Pwyllgor Cynghori Cymru

Cyhoeddwyd: 2 Gorffennaf 2010
Diweddarwyd diwethaf: 10 Hydref 2025

Mae Pwyllgor Cynghori Cymru'n rhoi cyngor i Ofcom ynghylch buddiannau a safbwyntiau pobl yng Nghymru mewn perthynas â materion cyfathrebu.

Mae'r Pwyllgor fel arfer yn cwrdd pum gwaith y flwyddyn. Mae cofnodion y Pwyllgor yn cael eu darparu i Fwrdd Ofcom.

Cylch Gwaith y Pwyllgor Cynghori yw:

  • ceisio nodi materion sy'n effeithio ar y sectorau cyfathrebiadau a phost yng Nghymru, fel Pwyllgor ar y cyd ac yn unigol fel Aelodau, yn enwedig yn y sectorau lle mae ganddynt wybodaeth benodol neu arbenigedd
  • darparu cyngor i Ofcom am faterion cyffredinol a phenodol sy'n ymwneud â sectorau'r cyfathrebiadau a phost sy'n codi yng Nghymru
  • darparu cyngor a sylwadaeth fel y bo angen am faterion a gyflwynir i'r Pwyllgor gan Ofcom
  • cynnig sylwadaeth am ymgynghoriadau Ofcom
  • ar gais y Bwrdd Cynnwys, darparu cyngor penodol i'r Bwrdd hwnnw ar faterion mewn perthynas â theledu, radio ac unrhyw gynnwys arall ar wasanaethau y mae Ofcom yn eu rheoleiddio
  • ar gais Bwrdd Ofcom, darparu cyngor i'r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau ar faterion yn y sector cyfathrebiadau sy'n effeithio ar ddefnyddwyr yng Nghymru
  • cynhyrchu adroddiad blynyddol yn adlewyrchu materion o fewn y sectorau cyfathrebu a phost yng Nghymru.

27 Chwefror 2024

12 Mehefin 2024

2 Hydref 2024

26 Tachwedd 2024

Dr Aled Eirug (Cadeirydd)

Mae Aled Eirug yn gynghorydd polisi strategol llawrydd ac yn Gadeirydd corff ariannu addysg uwch Coleg Cymraeg, (o fis Medi 2022). Roedd yn aelod o awdurdod llywodraethu ar gyfer gwasanaethau darlledu Cymraeg, S4C (2012 -2015), yn gadeirydd pwyllgor ymgynghorol y Cyngor Prydeinig ar gyfer Cymru (2012-2015) ac yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr y Cyngor Prydeinig (2013-2015).

Mae'n newyddiadurwr a darlledwr profiadol gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn ITV a'r BBC. Bu’n Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru o 1992 i 2006 ac yn aelod o Fwrdd Rheoli BBC Cymru o 2000 i 2006. Mae ganddo brofiad helaeth o gynhyrchu radio, teledu ac ar-lein ar draws newyddion, materion cyfoes a gwneud rhaglenni dogfen.

Ymunodd Aled â Phwyllgor Cynghori Cymru ar 1 Rhagfyr 2021 a chafodd ei benodi'n Gadeirydd ar 1 Awst 2024. Mae ei benodiad yn para tan 31 Mai 2026.

Angharad Evans (aelod anweithredol)

Mae Angharad Evans yn gyfreithiwr ffilm a theledu ymgynghorol ac mae wedi cynghori busnesau o bob maint o fusnesau newydd i frandiau a gydnabyddir yn rhyngwladol am yr 20 mlynedd diwethaf. Cyn dod yn ymgynghorydd roedd hi'n Bennaeth Adran Materion Cyfreithiol a Busnes S4C a bu'n gweithio yn y tîm Ffilm a Chyfryngau arbenigol yn SJ Berwin, Llundain.

