Top trends from our latest look at the UK’s media lives HERO (1336 × 560px)

Y prif dueddiadau o’n cipolwg diweddaraf ar y cyfryngau ym mywydau pobl yn y DU

Cyhoeddwyd: 7 Mai 2025

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein gwaith ymchwil diweddaraf sy’n edrych ar sut mae pobl yn y DU yn meddwl am eu bywydau ar-lein ac ar y cyfryngau a sut maent yn defnyddio’r rhain.

Mae ein hadroddiadau ar y Defnydd o’r Cyfryngau ac Agweddau atynt ac ar y Cyfryngau ym Mywydau pobl – sy’n cael eu cynnal ymysg oedolion am yr ugeinfed flwyddyn eleni – yn amlygu defnydd pobl o'r rhyngrwyd a’r cyfryngau drwy ofyn i blant ac oedolion ar hyd a lled y DU am y rôl y mae technoleg a’r cyfryngau yn ei chwarae yn eu bywydau

I gael rhagor o fanylion am yr hyn rydym wedi'i ganfod, darllenwch yr adroddiadau llawn.

Mae deallusrwydd artiffisial ar gynnydd – ond nid yw pawb yn ymddiried ynddo

Gofynnom i bobl am eu hagweddau at ddeallusrwydd artiffisial. Er bod tri oedolyn o bob deg yn dweud erbyn hyn eu bod wedi defnyddio offer deallusrwydd artiffisial, nid yw pobl yn ymddiried ynddo’n fwy nag yr oeddent yn 2023.  

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y defnydd o offer deallusrwydd artiffisial, fel ChatGPT a Microsoft CoPilot, gan gynnwys pobl sy’n eu defnyddio ar gyfer gwaith. Mae hanner y bobl ifanc rhwng 8 a 17 oed sydd ar-lein yn dweud eu bod yn defnyddio offer deallusrwydd artiffisial – sydd wedi cynyddu ers y llynedd – a’u bod yn aml yn cael eu defnyddio ar gyfer dysgu a/neu waith ysgol.

Yn gyffredinol, roedd offer deallusrwydd artiffisial yn cael eu defnyddio ar gyfer tasgau cyfyngedig a phenodol, gyda phwyslais ar arbed llafur. Maent yn cael eu defnyddio i drafftio dogfennau, i helpu gydag arddull ysgrifennu, neu fel peiriant chwilio deallus. 

Defnyddio technoleg i wella ein llesiant corfforol

Mae technoleg yn chwarae rhan gynyddol mewn iechyd, ffitrwydd a llesiant, gyda thri chwarter o oedolion (76%) yn dweud eu bod yn defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer o leiaf un gweithgaredd iechyd a llesiant, gan gynnwys ymlacio (40%), ymchwilio i symptomau iechyd (35%) a bwyta’n iach/maeth (28%).

Mae un o bob pump (19%) o bobl ifanc yn eu harddegau yn dilyn rhaglen ffitrwydd ar-lein – cynnydd o 14% ers y llynedd. Mae’r cynnydd hwn wedi cael ei sbarduno gan bobl ifanc rhwng 13 a 15 oed, gyda’u defnydd o’r adnoddau hyn wedi cynyddu o 11% i 19%.

Nid yw oedran yn broblem wrth sylwi ar ddylanwadwyr a hysbysebion

Mae llawer o bobl ifanc yn eu harddegau yn dal i allu adnabod cynnwys cefnogol y mae dylanwadwyr wedi cael eu talu amdano. Pan ddangoswyd post Instagram o’r actores Sydney Sweeney yn gafael mewn ffôn Samsung i bobl ifanc rhwng 13 a 17 oed ar-lein, roedd 68% ohonynt yn hyderus yn eu gallu i adnabod hysbysebion ar-lein ac fe wnaethant nodi mai deunydd marchnata gan ddylanwadwr oedd hwn. 

Yn y cyfamser, mae pobl dros 65 oed yn well am adnabod hysbysebion ar beiriannau chwilio. Pan ddangoswyd chwiliad Google i bobl, dim ond hanner yr holl ymatebwyr (51%) oedd yn gallu adnabod mai dolenni wedi’u noddi oedd y canlyniadau uchaf. Ond roedd cyfradd llwyddiant pobl dros 65 oed yn uwch na grwpiau oedran iau, gyda 59% ohonynt yn gallu adnabod dolenni wedi’u noddi o’i gymharu â 37% o bobl 16-24 oed.

Yn fwy cyffredinol, er bod pobl yn byw mwy a mwy o’u bywydau ar-lein, nid oes gwelliant hirdymor wedi bod yng ngallu oedolion i adnabod hysbysebion ar-lein.

