Mae Ofcom wedi cydsynio i gais gan Sky UK Limited (“Sky”) i ddarlledu cynnwys byw ac ecsgliwsif o’r gemau prawf criced dynion a fydd yn cael eu chwarae yn Lloegr rhwng 2025 a 2028 (“y gemau”).
Mae Sky yn bwriadu darlledu’r gemau’n fyw ar ei sianeli Sky Sports. Mae’r BBC wedi cael hawliau i ddangos uchafbwyntiau’r gemau, yn ogystal â hawliau i ddarparu sylwebaeth radio fyw ar y gemau ar BBC Radio 5 Live neu BBC Radio 5 Sports Extra.
Mae’r gemau prawf criced a chwaraeir yn Lloegr wedi’u dynodi’n ddigwyddiadau rhestredig Grŵp B at ddibenion Deddf Darlledu 1996 (“y Ddeddf”). Mae angen caniatâd Ofcom i ddarlledu cynnwys teledu yn fyw ac yn ecsgliwsif o ddigwyddiadau rhestredig o dan adran 101 o’r Ddeddf.
Fodd bynnag, pan fydd ail ddarlledwr – y BBC yn yr achos hwn – yn rhoi digon o sylw eilaidd i ddigwyddiad rhestredig Grŵp B, a’i fod wedi cael yr hawliau i ddarlledu cynnwys byw ar radio cenedlaethol, gall Ofcom roi caniatâd ‘awtomatig’ i ddarlledu heb ymgynghori.
Mae paragraffau 1.18 i 1.21 Cod Ofcom ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill yn nodi bod yn rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir gan y darlledwyr fod mewn categorïau gwahanol ac yn darparu rhagor o wybodaeth am yr hyn mae digon o sylw eilaidd yn ei olygu. Yn yr achos hwn, mae sianeli Sky Sports yn “wasanaethau anghymwys” at ddibenion y Ddeddf, ac mae gwasanaethau’r BBC yn “wasanaethau cymwys”.
Ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd gan Sky, a’r wybodaeth ategol a ddarparwyd gan y BBC, mae Ofcom yn fodlon bod darpariaeth ddigonol wedi cael ei gwneud o ran darlledu eilaidd ac ar y radio, fel y nodir uchod, ac mae wedi penderfynu rhoi cydsyniad ‘awtomatig’ i gais Sky.