Ymchwiliad i gydymffurfiad Kick Online Entertainment S.A â chais statudol am wybodaeth

Cyhoeddwyd: 14 Mai 2025

Ar agor

Ymchwiliad i

Kick Online Entertainment S.A (‘Kick’)

Achos wedi’i agor

14 Mai 2025

Crynodeb

Rydym yn ymchwilio i weld a yw Kick wedi methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad statudol am wybodaeth.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Adran 102(8) Deddf Diogelwch Ar-lein 2023.

Cefndir

Ar 3 Mawrth 2025, agorodd Ofcom raglen orfodi i fonitro a yw darparwyr gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio ar draws y sector wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i gwblhau a chadw cofnod o asesiad risg cynnwys anghyfreithlon. Ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr, mae’r dyletswyddau hyn wedi’u nodi o dan adrannau 9 a 23 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (‘y Ddeddf’). I gael rhagor o wybodaeth, tarwch olwg ar: Rhaglen orfodaeth.

Fel rhan o’r rhaglen hon, roedd Ofcom wedi gofyn am gofnodion o asesiadau risg cynnwys anghyfreithlon, er mwyn asesu cydymffurfiad â’r Ddeddf. Gofynnwyd am gofnodion gan amrywiaeth o ddarparwyr y gwasanaethau dan sylw. Roedd Kick yn un o’r darparwyr hynny, yng nghyswllt gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr Motherless.com (‘Motherless’).

Ymchwiliadau

Heddiw, 14 Mai 2025, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i Kick.

Mae’r ymchwiliad hwn yn ystyried a yw Kick yn cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth (‘yr Hysbysiad’), a gyhoeddwyd ar 10 Mawrth 2025 o dan adran 100 o’r Ddeddf. O dan adran 102(8) o’r Ddeddf, roedd yn rhaid i Kick ymateb i’r Hysbysiad yn y modd a’r ffurf a nodwyd erbyn 31 Mawrth 2025. Ni chafodd Ofcom ymateb. O ganlyniad, ar 1 Ebrill 2025, anfonodd Ofcom lythyr at Kick yn rhoi gwybod iddo ei fod wedi methu â chyrraedd y dyddiad cau ac y byddai’r camau nesaf yn cael eu hystyried pe na bai’n darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani erbyn 11:00 GMT ar 16 Ebrill 2025, gan gynnwys a ddylid agor ymchwiliad.

Hyd heddiw, nid yw Kick wedi ymateb i’r Hysbysiad.

Roedd yr Hysbysiad yn egluro ei bod yn ofynnol i’r wybodaeth asesu a yw Kick yn cydymffurfio â’i ddyletswyddau i gynnal a chofnodi asesiad risg cynnwys anghyfreithlon ar gyfer Motherless, gan gynnwys sut cafodd ei gynnal, a’i ganfyddiadau.

Mae Ofcom yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir drwy geisiadau statudol am wybodaeth i lywio sut mae’n cyflawni ei swyddogaethau statudol fel rheoleiddiwr. Felly, mae’n hanfodol bod darparwyr yn ymateb gyda gwybodaeth gywir a chyflawn yn brydlon.

Bydd ymchwiliad Ofcom yn ystyried a yw Kick wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol mewn perthynas â’r Hysbysiad. Bydd Ofcom yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen hon wrth i ni fwrw ymlaen â’r ymchwiliad hwn.

Ochr yn ochr â’r ymchwiliad hwn, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad ar wahân heddiw i weld a yw Kick yn cydymffurfio â’i ddyletswyddau asesu risg cynnwys anghyfreithlon. Mae’r bwletin ar gyfer yr ymchwiliad hwn ar gael yma.


Cyswllt
Cyfeirnod yr achos

CW/01295/05/25

Yn ôl i'r brig