ADR complaints

Datrys cwynion yn gyflymach i gwsmeriaid telathrebu, o dan reolau newydd Ofcom

Cyhoeddwyd: 8 Gorffennaf 2025

Bydd cwsmeriaid telegyfathrebiadau yn gallu uwch gyfeirio eu cwynion sydd heb eu datrys i gynllun datrys anghydfod annibynnol yn gynt, o dan reolau cryfach Ofcom.

Mae Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfodau (ADR) yn gyrff annibynnol sy'n cynnal asesiadau diduedd o gwynion heb eu datrys rhwng cwsmer a'u darparwr cyfathrebu. Mae'r broses hon wedi'i chynllunio i helpu i sicrhau bod cwynion yn cael eu trin yn deg ac yn effeithiol, ac mae'n grymuso defnyddwyr yn eu perthynas â'u darparwr.

Ym mis Tachwedd 2023, fe wnaethom lansio adolygiad o ba mor effeithiol y mae'r system ADR bresennol yn gweithio, gan gynnwys cynnal ymchwil ymhlith defnyddwyr i ddeall eu profiadau. Ac yn dilyn ymgynghoriad, rydym bellach wedi penderfynu cryfhau ein rheolau.

Datrysiad cyflymach ar gyfer ddefnyddwyr

Mae ein rheolau’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr cyfathrebu anfon llythyrau ADR, yn hysbysu defnyddwyr am eu hawl i gael mynediad at ADR, os nad yw cwyn wedi’i datrys wyth wythnos ar ôl iddi gael ei chodi gyntaf. Mae ein hadolygiad wedi edrych i weld a yw’r cyfnod hwn o amser yn parhau’n iawn yn y farchnad heddiw.

Rhwng Ionawr 2022 a 2024, cafodd mwyafrif sylweddol (79%) o’r cwynion a dderbyniwyd gan y cwmnïau telegyfathrebiadau mwyaf eu datrys mewn llai nag wythnos, gyda 94% yn cael eu datrys o fewn chwe wythnos.

Ar gyfer y tua 700,000 o ddefnyddwyr a oedd â chwyn ar agor ar ôl 6 wythnos, dim ond tua un o bob pump (tua 19%) a lwyddodd i gael eu problem wedi'i datrys neu wedi'i chyfeirio at ADR cyn y trothwy presennol o wyth wythnos. Roeddem yn pryderu bod nifer sylweddol o ddefnyddwyr wedi aros pythefnos ychwanegol, gan barhau i ddioddef neu dan anfantais o bosibl, cyn cael mynediad at ADR i gael datrysiad.

Yn dilyn ymgynghoriad, rydym bellach yn lleihau'r amserlen cyn y gall defnyddwyr gael mynediad at ADR o wyth wythnos i chwech. Bydd hyn yn sicrhau bod y system ADR yn parhau i fod yn effeithiol, ac yn helpu defnyddwyr i gael eu cwynion wedi'u datrys yn gyflym.

Bydd y newid hwn yn dod i rym o fis Ebrill 2026.

Ail-gymeradwyo'r Ombwdsmon Cyfathrebu a CISAS

Mae Ofcom hefyd yn ail-gymeradwyo'r Ombwdsmon Cyfathrebu (a elwid gynt yn Wasanaethau'r Ombwdsmon) a'r Cynllun Dyfarnu Gwasanaethau Cyfathrebu a'r Rhyngrwyd (CISAS) fel cynlluniau ADR ar gyfer y sector telathrebu. Canfu ein hadolygiad eu bod yn gweithio'n dda a'u bod yn parhau i fodloni'r meini prawf asesu statudol o dan y Ddeddf Cyfathrebiadau.

Yn ôl i'r brig