HERO - Ofcom fines nudification site

Ofcom yn rhoi dirwy o £50,000 ar safle we noethni am fethu â chyflwyno gwiriadau oedran

Cyhoeddwyd: 20 Tachwedd 2025
  • Lansiwyd ymchwiliadau newydd i 20 o safleoedd pornograffi arall wrth i'r rheoleiddiwr barhau i weithredu yn erbyn diffyg cydymffurfioe

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi dirwy o £50,000 yn erbyn darparwr safle noethni am fethu â defnyddio gwiriadau oedran i amddiffyn plant rhag pornograffi ar-lein, tra bod 20 r o wasanaethau porn eraill wedi'u targedu ar gyfer gorfodi.

Mae gwiriadau oedran cadarn – sy'n cynnwys gwirio oedran, amcangyfrif oedran neu gyfuniad o'r ddau – yn hollbwysig i'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein a rhaid iddynt fod yn 'hynod effeithiol' wrth benderfynu’n gywir a yw defnyddiwr penodol yn blentyn. 

Mae'n ofynnol i wasanaethau rheoleiddiedig hefyd, yn ôl y gyfraith, i ymateb i geisiadau Ofcom am wybodaeth mewn ffordd gywir, gyflawn ac amserol, sy'n hanfodol i'n swydd fel rheoleiddiwr.

Yn gynharach eleni, fe wnaethom agor rhaglen orfodi i benderfynu ar gydymffurfiaeth y diwydiant â'u dyletswyddau gwirio oedran ac, fel rhan o hyn, cyhoeddwyd ceisiadau am wybodaeth statudol i ystod o gwmnïau. 

Rydym heddiw yn cyhoeddi nifer o ddiweddariadau o dan y rhaglen orfodi hon:

Dirwy i ddarparwr safle noethni  

Heddiw, mae ymchwiliad Ofcom wedi dod i'r casgliad bod Itai Tech Ltd - sy'n rhedeg y safle noethni Undress.cc - wedi methu â defnyddio sicrwydd oedran hynod effeithiol i amddiffyn plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig.   

O ganlyniad, mae Ofcom wedi gosod dirwy o £50,000 ar Itai Tech Ltd, sy'n ystyried penderfyniad y darparwr i atal mynediad   i ddefnyddwyr sydd â chyfeiriadau IP y DU yn fuan ar ôl i ni agor ein hymchwiliad. Mae dirwy ychwanegol o £5,000 wedi'i chodi ar y cwmni oherwydd ei fethiant i gydymffurfio â chais am wybodaeth statudol. Bydd y dirwyon yn cael eu trosglwyddo i Drysorlys EM [1] Yn ogystal, mae Ofcom hefyd heddiw wedi cyhoeddi dau benderfyniad dros dro yn erbyn 8579 LLC a Kick Online Entertainment S.A am fethiannau tebyg. Mae gan y ddau ddarparwr gyfle i wneud sylwadau i ni cyn i ni wneud ein penderfyniadau terfynol.

Ymchwiliadau wedi’u hagor i 20 o safleoedd eraill i oedolion

Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliadau newydd o dan ei raglen gorfodi sicrwydd oedran i bum darparwr sydd gyda'i gilydd yn gweithredu 20 o safle pornograffi. Y cwmnïau sy’n cael eu hymchwilio yw: Sun Social Media Inc; darparwr gwahanol safleoedd xxbrits; darparwr nifer o safleoedd porntrex; darparwr apello.com; a darparwr hqporner.com.

Rydym wedi blaenoriaethu gweithredu yn erbyn y cwmnïau hyn yn seiliedig ar y risg o niwed a achosir gan y gwasanaethau maent yn eu gweithredu. Rydym wedi ystyried yn benodol  eu niferoedd defnyddwyr, gan gynnwys lle rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu traffig defnyddwyr ers i gyfreithiau gwirio oedran ddod i rym yr haf diwethaf. 

Ar wahân, rydym yn cyhoeddi ehangu ein hymchwiliadau parhaus i Cyberitic, LLC a darparwr xgroovy.com i benderfynu a ydynt hefyd wedi methu ag ymateb yn ddigonol i geisiadau ffurfiol Ofcom am wybodaeth. 

Mae'r achosion newydd hyn yn mynd â nifer y safleoedd a'r apiau sy'n cael eu hymchwilio ar hyn o bryd gan Ofcom o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein i 76. 

Meddai Suzanne Cater, Cyfarwyddwr Gorfodi Ofcom: “Dydy’r defnydd o wiriadau oedran hynod  effeithiol i ddiogelu plant o gynnwys pornograffig ddim yn agored i drafodaeth a ni fyddwn yn derbyn esgusodion am fethu gwneud hyn. Gall unrhyw wasanaeth sy’n methu cyflawni eu dyletswyddau gwirio oedran o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ddisgwyl wynebu camau gorfodi cadarn, gan gynnwys dirwyon mawr.” 


DIWEDD
1.    Yn gynharach eleni, fe wnaethom lansio ymchwiliad oherwydd pryderon nad oedd Trendio Ltd wedi gweithredu mesurau sicrwydd oedran hynod effeithiol i ddiogelu plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar yr 11 safle y mae'n eu gweithredu.

Mewn ymateb i'n hymchwiliad, darparodd Trendio Ltd wybodaeth sy'n nodi bod y darparwr wedi cymryd camau mewn ewyllys da tuag at gydymffurfio erbyn y dyddiad cau statudol. O ganlyniad, nid ydym yn ystyried ei bod yn briodol parhau â'r ymchwiliad, felly rydym wedi cau ein hachos yn erbyn y darparwr hwn.