Eleni yw ‘Blwyddyn Gweithredu’ Ofcom ar ddiogelwch ar-lein. Mae ein Codau Ymarfer ar gyfer Cynnwys Anghyfreithlon eisoes mewn grym, a daw ein Codau Amddiffyn Plant i rym ym mis Gorffennaf. Mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau gynnal eu hasesiadau risg i amlinellu sut byddant yn sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu cadw’n fwy diogel, ac rydym wedi cychwyn camau gorfodi yn erbyn llwyfannau pan fydd gennym reswm i gredu nad ydynt yn cydymffurfio â’u dyletswyddau newydd o bosibl.
Rydym ni’n awr yn amlinellu cynigion ar gyfer cyfres o fesurau diogelwch ychwanegol i gryfhau'r ‘rhifyn cyntaf’ o’n Codau. Maent yn cynnwys defnyddio technolegau awtomataidd yn ehangach er mwyn canfod niwed, a chamau ychwanegol i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu dylunio mewn ffordd sy’n eu gwneud yn fwy diogel. Mae ein cynigion yn ystyried y datblygiadau diweddaraf o ran niwed a thechnolegau, yn ogystal ag amrywiaeth o dystiolaeth a gasglwyd drwy ein gwaith ymgysylltu parhaus â chymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill.
Atal cynnwys anghyfreithlon rhag mynd yn feirol
Rydym am sicrhau bod llwyfannau’n gwneud mwy, yn gynharach, i atal cynnwys anghyfreithlon difrifol rhag lledaenu. Mae hynny’n golygu cael protocolau yn eu lle i ymateb i gynnydd cyflym mewn cynnwys anghyfreithlon yn ystod argyfwng, fel y terfysgoedd a welsom ar ôl ymosodiadau Southport y llynedd. Mae’n golygu na ddylai deunydd a allai fod yn anghyfreithlon gael ei argymell i ddefnyddwyr nes bydd gwasanaethau wedi gwirio'r deunydd. Mae’n golygu cael gwell mesurau amddiffyn ar gyfer ffrydiau byw, gyda gwell swyddogaethau riportio a bod cymedrolwyr dynol ar gael bob amser. Ac mae’n golygu cymryd camau yn erbyn defnyddwyr sy’n rhannu neu’n llwytho i fyny gynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy’n niweidiol i blant.
Mynd i’r afael â niwed yn y tarddle
Mae llawer iawn o gynnwys yn ymddangos ar-lein bob dydd, ac mae angen i ddarparwyr ddefnyddio technoleg yn well i atal deunydd anghyfreithlon rhag cyrraedd defnyddwyr. Rydym ni’n cynnig eu bod yn defnyddio technoleg o’r enw cyfateb hashnodau i ddod o hyd i gynnwys sy’n ymwneud â therfysgaeth a chamddefnydd o ddelweddau personol. Rydym hefyd yn credu y dylai rhai gwasanaethau fynd ymhellach – asesu’r rôl y gall offer awtomataidd ei chwarae i ddod o hyd i amrywiaeth ehangach o gynnwys, gan gynnwys deunydd cam-drin plant, cynnwys twyllodrus a chynnwys sy’n hyrwyddo hunanladdiad a hunan-niweidio, a rhoi technoleg newydd ar waith pan fydd ar gael ac yn effeithiol.
Darparu rhagor o fesurau i amddiffyn plant
Rydym ni’n gwybod bod plant yn dal mewn perygl o gael eu niweidio’n ddifrifol iawn ar-lein. Dyna pam rydym yn cynnig mwy o ddulliau sicrhau oedran effeithiol iawn er mwyn helpu i amddiffyn plant rhag cael eu hudo i berthynas amhriodol. Rydym yn cymryd camau yng nghyswllt amgylcheddau peryglus fel ffrydio byw, gan argymell na ddylai defnyddwyr allu rhyngweithio mwyach â ffrydiau byw plant drwy wneud sylwadau na rhoi rhoddion. Ac rydym yn cynnig bod llwyfannau’n cymryd camau i rwystro unigolion sy’n rhannu deunydd cam-drin plant yn rhywiol rhag defnyddio’r gwasanaeth.
Rydym nawr yn gofyn am adborth ar y cynigion hyn erbyn 20 Hydref 2025. P’un a ydych chi’n ddarparwr gwasanaeth ar-lein, yn rhiant, yn lluniwr polisi, yn sefydliad cymdeithas sifil, neu’n rhywun sydd â phrofiad uniongyrchol, bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried yn ofalus er mwyn llywio ein penderfyniadau terfynol.