Mae'n cynghori amrywiaeth o gleientiaid o gwmnïau cynhyrchu bach i gwmnïau rhyngwladol mawr ar gyd-gynyrchiadau, dosbarthu, trefniadau ariannu aml-bleidiol, cytundebau hawliau, cytundebau opsiwn a chliriadau. Mae'n cael ei chydnabod fel Unigolyn Blaenllaw yng Nghyfraith y Cyfryngau yng Nghymru yn y ‘Legal 500’ a ‘Chambers and Partners.’

Ymunodd Angharad Evans â Phwyllgor Cynghori Cymru ar 1 Ionawr 2022. Mae ei phenodiad yn parhau tan 31 Rhagfyr 2026.

Geraint Strello (Aelod anweithredol)

Mae Geraint wedi gweithio yn y sector cyfathrebu ers dros 40 mlynedd ac mae ganddo brofiad ymarferol o beirianneg telathrebu, gwasanaethau cwsmeriaid, cynllunio at argyfwng, cynllunio strategol a lleoli rhwydweithiau sefydlog, symudol a Wi-Fi ledled Cymru. Bu'n gweithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i sefydlu a Chadeirio'r Grŵp Cenedlaethol Cyfleustodau cyntaf sy'n adrodd i'r Fforwm Cydnerth Lleol.

Chwaraeodd rôl gydlynu rhwng Llywodraeth Cymru ac Openreach yn ystod y broses o ddefnyddio band eang ffibr yng Nghymru o dan raglen Cyflymu Cymru ac mae'n awyddus i weld gwasanaeth band eang cyflym, dibynadwy, fforddiadwy yn parhau i gael ei roi ar waith i holl drigolion Cymru.

Ymunodd Geraint â Phwyllgor Cynghori Cymru ar 29 Chwefror 2024. Mae ei benodiad yn para tan 1 Mawrth 2028.

Amanda Rees (aelod anweithredol)

Mae Amanda yn arbenigwr teledu a darlledu digidol sydd wedi ennill gwobr BAFTA. Ar hyn o bryd mae Amanda yn Gadeirydd Ffilm Cymru ac yn Is-gadeirydd asiantaeth datblygu busnes, Cwmpas. Cyn hynny  bu’n gweithredu ar lefel y Bwrdd ac uwch arweinyddiaeth fel Cyfarwyddwr Cynnwys S4C a Chyfarwyddwr Llwyfannau, gan arwain strategaeth gomisiynu greadigol a digidol y darlledwr yn ystod ei chyfnod o 7 mlynedd. Cyn ymuno ag S4C yn 2016,roedd Amanda yn rhedeg ei chwmni cynhyrchu ei hun, TiFiNi Ltd, gan greu rhaglenni dogfen a enwebwyd am wobr Grierson. 

Mae gan Amanda radd Meistr mewn Seicoleg Busnes a Sefydliadol a Diploma CMI (Lefel 7) mewn Ymgynghori Proffesiynol. Mae hi'n ymddiriedolwr elusen yn Saving Saints Rescue UK ac yn gweithredu fel ymgynghorydd cyfryngau annibynnol a chynhyrchydd gweithredol. 

Wedi'i geni a'i magu yng Nghwm Gwendraeth, mae Amanda yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn eiriolwr angerddol dros arweinyddiaeth ddilys a chynhwysiant cymdeithasol, yn hoff iawn o gŵn, yn gerddor ac yn gogydd brwd.

_____________________

Yn ogystal â'r Aelodau a benodir i'r Pwyllgorau Cynghori, gwahoddir yr Aelodau o'r Bwrdd Cynnwys a'r Aelodau o'r Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau ar gyfer y Gwledydd i fynychu Cyfarfodydd y Pwyllgor Cynghori perthnasol. Yng Nghymru yr aelodau hyn yw:

  • Yr Athro Ruth McElroy, Aelod o'r Bwrdd Cynnwys ar gyfer Cymru
  • Rachel Burr, Aelod o'r Panel Defnyddwyd Cyfathrebiadau