Ymchwiliad i fforwm trafod hunanladdiad ar-lein a chydymffurfio â dyletswyddau i ddiogelu ei ddefnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon

Cyhoeddwyd: 9 Ebrill 2025
Diweddarwyd diwethaf: 7 Tachwedd 2025

Ar agor

Ymchwiliad i

Darparu fforwm trafod hunanladdiad ar-lein. Oherwydd ei natur, rydym wedi penderfynu peidio ag enwi’r darparwr na’r fforwm.

Achos wedi’i agor

9 Ebrill 2025

Crynodeb

Rydym yn ymchwilio i weld a yw darparwr fforwm trafod hunanladdiad ar-lein wedi methu/yn methu cydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 i wneud y canlynol:

  • ymateb yn ddigonol i gais statudol am wybodaeth.
  • cwblhau a chadw cofnod o asesiad risg cynnwys anghyfreithlon addas a digonol; a hefyd
  • cydymffurfio â’r dyletswyddau diogelwch ynghylch cynnwys anghyfreithlon, y dyletswyddau sy’n ymwneud ag adrodd am gynnwys a dyletswyddau yng nghyswllt gweithdrefnau cwyno, sy’n berthnasol i wasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy’n cael eu rheoleiddio.
Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Adrannau 9, 10, 20, 21, 23 a 102(8) o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.

Fel y nodwyd yn ein diweddariad ar 13 Hydref isod, wrth ystyried cydymffurfiaeth gwasanaeth â'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, lle mae wedi cyfyngu mynediad i bobl sydd â chyfeiriadau IP yn y DU, bydd Ofcom yn monitro'r cyfyngiadau fesul achos i asesu a ydynt yn cael eu cynnal yn gyson ac er mwyn bodloni ei hun nad yw'r gwasanaeth yn hyrwyddo ffyrdd o osgoi'r cyfyngiadau mynediad.  

Os yw gwasanaeth yn cyfyngu mynediad i bobl yn y DU, byddwn yn ystyried hyn wrth asesu a ellir disgwyl i gamau gorfodi arwain at welliannau pellach mewn diogelwch ar-lein i bobl yn y DU, yn enwedig plant. 

Yn ein diweddariad 6 Tachwedd 2025, esboniwyd ein bod yn bwrw ymlaen â'n hymchwiliad gorfodi yn yr achos hwn fel blaenoriaeth, gan fod gennym reswm i gredu bod y fforwm hunanladdiad ar-lein ar gael i ddefnyddwyr y DU. 

Roedd y diweddariad hwn yn seiliedig ar dystiolaeth a dderbyniwyd gan y Samaritans, a ddilyswyd yn annibynnol gan Ofcom, fod y gwasanaeth ar gael yn uniongyrchol i ddefnyddwyr â chyfeiriadau IP y DU trwy 'safle drych' gydag enw parth gwahanol, o leiaf tan 12.18 pm ar 6 Tachwedd 2025. Rydym bellach yn ymwybodol nad yw'r parth arall hwn bellach yn ymddangos i fod yn hygyrch heddiw. Fodd bynnag, rydym yn pryderu nad oedd atal y fforwm i ddefnyddwyr y DU yn effeithiol a/neu nad oedd yn cael ei gynnal yn gyson ac y gallai problemau tebyg godi yn y dyfodol.  Felly, rydym yn parhau i fwrw ymlaen â'n hymchwiliad fel blaenoriaeth. 

Rydym wedi bod yn glir y gallem barhau i flaenoriaethu achosion gorfodi yn erbyn darparwyr gwasanaeth nad ydynt yn cynnal cyfyngiadau mynediad yn gyson neu sy'n hyrwyddo neu'n annog ffyrdd y gall eu defnyddwyr yn y DU osgoi'r cyfyngiadau hynny. Gweler: Diogelu Pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon ar-lein: o ble bynnag mae'n deillio ohonno.  

Ar 1 Gorffennaf 2025, gweithredodd y fforwm floc i gyfyngu defnyddwyr â chyfeiriadau IP y DU rhag cael mynediad i'r gwasanaeth. Mae Ofcom wedi bod yn monitro'r cyfyngiadau hyn yn weithredol i wirio eu bod yn cael eu cynnal yn gyson ac i wneud yn siŵr nad yw'r gwasanaeth yn hyrwyddo nac yn annog ffyrdd i ddefnyddwyr y DU eu hosgoi.

Erbyn hyn mae gennym reswm i gredu, o dystiolaeth a ddarparwyd i ni gan y Samaritans ar 4 Tachwedd 2025, bod y gwasanaeth ar gael i ddefnyddwyr y DU. Felly, rydym bellach yn bwrw ymlaen â'n hymchwiliad fel blaenoriaeth, ac rydym yn anelu at ddod i gasgliad cyn gynted â phosibl. 

