Penodwyd Ofcom yn rheoleiddiwr diogelwch ar-lein o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 ('y Ddeddf') ym mis Hydref 2023. Mae'r Ddeddf yn caniatáu i sefydliadau arbenigol sy'n cynrychioli defnyddwyr neu'r cyhoedd godi 'uwch-gŵyn' gydag Ofcom. Pwrpas uwch-gŵynion yw caniatáu i sefydliadau o'r fath ddod â thystiolaeth a ffeithiau cadarn i'n sylw am y niwed ar-lein mwyaf arwyddocaol a'r cyfyngiadau ar ryddid i lefaru (‘free expression’) sy'n codi ar wasanaethau ar-lein a reoleiddir.
Mae hon yn ffordd bwysig y gall sefydliadau allanol helpu Ofcom trwy nodi risgiau sylweddol i ddefnyddwyr neu'r cyhoedd. Mae gan Ofcom gyfnod penodol i ystyried pob uwch-gŵyn a chyhoeddi ymateb.
Mae'n ofynnol i Ofcom gyhoeddi canllawiau ar uwch-gŵynion ac mae ar hyn o bryd yn ymgynghori ar fersiwn ddrafft. Mae'n egluro:
- Beth yw uwch-gŵynion;
- Rôl uwch-gŵynion yn null rheoleiddiol Ofcom at ddiogelwch ar-lein;
- Pa sefydliadau sy'n gymwys i gyflwyno uwch-gŵyn;
- Sut y gall sefydliadau ddangos eu bod yn gymwys;
- Y rheolau a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud uwch-gŵyn;
- Y camau y bydd Ofcom fel arfer yn eu cymryd mewn perthynas ag uwch-gŵyn.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 5pm ar 3 Tachwedd 2025.
Prif ddogfennau
Sut i ymateb
Online Safety Group
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA