Yr Uwch Dîm Rheoli yw rheolwyr pennaf Ofcom. Maen nhw'n benaethiaid grwpiau o fewn Ofcom ac yn rhan hanfodol o'n Bwrdd Polisi a Rheoli.

Melanie Dawes
Prif Weithredwr
Ymunodd y Fonesig Melanie Dawes fel Aelod Gweithredol o’r Bwrdd a Phrif Weithredwr ar 2 Mawrth 2020.
Cyn ymuno ag Ofcom, roedd Melanie yn Ysgrifennydd Parhaol yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (2015-2020). Mae wedi ysgwyddo rolau uwch ar draws y Gwasanaeth Sifil, gan weithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Luisa Affuso
Prif Economegydd a Chyfarwyddwr Grŵp Economeg
Luisa Affuso yw ein Prif Economegydd, a’r Cyfarwyddwr Grŵp Economeg, ac mae’n arwain ein heconomegwyr sy’n helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau’n seiliedig ar ddadansoddiad economaidd arbenigol.
Mae gan Luisa dros ugain mlynedd o brofiad o ddefnyddio economeg cystadleuaeth, rheoleiddio, a diwydiannol. Mae hi’n arbenigo mewn defnyddio dadansoddiad economaidd ac econometrig gyda chwestiynau rheoleiddio a chystadleuaeth cymhleth.

Martin Ballantyne
Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr y Grŵp Cyfreithiol
Martin Ballantyne yw Cwnsler Cyffredinol Ofcom a Chyfarwyddwr y Grŵp Cyfreithiol. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyfreithiol yng Ngrŵp Cyfreithiol Ofcom ers 2011, ac mae’n darparu cyngor ar gyfer pob maes polisi yn Ofcom, yn ogystal â goruchwylio ymgyfreitha pan fydd ein penderfyniadau’n cael eu herio yn y llysoedd.

Natalie Black
Cyfarwyddwr Grŵp Seilwaith a Chysylltedd
Ymunodd Natalie Black CBE ag Ofcom yn 2024 fel Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebu ac Aelod o'r Bwrdd Gweithredol. Mae hi hefyd yn gyfrifol am arwain gwaith Ofcom ar oblygiadau Deallusrwydd Artiffisial.

David Chaplin
Cyfarwyddwr Cyfathrebu
David Chaplin yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu Ofcom, sy’n gyfrifol am arwain holl gyfathrebiadau allanol a mewnol ar draws y sefydliad.
Cyn ymuno ag Ofcom yn 2025, roedd David yn Gyfarwyddwr Enw Da Corfforaethol yn Sky, a chyn hynny bu’n gweithio yn Which?, yr NSPCC ac mewn rolau amrywiol mewn gwleidyddiaeth ac ymgyrchoedd.

Kate Davies
Cyfarwyddwr y Grŵp Strategaeth ac Ymchwil
Kate Davies yw Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom, gan arwain ar waith strategaeth ac ymchwil yn ogystal ag ymgysylltu â llunwyr polisi domestig a rhyngwladol.
Ymunodd Kate ag Ofcom yn 2016, ac yn ystod ei hamser yma, mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus. Cyn dod i Ofcom, treuliodd Kate chwe blynedd yn y Trysorlys, mewn amrywiaeth o rolau yn ymwneud â Gwariant Cyhoeddus.

Jessica Hill
Cyfarwyddwr Pobl, Diwylliant a'r Gweithle
Ymunodd Jessica Hill ag Ofcom yn 2022 ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Pobl a Diwylliant ers mis Chwefror 2024. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o ddarparu adnoddau dynol strategol mewn gwasanaethau proffesiynol byd-eang. Mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Cristina Nicolotti Squires
Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a'r Cyfryngau
Cristina Nicolotti yw’r Cyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Darlledu a’r Cyfryngau, gan arwain gwaith Ofcom i gefnogi sector darlledu iach a bywiog sy’n gwasanaethu holl wasanaethau teledu, radio a fideo ar-alw y DU mewn tirwedd sy’n newid yn gyson ac sy’n symud yn gyflym.

Melissa Tatton
Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr y Grŵp Corfforaethol
Melissa Tatton yw Prif Swyddog Gweithredu Ofcom a Chyfarwyddwr y Grŵp Corfforaethol, sy’n goruchwylio ein swyddogaethau corfforaethol mewnol, fel ein timau Cyllid a Phobl, y Ganolfan Cyswllt Defnyddwyr a thimau cysylltiadau allanol.

David Willis
Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm
David Willis yw Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm, ac mae’n gyfrifol am arwain gwaith Ofcom yn rheoli tonnau awyr y DU.