Byddwn yn rhoi diweddariadau pellach ar yr ymchwiliad hwn cyn gynted â phosibl. 

Mewn ymateb i'n hymchwiliad a agorwyd ar 9 Ebrill 2025, ar 1 Gorffennaf 2025 aeth y fforwm ti’n wirfoddol i roi bloc i tal defnyddwyr â chyfeiriadau IP yn y DU rhag cael mynediad i'r gwasanaeth. Yn Dilyn ymgysylltu pellach, aeth ati i ddileu negeseuon i ddefnyddwyr yn y DU o’r hafan, a oedd yn hyrwyddo ffyrdd i osgoi’r bloc. Mae Ofcom yn glir bod yn rhaid i wasanaethau sy’n dewis atal mynediad i bobl yn y DU beidio ag annog pobl neu hyrwyddo ffyrdd i osgoi’r cyfyngiadau.

 Mae’r cyfyngiadau hyn wedi lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl yn y DU yn agored i gynnwys anghyfreithlon neu niweidiol a allai fod yn bresennol ar y gwasanaeth, sy'n golygu profiadau ar-lein mwy diogel iddynt. Rydym yn monitro'r cyfyngiadau hyn yn weithredol i wirio eu bod yn cael eu cynnal yn gyson ac i wneud yn siŵr nad yw'r gwasanaeth yn hyrwyddo neu'n annog ffyrdd i ddefnyddwyr y DU eu hosgoi. Yn dibynnu ar ganlyniad ein proses fonitro, efallai y byddwn yn ailasesu blaenoriaethu'r achos hwn yn unol â'n dull cyffredinol o orfodi (a nodir isod), gan gynnwys asesu a yw parhau â'r ymchwiliad hwn yn debygol o arwain at welliannau pellach yn niogelwch ar-lein pobl yn y DU, yn enwedig plant.

Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom  yn nodi sut y bydd Ofcom fel arfer yn mynd i'r afael â gorfodi o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (y 'Ddeddf') i gefnogi'r gwaith o gyflawni ei amcanion statudol, gan gynnwys diogelu dinasyddion y DU yn ddigonol rhag niwed a gyflwynir gan gynnwys ar wasanaethau rheoleiddiedig drwy ddefnyddio systemau a phrosesau a gynlluniwyd i leihau risgiau o'r fath. Rydym hefyd yn ystyried y materion yn adran 3(3) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, sy'n cynnwys egwyddorion y dylai ein gweithgareddau rheoleiddio fod yn dryloyw, atebol, cymesur, cyson, ac wedi'u targedu at achosion lle mae angen gweithredu.

Mae Ofcom o’r farn bod ei dull hyblyg o asesu a lliniaru risg yn caniatáu i wasanaethau gymryd camau priodol a chymesur i ddiogelu defnyddwyr y DU rhag cynnwys anghyfreithlon. Efallai y bydd rhai gwasanaethau’n ceisio atal pobl yn y DU rhag cael mynediad i'w safleoedd neu rannau o'u safleoedd, er enghraifft drwy rwystro mynediad o gyfeiriadau IP yn y DU, yn hytrach na chymryd camau i ddiogelu defnyddwyr y DU wrth ddefnyddio eu gwasanaeth. Eu dewis nhw yw hynny.

Wrth ystyried cydymffurfiaeth gwasanaeth â'r Ddeddf lle mae wedi cyfyngu mynediad i bobl  â chyfeiriadau IP yn y DU, bydd Ofcom yn monitro'r cyfyngiadau fesul achos i asesu a ydynt yn cael eu cynnal yn gyson ac er mwyn sicrhau nad yw'r gwasanaeth yn hyrwyddo ffyrdd o osgoi'r cyfyngiadau mynediad. Os yw gwasanaeth yn atal mynediad i bobl yn y DU, byddwn yn ystyried presenoldeb y cyfyngiadau wrth asesu a ellir disgwyl i gamau gorfodi arwain at welliannau pellach mewn diogelwch ar-lein i bobl yn y DU, yn enwedig plant.

Am ragor o wybodaeth, gweler, Diogelu pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon ar-lein – o ba le bynnag mae’n delllio ohono.

Fel rhan o'n hymchwiliad, cododd Gŵyn Gweithdrefn gydag Ofcom. Rydym yn cyhoeddi ein hymateb i'r gŵyn honno fel diweddariad i'r ymchwiliad.

Ymateb y Swyddog Gweithdrefnol (PDF, 193 KB)

Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i ddarparwr fforwm trafod hunanladdiad ar-lein. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried cydymffurfiad y darparwr â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (‘y Ddeddf’).

