
- Mae’r rheolau cyntaf ar gyfer diogelwch ar-lein ar waith, mae camau gorfodi’n cael eu cymryd, mae pethau’n newid
- Mae Ofcom nawr yn amlinellu ffyrdd ychwanegol y dylai cwmnïau technoleg amddiffyn pobl yn y DU
- Mae’r cynigion yn cynnwys atal cynnwys anghyfreithlon rhag mynd yn feirol, amddiffyn plant wrth iddyn nhw ffrydio’n fyw, a delio â delweddau personol sy’n cael eu rhannu heb ganiatâd
O dan gynigion newydd gan Ofcom, dylai cwmnïau technoleg gymryd camau i atal cynnwys anghyfreithlon rhag mynd yn feirol, atal yn y tarddle unrhyw gynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a ffugiadau dwfn amlwg rywiol, ac atal plant rhag cael eu hudo i berthynas amhriodol drwy ffrydiau byw.
Mae’r mesurau newydd yn parhau â gwaith Ofcom i weithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Maen nhw’n ymhelaethu ar ein codau ymarfer ar gyfer niwed anghyfreithlon a diogelwch plant, sydd eisoes ar waith ac yn cael eu gorfodi.[1]
Mae technoleg a niwed ar-lein yn datblygu’n gyflym. Rydym yn cadw i fyny â datblygiadau ac yn gwrando ar yr adborth a’r dystiolaeth sydd wedi dod i law, ac rydym nawr yn gwthio llwyfannau i fynd ymhellach drwy gynnig mesurau ychwanegol i gryfhau ein codau presennol.
Atal cynnwys anghyfreithlon rhag mynd yn feirol
Os bydd cynnwys anghyfreithlon yn lledaenu’n gyflym ar-lein, gall arwain at niwed difrifol ac eang, yn enwedig yn ystod argyfwng, fel y terfysgoedd treisgar yn dilyn llofruddiaethau Southport y llynedd, neu os bydd ymosodiad terfysgol yn cael ei ffrydio’n fyw. Gall systemau argymell waethygu hyn.
I atal hyn rhag digwydd, dylai fod gan lwyfannau brotocolau ar waith i ymateb i gynnydd cyflym mewn cynnwys anghyfreithlon yn ystod argyfwng, ac ni ddylent argymell deunydd i ddefnyddwyr pan fydd arwyddion y gallai fod yn anghyfreithlon, oni bai ei fod wedi cael ei adolygu a nes y bydd wedi cael ei adolygu.
Os yw safle neu ap yn caniatáu ffrydio byw, dylai fod ganddo system sy’n dangos yn glir pan fydd defnyddiwr yn rhoi gwybod am ffrwd fyw lle mae niwed corfforol ar fin digwydd o bosibl, a dylai fod cymedrolwyr dynol ar gael bob amser i adolygu cynnwys ac i weithredu ar y pryd.
Mynd i’r afael â niwed yn y tarddle
Mae llawer iawn o gynnwys yn ymddangos ar-lein bob dydd, felly mae angen i ddarparwyr ddefnyddio technoleg yn effeithiol i ddylunio eu safleoedd ac apiau mewn ffordd sy’n eu gwneud yn fwy diogel, ac i atal deunydd anghyfreithlon rhag cyrraedd defnyddwyr. Dylent ddefnyddio techneg o’r enw cyfateb hashnodau i ganfod cynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a delweddau personol sy’n cael eu rhannu heb ganiatâd, fel ffugiadau dwfn amlwg rywiol.
Rydym hefyd yn cynnig y dylai rhai gwasanaethau asesu’r rôl y gall offer awtomataidd ei chwarae i ganfod cynnwys, gan gynnwys deunydd cam-drin plant yn rhywiol sydd heb ei ganfod o’r blaen, cynnwys sy’n hyrwyddo hunanladdiad a hunan-niweidio a chynnwys twyllodrus – a’u defnyddio pan fyddan nhw ar gael ac yn effeithiol.
