Dysgu Gyda'n Gilydd: Cefnogi mwy o dryloywder ynghylch heriau, 'methiannau' a gwersi a ddysgwyd wrth ddarparu llythrennedd yn y cyfryngau.
Mae cefnogi sefydliadau sy'n darparu ymyriadau llythrennedd yn y cyfryngau i werthuso effaith a rhannu'r dystiolaeth honno ag eraill yn hanfodol i helpu'r sector i ddod yn fwy effeithiol.
Mae Ofcom eisoes yn cynnig hyfforddiant ac adnoddau i arfogi gweithwyr proffesiynol sy'n darparu ymyriadau llythrennedd yn y cyfryngau â gwybodaeth a sgiliau sy'n gysylltiedig â'r broses werthuso. Comisiynwyd yr ymchwil hon i helpu Ofcom i ddeall sut i greu diwylliant lle mae dysgu o'r gwerthusiadau hynny yn cael ei rannu rhwng sefydliadau a'i ddefnyddio i ddatblygu ymyriadau mwy effeithiol, fel y nodir yn strategaeth tair blynedd llythrennedd yn y cyfryngau Ofcom yn 2024.
Mae wedi’i seilio ar dystiolaeth o'r sector diben cymdeithasol sy'n awgrymu bod sefydliadau yn aml yn amharod i rannu canfyddiadau gwerthuso yn agored oherwydd pwysau ariannu, pryderon enw da, a chapasiti neu seilwaith cyfyngedig. Fe'i bwriedir yn bennaf ar gyfer cyllidwyr a chomisiynwyr, yn ogystal â sefydliadau diben cymdeithasol sy'n dylunio a chyflawni ymyriadau llythrennedd yn y cyfryngau, sy'n chwarae rhan allweddol wrth lunio arferion gwerthuso a chymhellion ar draws y sector.