Women in tech pledge web

Sbarduno newid gyda'n gilydd: Dathlu dwy flynedd o'r addewid Menywod mewn Technoleg

Cyhoeddwyd: 23 Mehefin 2025

Mae heddiw yn nodi dwy flynedd ers i Ofcom a rhai o sefydliadau telathrebu a thechnoleg fwyaf y DU lofnodi addewid i ddenu, cadw a hyrwyddo menywod mewn rolau sy’n seiliedig ar dechnoleg.

Rydym wedi ymrwymo ar y cyd i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn technoleg, drwy greu diwylliannau cynhwysol o fewn ein sefydliadau i helpu i gadw ein talent, a rhannu arfer da, gan ysgogi cydweithio gwell.

I nodi’r achlysur hwn, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn sector sydd wedi'i ddominyddu gan ddynion yn hanesyddol ac yn parhau i weithio gyda'r diwydiant i ysgogi newid ystyrlon a pharhaol.

Mae ein cynnydd ar y cyd dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cynnwys:

  • Hyfforddiant cynhwysol: yn ymdrin ag ymwybyddiaeth o'r menopos, atal aflonyddu, arweinyddiaeth, a syndrom y ffugiwr.
  • Datblygiad proffesiynol: siarad cyhoeddus, cyllid newid gyrfa, a rhaglenni arweinyddiaeth.
  • Rhwydweithiau cymorth: grwpiau mewnol ar gyfer menywod, gofalwyr, cyn-filwyr, a mwy.
  • Rhannu gwybodaeth: cyhoeddi strategaethau amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant ac adroddiadau ar y bwlch rhwng y rhywiau.

Rydym hefyd yn gweithio i wneud recriwtio’n fwy cynhwysol a chodi ymwybyddiaeth o’r sector telathrebu er mwyn denu talent y dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys gweminar heddiw, mewn partneriaeth â llofnodwyr yr addewid, wedi'i dargedu at gynghorwyr gyrfaoedd gan roi cipolwg ar y sector telathrebu, y gwahanol lwybrau gyrfa dechnegol a'r cyfleoedd sydd ar gael.

Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i fuddsoddi ymdrech mewn adeiladu diwydiant telathrebu mwy cynhwysol ac arloesol.

Yn ôl i'r brig