Person on mobile

Datganiad Ofcom ar gynnydd prisiau O2

Cyhoeddwyd: 30 Hydref 2025

Datganiad Ofcom ar benderfyniad O2 i gynyddu prisiau canol cytundeb y tu hwnt i'r hyn y cytunodd cwsmeriaid pan wnaethant gofrestru:

"Rydyn ni eisiau i gwsmeriaid gael sicrwydd am eu biliau ffonau symudol misol fel y gallant gynllunio eu cyllidebau cartref. Dyna pam yn gynharach eleni fe wnaethom wahardd cynnydd prisiau anrhagweladwy sy'n gysylltiedig â chwyddiant ac yn hytrach gofyn i ddarparwyr ddweud wrth gwsmeriaid ymlaen llaw mewn punnoedd a cheiniogau am unrhyw gynnydd yn eu cytundeb.

"Rydym yn siomedig gyda phenderfyniad O2. Mae hyn yn mynd yn groes i ysbryd ein rheolau sydd wedi'u cynllunio i sicrhau mwy o sicrwydd a thryloywder i gwsmeriaid pan fyddant yn cofrestru.

"Heddiw, rydym wedi ysgrifennu at y prif gwmnïau ffonau symudol yn eu hatgoffa o'u rhwymedigaethau i drin cwsmeriaid yn deg. Rydym yn annog unrhyw gwsmer sydd eisiau osgoi'r cynnydd prisiau hwn i arfer eu hawl i adael heb gosb a chael cynnig newydd, gan ddilyn ein pum prif awgrym:

  • Gwybod eich hawliau. Rhaid i'ch darparwr roi 30 diwrnod o rybudd a gadael i chi adael eich cytundeb yn ddi-gosb os ydynt yn cynyddu prisiau y tu hwnt i'r hyn y gwnaethoch chi gytuno pan wnaethoch chi gofrestru. Mae hynny'n golygu eich bod chi'n rhydd i gofrestru i fargen newydd - naill ai gyda'ch darparwr presennol neu gydag un newydd.

  • Edrych am fargen. Defnyddiwch safle cymharu prisiau i weld y cynigion amgen gorau sydd ar gael.

  • Neges i newid. Gallwch newid i ddarparwr ffonau symudol newydd trwy anfon neges destun syml. Anfonwch neges destun yn dweud 'INFO' i 85075, i ddechrau’r broses a dilynwch y cyfarwyddiadau hawdd.

  • Ystyriwch dariff cymdeithasol. Dyma becynnau rhatach i bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn neu fudd-daliadau eraill. Maent yn cael eu cyflwyno yn yr un modd â phecynnau arferol, ac ni fydd y pris yn mynd i fyny yng nghanol y contract.

  • Defnyddiwch offeryn 'Map your Mobile' Ofcom. Ewch i  offeryn 'Map Your Mobile' Ofcom  , rhowch eich cod post i mewn a darganfyddwch ar unwaith pa ddarparwr sy'n cynnig y sylw gorau yn eich ardal."