Sgamiau a phroffiliau ffug

Pan ddangoswyd enghraifft o e-bost sgam ffug i oedolion, roedd y mwyafrif helaeth (83%) yn gallu cymryd camau i ddiogelu eu hunain. Fodd bynnag, roedd gostyngiad bach o’i gymharu â 2023 (86%).

Unwaith eto, roedd gan bobl dros 65 oed fwy o grebwyll y maes hwn, ac roeddent yn fwy tebygol o ymateb yn briodol na grwpiau oedran iau (92% o’i gymharu â 70% o bobl 25-34 oed).

Fodd bynnag, roedd oedolion iau yn well am adnabod proffiliau ffug ar y cyfryngau cymdeithasol. Pan ddangoswyd enghraifft o broffil ffug ar y cyfryngau cymdeithasol, roedd tri chwarter (76%) o’r defnyddwyr wedi nodi’n gywir nad oedd y proffil yn ddilys. Roedd pobl 16-24 oed yn fwy tebygol o nodi’n gywir nad oedd y proffil yn ddilys (86%). O’i gymharu â 73% o bobl dros 65 oed a 70% o bobl 45-54 oed.

Plant a defnydd o ffonau clyfar

Mae mwy o blant yn cael eu ffôn symudol eu hunain yn iau, gydag un o bob pump (19%) o blant 3-5 oed a thraean (30%) o blant 6-7 oed â’u dyfais eu hunain erbyn hyn. Ar yr un pryd, mae defnydd cyfryngau cymdeithasol ymhlith plant 3-5 oed wedi gweld cynnydd sylweddol - wedi'i yrru gan amrywiaeth o lwyfannau - i fyny o 29% y llynedd i 37%.

Mae bron pob plentyn a pherson ifanc 8-17 oed (94%) sy’n mynd ar-lein ar eu ffonau yn dweud bod o leiaf un cyfyngiad arnynt, naill ai gartref neu yn yr ysgol. Mae dros hanner (56%) y plant 8-17 oed wedi’u gwahardd rhag defnyddio eu ffonau clyfar yn yr ysgol. Mae naw o bob deg plentyn a pherson ifanc 8-17 oed (92%) yn gallu cofio cael o leiaf un wers yn yr ysgol am ddiogelwch ar-lein. Roedd cyfran uwch yn teimlo bod y gwersi hyn yn “ddefnyddiol iawn” o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (45% o’i gymharu â 39%).

Gwahaniaethau digidol rhwng y rhywiau

Mae gweithgarwch ar-lein yn amrywio rywfaint yn ôl rhywedd, gyda mwy o fenywod na dynion yn dweud eu bod yn defnyddio unrhyw wefannau neu apiau cyfryngau cymdeithasol (92% o’i gymharu â 89%). Roedd menywod hefyd yn fwy tebygol o anfon negeseuon neu wneud galwadau (96% o’i gymharu â 94%), tra oedd dynion yn fwy tebygol o lanlwytho, gwylio neu rannu cynnwys wedi’i ffrydio’n fyw na menywod (69% o’i gymharu â 61%).

Y tri llwyfan uchaf ar gyfer menywod oedd WhatsApp (85% o’i gymharu â 79%), Facebook (81% o’i gymharu â 74%) ac Instagram (63% o’i gymharu â 56%), tra oedd dynion yn fwy tebygol o ddefnyddio YouTube (87% o’i gymharu â 77%), X (35% o’i gymharu â 24%) a LinkedIn (25% o’i gymharu â 18%).

Mae’r bwlch digidol yn parhau i rai, ond maent yn dweud nad oes ganddynt ddiddordeb mewn mynd i’r afael â hyn

Mae gan fwyafrif helaeth (94%) o bobl fynediad i’r rhyngrwyd gartref. Ond ymhlith y gyfran sy’n weddill nad oes ganddynt fynediad iddo, mae’r mwyafrif yn dweud nad ydynt yn awyddus i’w gael. Dywedodd wyth o bob deg nad ydynt yn gweld yr angen i gysylltu ar-lein, er bod ychydig o dan hanner y rhai nad ydynt yn mynd ar-lein gartref wedi gofyn i rywun arall wneud rhywbeth ar-lein ar eu cyfer.

O’r bobl hynny sy’n mynd ar-lein, mae bron i un o bob pump (18%) yn gwneud hynny ar eu ffonau clyfar yn unig. Er bod rhai pobl yn wynebu heriau wrth gyflawni tasgau ar-lein ar ddyfeisiau symudol yn hytrach nag ar liniaduron neu gyfrifiaduron, fel llenwi ffurflenni, dywed bron i dri chwarter ohonynt nad ydyn nhw fyth yn teimlo dan anfantais oherwydd hyn.

Yn ôl i'r brig