Datganiad: Canllawiau diwygiedig ar gyfer Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus ar Godau Ymarfer Comisiynu

Cyhoeddwyd: 27 Ionawr 2025
Ymgynghori yn cau: 10 Mawrth 2025
Statws: Datganiad ar y gweill (Wedi'i Gau)
Diweddarwyd diwethaf: 22 Gorffennaf 2025

Mae cynyrchiadau annibynnol yn elfen bwysig o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus (‘PSM’). Maent yn gwneud cyfraniad hanfodol at yr ystod o gynnwys o ansawdd uchel, creadigol ac amrywiol sydd ar gael gan y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus (‘PSBs’) i ddiwallu anghenion a bodloni buddiannau cynulleidfaoedd ledled y DU. Mae’r PSBs yn cefnogi ac yn dibynnu ar sector cynhyrchu annibynnol y DU i gynhyrchu cynnwys PSM sy’n diwallu anghenion esblygol y gynulleidfa ac yn cynrychioli amrywiaeth y DU.

Mae'n ofynnol i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gael Cod y maent yn ei ddilyn wrth gomisiynu cynyrchiadau annibynnol ac sy'n adlewyrchu Canllawiau Ofcom.

O ganlyniad i newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf y Cyfryngau 2024 i ddiweddaru'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus, rydym wedi gwneud newidiadau i'r canllawiau hyn. Mae'r newidiadau'n rhoi mwy o hyblygrwydd a rhyddid i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus o ran sut maen nhw'n cyflawni eu cwotâu ar gyfer cynyrchiadau annibynnol, drwy eu galluogi i ddefnyddio eu chwaraewyr ar-alw i fodloni cwotâu cynyrchiadau annibynnol.

Mewn ymateb i fesur tryloywder newydd Deddf y Cyfryngau, rydym hefyd wedi cynnwys darpariaethau yn ein Canllawiau i sicrhau bod cynhyrchwyr annibynnol yn ymwybodol o God y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus cyn negodi contract comisiynu gyda'r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus hwnnw.

Gan nad ydym wedi diwygio ein Canllawiau ers 2007, rydym wedi gwneud newidiadau pellach i ddiweddaru'r iaith.

Ymatebion

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Tîm Polisi Cynnwys/Content Policy Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA