Cynhaliwyd yr arolwg Cymhariaeth Lles gan YouGov ar ran Ofcom. Amcan craidd yr astudiaeth hon oedd asesu sut mae oedolion y DU yn gweld eu boddhad cyffredinol, weithgareddau gweth chweil, hapusrwydd a gorbryder yn eu bywydau personol a phan fyddant yn mynd ar-lein.
Yn benodol, y nodau a’r amcanion allweddol oedd:
- Deall boddhad a hapusrwydd canfyddedig ymhlith oedolion y DU, yn eu bywydau personol ac ar-lein
- Archwilio a oes unrhyw wahaniaethau nodedig rhwng boddhad a hapusrwydd canfyddedig wrth gymharu rhwng canfyddiadau personol ac ar-lein
Yn gyffredinol, mae rhai gwahaniaethau rhwng teimladau o foddhad â bywyd, budd a gorbryder ymysg y rhai sy’n cael eu holi am eu bywyd personol cyffredinol, o’u cymharu â’r rhai sy’n cael eu holi am eu bywyd ar-lein. Mae hapusrwydd fwy neu lai yr un fath rhwng y ddau grŵp, er bod y rhai sy’n meddwl am eu hamser ar-lein yn llai tebygol o roi sgôr hapusrwydd isel, felly’n fwy tebygol o fod yn hapusach ar y cyfan, na’r rhai sy’n meddwl am eu bywyd personol. Cofnodwyd y gwaith maes dros gyfnod o 4 diwrnod ac nid yw’n ymddangos bod unrhyw effaith sylweddol ar ddiwrnod yr wythnos yn yr atebion a roddir i’r setiau hyn o gwestiynau.