Ar gau
Kick Online Entertainment S.A (‘Kick’)
14 Mai 2025
3 Gorffennaf 2025
Rydym yn ymchwilio i weld a yw Kick wedi methu â chydymffurfio â dyletswyddau asesu risg cynnwys anghyfreithlon.
Adran 9 a 23 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023.
Heddiw mae Ofcom wedi cau ei ymchwiliad i gydymffurfiaeth Kick â'i ddyletswydd i gynnal a/neu gadw cofnod ysgrifenedig o'i asesiad risg cynnwys anghyfreithlon (‘ICRA’) mewn perthynas â'r gwasanaeth Motherless.com.
Agorwyd yr ymchwiliad i Kick yn wreiddiol ar ôl i Ofcom beidio â derbyn ymateb i hysbysiad gwybodaeth yn gofyn am gofnod ysgrifenedig o'i asesiad risg cynnwys anghyfreithlon.
Yn dilyn gohebiaeth bellach, darparodd Kick y cofnod ysgrifenedig o'r ICRA i Ofcom. O'r herwydd, nid yw Ofcom yn ystyried ei bod yn briodol parhau â'n hymchwiliad. Felly, rydym wedi'i gau heb wneud unrhyw ganfyddiadau ynghylch cydymffurfiaeth Kick â'i ddyletswyddau.
Yn benodol, nid yw Ofcom wedi cymryd barn ynghylch a yw'r cofnod ysgrifenedig o'r asesiad risg cynnwys anghyfreithlon a ddarparwyd gan Kick ar gyfer Motherless.com yn addas ac yn ddigonol fel sy'n ofynnol gan adran 9 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2025 (y Ddeddf), ac nid ydym wedi gwneud penderfyniad ynghylch unrhyw agweddau eraill ar gydymffurfiaeth Kick â'r Ddeddf.
Cefndir
Ar 3 Mawrth 2025, agorodd Ofcom raglen orfodi i fonitro a yw darparwyr gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio ar draws y sector wedi cydymffurfio â’u dyletswydd i gwblhau a chadw cofnod o asesiad risg cynnwys anghyfreithlon. Daeth y dyletswyddau hyn ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr i rym ar 16 Mawrth 2025 ac, fe'u nodir yn adran 9 a 23 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (‘y Ddeddf’). I gael rhagor o wybodaeth, tarwch olwg ar: Rhaglen Orfodaeth.
Fel rhan o’r rhaglen hon, roedd Ofcom wedi gofyn am gofnodion o’r asesiadau risg cynnwys anghyfreithlon, er mwyn asesu a ydynt yn cydymffurfio â’r Ddeddf. Gofynnwyd am gofnodion gan amrywiaeth o ddarparwyr y gwasanaethau dan sylw. Roedd Kick yn un o’r darparwyr hynny, yng nghyswllt gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr Motherless.com (‘Motherless’). Hyd heddiw, nid yw Kick wedi darparu copi o gofnodion ysgrifenedig asesiad risg cynnwys anghyfreithlon Motherless.
Ymchwiliadau
Heddiw, 14 Mai 2025, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i Kick.
Yn sgil methiant Kick i ymateb i hysbysiad cais am wybodaeth a gyhoeddwyd o dan adran 100 o’r Ddeddf sy’n mynnu ei fod yn anfon copi o gofnod ysgrifenedig yr asesiad risg cynnwys anghyfreithlon ar gyfer Motherless, mae Ofcom yn ymchwilio i weld a yw Kick wedi cydymffurfio â’i ddyletswyddau i wneud y canlynol:
- cynnal asesiad risg cynnwys anghyfreithlon ar gyfer Motherless, fel sy’n ofynnol gan adran 9 o’r Ddeddf:
- gwneud a chadw cofnodion ysgrifenedig, hawdd eu deall, o bob agwedd ar bob asesiad risg gan gynnwys manylion am sut cafodd yr asesiad ei gynnal a beth oedd y canfyddiadau, fel sy’n ofynnol gan adran 23 o’r Ddeddf.
Felly, bydd ymchwiliad Ofcom yn ystyried a yw Kick wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol mewn perthynas â’r asesiad risg cynnwys anghyfreithlon. Bydd Ofcom yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen hon wrth i ni fwrw ymlaen â’r ymchwiliad.
Ochr yn ochr â’r ymchwiliad hwn, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad ar wahân heddiw i weld a yw Kick wedi cydymffurfio â chais statudol am wybodaeth. Mae’r bwletin ar gyfer yr ymchwiliad hwn ar gael yma.
Y tîm gorfodi (riskassessmentprogramme@ofcom.org.uk)
CW/01296/05/25