasol a rhaglenni lleol. Mae'r rhaglen grantiau yn cael ei dyrannu gan DCMS a'i rhedeg gan Ofcom.
Eleni, bydd y gronfa’n cael hwb o £600,000 gan ddod â’r cyfanswm i £1 miliwn. Bydd £900,000 ar gael fel grantiau, gyda’r £100,000 ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu mentrau newydd sy’n cefnogi radio cymunedol – dan reolaeth y DCMS.
Mae’r cynnydd mewn cyllid yn hwb calonogol i’r sector radio cymunedol, gyda’r galw am gyllid wedi bod yn uwch na’r hyn a oedd ar gael yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd lefel y diddordeb mewn gorsafoedd cymunedol.
Dywedodd Mark Jones, Cadeirydd y Gronfa Radio Cymunedol: “Gyda’r gronfa wedi mwy na dyblu ar gyfer eleni, byddwn yn gallu cefnogi swyddi newydd mewn mwy fyth o orsafoedd. Bydd hyn yn helpu gorsafoedd radio cymunedol i weithredu’n gynaliadwy a pharhau i wasanaethu eu hardaloedd lleol gyda rhaglenni creadigol ac unigryw.”
Dywedodd Stephanie Peacock, Gweinidog dros y Cyfryngau: “Mae radio cymunedol yn chwarae rhan bwysig ym mywydau llawer o bobl ledled y DU, gan eu helpu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf a chael eu diddanu a’u cysylltu â’r byd o’u cwmpas. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau twf a chynaliadwyedd y sector, a dyna pam rydym wedi rhoi mwy o gyllid i helpu gorsafoedd i greu mwy o swyddi, datblygu eu busnesau a chyrraedd mwy fyth o wrandawyr.”
Llwyddodd All FM, gorsaf radio gymunedol ym Manceinion, i ennill grant ar gyfer prosiect i hyfforddi 11 o ffoaduriaid mewn sgiliau cynhyrchu radio, gan arwain at sioeau byw.
Dywedodd Ed Connole, Cyfarwyddwr All FM: “Mae’r gefnogaeth gan y Gronfa Radio Cymunedol wedi ein helpu i hyfforddi ac ymgysylltu â'r bobl yn ein cymuned a oedd mewn perygl o gael eu heithrio. Drwy’r cyllid hwn, roeddem yn gallu hyfforddi ac yna eu helpu i gynhyrchu sioe radio. Rydym hefyd wedi gallu gwella eu sgiliau a rhoi llais iddyn nhw.”
Roedd Voice FM, gorsaf radio gymunedol yn Southampton, wedi defnyddio eu grant i gyflogi Marchnadwr a Chodwr Arian llawrydd i helpu’r orsaf i fod yn fwy cynaliadwy.
Dywedodd Xan Phillips, Rheolwr Gorsaf Voice FM: “Rhoddodd y Gronfa Radio Cymunedol gyfle i ni gael ein gwynt atom a’n galluogi i gael cymorth allanol, casglu ein meddyliau ac asesu lle gallem fod yn defnyddio ein hadnoddau’n well. Buom yn defnyddio gwasanaethau Carline Day o Wellbeing Dynamics i gael gwared ar hen arferion a hen ffyrdd o feddwl, a’r canlyniad oedd rhwydweithio mwy penodol, gyda neges gliriach a mwy cadarn, gan ddefnyddio adnoddau marchnata o’r gymuned leol.”
Oherwydd y cynnydd sylweddol mewn cyllid, bydd Ofcom nawr yn gweinyddu un rownd o gyllid yn hytrach na’r ddwy rownd arferol. Mae hyn er mwyn rhoi mwy o amser i ymgeiswyr baratoi, ac i sicrhau effeithlonrwydd yn y broses.
Ni fydd cwmpas y gronfa yn newid, felly bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynaliadwyedd gorsafoedd radio cymunedol trwyddedig Ofcom, fel y nodir yn y nodiadau cyfarwyddyd.
Disgwylir i’r cyfnod ymgeisio ar gyfer cylch 2025-26 agor ddechrau mis Medi.