Mae Ofcom yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod cyfathrebu'n gweithio i bawb yng Nghymru.
Rydym yn sicrhau bod buddiannau cyfathrebu unigryw pobl yng Nghymru yn cael eu cynnwys wrth lunio polisïau Ofcom, a bod gwaith Ofcom yn cael ei ddeall yng Nghymru. Rydym yn ystyried barn a safbwyntiau dinasyddion a defnyddwyr, y diwydiannau rheoleiddiedig a rhanddeiliaid eraill ledled Cymru. Rydym yn sicrhau bod profiad ac arbenigedd Pwyllgor Cynghori Ofcom, y Prif Fwrdd ac aelodau Panel Defnyddwyr Cynnwys a Chyfathrebu Cymru hefyd yn bwydo i’n gwaith. A, lle bo'n berthnasol, rydym yn falch o hyrwyddo ac yn hwyluso 'r defnydd o'r Gymraeg yn ein gwaith.
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg
Llinell Gymraeg: 0300 123 2023
Gwefan Gymraeg: www.ofcom.org.uk/cy
Gwefan: www.ofcom.org.uk
E-bost: cymru@ofcom.org.uk
Ofcom Cymru/Ofcom Cymru
2 Pentir Caspian/2 Caspian Point
Ffordd Caspian/Caspian Way
Caerdydd /Cardiff
CF10 4DQ
Philip Henfrey, Cyfarwyddwr y Cenhedloedd, Cymru
Mae Phil yn arwain tîm ymroddedig Ofcom yng Nghymru yn ogystal â bod yn uwch-arweinydd yng Nghymru ar gyfer yr 20 a mwy o gydweithwyr sy'n gweithio ar draws cylch gwaith Ofcom, sydd wedi'u lleoli yn swyddfa Caerdydd. Ymunodd Phil ag Ofcom ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl treulio 17 mlynedd yn arwain ITV Cymru Wales.
Cysylltwch â Phil: philip.henfrey@ofcom.org.uk
Meleri Evans, Rheolwr Materion Rheoleiddio
Mae Meleri yn canolbwyntio ar ein gwaith Darlledu a'r Cyfryngau yng Nghymru ochr yn ochr â'i gwaith ymgysylltu ehangach. Ymunodd Meleri ag Ofcom am y tro cyntaf yn 2005 fel Rheolwr Cyfathrebu ac ailymunodd yn 2020 ar ôl gweithio ym maes datblygu polisi, materion cyhoeddus a chyfathrebu.
Cysylltwch â Meleri: meleri.evans@ofcom.org.uk
Bethan Williams, Rheolwr Materion Rheoleiddio
Mae Bethan yn canolbwyntio ar ein gwaith Diogelwch Ar-lein, Llythrennedd yn y Cyfryngau a Radio yng Nghymru ochr yn ochr â'i gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach. Ymunodd Bethan ag Ofcom ym mis Medi 2024 ar ôl gweithio o'r blaen mewn rolau polisi mewn sefydliadau elusennol a llywodraethol.
Cysylltwch â Bethan: bethan.williams@ofcom.org.uk
Siân Sykes, Rheolwr Materion Rheoleiddio
Mae Siân yn canolbwyntio ar ein gwaith Telathrebu, Sbectrwm, Post a Defnyddwyr yn ogystal â'i gwaith ymgysylltu eangach â rhanddeiliaid. Ymunodd Siân ag Ofcom ym mis Medi 2025 ar ôl gweithio fel Uwch Swyddog Rheoleiddio yng Nghomisiynydd y Gymraeg a rolau yn Trafnidiaeth Cymru, y Gronfa Loteri Fawr a'r Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo.
Cysylltwch â Siân: sian.sykes@ofcom.co.uk
Lisa Pugh, Pennaeth yr Uned Iaith Gymraeg
Mae Lisa yn gyfrifol am reoli Uned Iaith Gymraeg Ofcom, sy'n cefnogi gwaith Ofcom yn y Gymraeg. Ymunodd Lisa ag Ofcom ym mis Awst 2025, a chyn hynny bu’n arwain Uned Iaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae Lisa wedi treulio’i gyrfa maes cyfieithu a’r Gymraeg yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus.
Cysylltwch â Lisa: lisa.pugh@ofcom.org.uk
Beth Owen, Swyddog Cyswllt y Gymraeg
Mae Beth yn arbenigwr yn y Gymraeg, sy'n gyfrifol am gynghori timau mewnol a goruchwylio'r gwaith o ddarparu cyfieithiadau a gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel o ddydd i ddydd. Ymunodd Beth ag Ofcom ym mis Rhagfyr 2024, ar ôl pedair blynedd yng Nghyngor ar Bopeth, lle bu’n arwain ar wasanaethau Cymraeg y sefydliad a hyrwyddo dwyieithrwydd a’r ‘Cynnig Rhagweithiol’.
Cysylltwch â Beth: beth.owen@ofcom.org.uk
Marged Smith, Swyddog Iaith Gymraeg
Mae Marged yn arbenigwr yn y Gymraeg, sy'n gyfrifol am gynghori timau mewnol a goruchwylio'r gwaith o ddarparu cyfieithiadau a gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel o ddydd i ddydd. Ymunodd Marged ag Ofcom ym mis Awst 2025 ar ôl gweithio yn swyddfa Comisiynydd Plant Cymru fel Cynorthwy-ydd Cyfathrebu a Swyddog Cymorth Gweithredol.
Cysylltwch â Marged: marged.smith@ofcom.uk.org
Ella Breeze, Cynorthwyydd Gweithredol/Rheolwr Swyddfa
Mae Ella yn darparu cefnogaeth weithredol i dîm Cymru, ac yn cefnogi'r swyddfa yng Nghaerdydd gyda'n rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru. Ymunodd Ella ag Ofcom ym mis Gorffennaf 2024, ar ôl treulio 5 mlynedd fel Swyddog Cymorth Gweinyddol ac Addysgol yn Amgueddfa Cymru.
Cysylltwch ag Ella: ella.breeze@ofcom.org.uk
Ffion Hughes, Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol y Gymraeg
Mae Ffion yn creu cynnwys cyfareddol ar draws gwahanol platfformau, gan chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo ein mentrau ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd yng Nghymru. Ers ymuno ag Ofcom ym mis Gorffennaf 2023, mae Ffion wedi defnyddio ei harbenigedd i wella ein presenoldeb digidol yn sylweddol yn y gymuned Gymraeg. Cyn ymuno ag Ofcom, bu'n Rheolwr Marchnata ar brosiectau Llywodraeth Cymru, lle buont yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc.
Cysylltwch â Ffion: ffion.hughes@ofcom.org.uk
Mae Pwyllgor Cynghori Cymru yn cynghori Ofcom am fuddiannau a barn pobl sy'n byw yng Nghymru, mewn perthynas â materion cyfathrebu.
Dysgwch fwy am y Pwyllgor drwy ymweld â thudalen we Pwyllgor Cynghori Cymru
Rydym yn falch o'n gwaith a'n hymrwymiad i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma am sut rydym yn ei hintegreiddio i'n gwaith yng Nghymru.