Roedd yn rhaid i bob gwasanaeth chwilio a defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sydd o fewn cwmpas y Ddeddf gynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon erbyn 16 Mawrth 2025. Roedd yn ofynnol iddynt asesu’r risgiau y byddai defnyddwyr yn dod o hyd i gynnwys anghyfreithlon ar eu llwyfannau, gan gynnwys deunydd anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth (fel y’i diffinnir yn y Ddeddf) sy’n gyfystyr â throsedd annog neu gynorthwyo hunanladdiad (neu ymgais i gyflawni hunanladdiad) rhywun arall yn fwriadol.

Yn ogystal, mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn rhoi dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy’n cael eu rheoleiddio i ddefnyddio'r canlynol:

  1. camau cymesur i liniaru a rheoli yn effeithiol:
    • y risg y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i gyflawni neu hwyluso trosedd flaenoriaeth; a’r
    • risgiau o niwed i unigolion.
  2. systemau a phrosesau cymesur i:
    • atal unigolion rhag dod ar draws cynnwys anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth; a
    • lleihau’r amser mae unrhyw gynnwys anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth yn bresennol a mynd ati’n ddi-oed i dynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono; a
  3. bod darpariaethau yn yr amodau gwasanaeth sy’n nodi sut bydd unigolion yn cael eu diogelu rhag cynnwys anghyfreithlon, yn cymhwyso’r telerau hynny’n gyson ac yn sicrhau bod telerau’r gwasanaeth yn glir ac yn hawdd eu cyrraedd.

Ar yr un pryd, dechreuodd dyletswyddau i ddefnyddio systemau a phrosesau i sicrhau bod defnyddwyr yn gallu rhoi gwybod yn hawdd am gynnwys anghyfreithlon a gwneud cwynion perthnasol hefyd fod yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau Rhan 3. Daeth y ‘Dyletswyddau Cynnwys Anghyfreithlon’ hyn i rym ar 17 Mawrth 2025.

Gall darparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr sy’n cael eu rheoleiddio gydymffurfio â’r Dyletswyddau Cynnwys Anghyfreithlon drwy roi camau ar waith sy’n cael eu hargymell yng Nghodau Ymarfer Ofcom ar gynnwys anghyfreithlon ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2025 (y ‘Codau Ymarfer’), neu drwy fesurau amgen.

Ymchwiliadau

Mae’r ymchwiliad yn dilyn hysbysiad gwybodaeth a anfonwyd at y darparwr gwasanaeth o dan y Rhaglen Gorfodi Asesiad Risg a gohebiaeth bellach gyda’r darparwr gwasanaeth mewn perthynas â’i ddyletswyddau o dan y Ddeddf. Rydym wedi bod yn glir y gallai methu ymateb yn ddigonol i’n cais i wasanaethau gyflwyno cofnod o’u hasesiad risg cynnwys anghyfreithlon arwain at gamau gorfodi a, cyn gynted ag y daw’r dyletswyddau i rym ar gyfer darparwyr, na fyddem yn oedi cyn gweithredu pan fyddwn yn amau y gallai fod achosion difrifol o dorri amodau sy’n ymddangos fel pe baent yn peri risg o niwed sylweddol iawn i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig, ac i blant yn benodol.

Bydd ymchwiliad Ofcom yn ystyried a oes sail resymol dros gredu bod darparwr y fforwm trafod hunanladdiad ar-lein wedi methu, neu’n methu ar hyn o bryd cydymffurfio â’i ddyletswyddau i ddiogelu ei ddefnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon, yn ogystal â’r ddyletswydd i ymateb yn gywir i hysbysiad gwybodaeth a anfonir o dan y Ddeddf.

Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn maes o law. Mae Canllawiau Gorfodi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn amlinellu dull arferol Ofcom o orfodi o dan y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys ein dull o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a’r camau gweithdrefnol y mae’n rhaid i ni eu cymryd i benderfynu’n deg ar ganlyniad yr ymchwiliad.

Pan fyddwn yn canfod methiannau cydymffurfio, gallwn osod dirwyon o hyd at £18 miliwn neu 10% o refeniw byd-eang cymwys (pa un bynnag sydd fwyaf). Yn yr achosion mwyaf difrifol o beidio â chydymffurfio, a lle bo’n briodol o ystyried y risg o niwed i unigolion yn y Deyrnas Unedig, gallwn ofyn am orchymyn llys i fynnu bod trydydd partïon yn cymryd camau i darfu ar fusnes y darparwr. Gall hyn ei gwneud yn ofynnol i drydydd partïon (fel darparwyr gwasanaethau talu neu hysbysebu, neu Ddarparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd) dynnu gwasanaethau o wasanaeth rheoledig yn y Deyrnas Unedig, neu rwystro mynediad ato.


Cyfeirnod yr achos

CW/01293/04/25