Rhagor o fesurau i amddiffyn plant
Mae llawer o fanteision i ffrydio byw – ar gyfer chwarae gemau, arddangos doniau, newyddiaduraeth-dinasyddion neu rannu profiadau yn y byd go iawn. Fodd bynnag, mae plant mewn perygl o gael eu hudo i berthynas amhriodol, eu gorfodi i gyflawni gweithredoedd rhywiol, neu eu hannog i gyflawni gweithredoedd hunan-niweidio a hunanladdiad wrth ffrydio’n fyw – rhaid i hyn newid.
Rydym ni’n cynnig y dylai safleoedd ac apiau atal pobl rhag gwneud sylwadau, ymateb ac anfon rhoddion i ffrydiau byw plant, a dylent atal pobl rhag recordio ffrydiau byw plant.
O dan ein codau presennol, dylai darparwyr eisoes fod yn cymryd camau i amddiffyn plant rhag cael eu hudo i berthynas amhriodol. Gan ein bod bellach wedi cyhoeddi ein canllawiau ar ddulliau sicrhau oedran effeithiol iawn, dylai llwyfannau ddefnyddio archwiliadau oedran cadarn i ategu’r camau maen nhw’n eu cymryd i amddiffyn plant rhag cael eu hudo i berthynas amhriodol a’r niwed sy’n gysylltiedig â ffrydio byw.
Rydym hefyd yn disgwyl i gwmnïau wahardd defnyddwyr sy’n rhannu deunydd cam-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant.
Dywedodd Oliver Griffiths, Cyfarwyddwr Grŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom: “Mae rheolau diogelwch ar-lein pwysig eisoes mewn grym, ac mae pethau’n newid. Rydym yn dal llwyfannau yn atebol, ac yn cychwyn camau gorfodi cyflym pan fydd gennym bryderon.
“Ond mae technoleg a niwed yn datblygu drwy’r amser, ac rydym wastad yn ystyried sut gallwn ni wneud bywyd yn fwy diogel ar-lein. Heddiw rydym felly’n cyflwyno cynigion ar gyfer rhagor o fesurau amddiffyn rydym am weld cwmnïau technoleg yn eu rhoi ar waith.”
Beth fydd yn digwydd nesaf
Mae ein hymgynghoriad ar y cynigion a gyflwynir heddiw ar agor tan 20 Hydref 2025. Byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl adborth a ddaw i law cyn i ni wneud ein penderfyniadau terfynol yr ydym yn bwriadu eu cyhoeddi erbyn Haf 2026.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi diweddariad heddiw ar ein meysydd gwaith eraill i weithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Ym mis Mawrth, daeth dyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU i rym, sy’n golygu bod rhaid i safleoedd cyfryngau cymdeithasol, chwilio, negeseua, gemau a chwilio am ddêt gymryd camau’n awr i amddiffyn eu defnyddwyr yn y DU rhag cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon. O ddiwedd mis Gorffennaf ymlaen, rhaid i lwyfannau ddechrau rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i amddiffyn plant rhag mathau penodol o ddeunydd niweidiol. Lle bynnag yn y byd mae gwasanaeth wedi’i leoli, os oes ganddo ‘gysylltiadau â’r DU’, mae ganddo bellach ddyletswyddau i amddiffyn defnyddwyr yn y DU. Gall hyn olygu cael nifer sylweddol o ddefnyddwyr yn y DU, os yw’r DU yn farchnad darged, neu os yw gwasanaeth yn gallu cael ei ddefnyddio gan bobl yn y DU ac yn achosi risg sylweddol o niwed mawr iddynt. Dim ond i ddyluniad neu weithrediad gwasanaeth yn y DU, neu fel y mae’n effeithio ar ddefnyddwyr yn y DU, y mae mesurau arfaethedig Ofcom yn berthnasol.