
Yn y diweddaraf mewn cyfres o esboniadau ar niwed penodol ar-lein, mae Ofcom yn nodi’r hyn y mae angen i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein sy’n gweithredu yn y DU ei wneud i ddiogelu pobl rhag cynnwys hunanladdiad neu hunan-niweidio.
Rhybudd: Mae cynnwys sy’n peri gofid yn yr erthygl hon sy’n ymwneud â hunanladdiad a hunan-niweidio
Mae nifer o farwolaethau yn y DU wedi cael eu cysylltu â deunydd ar-lein lle mae gwybodaeth fanwl yn cael ei rhannu am ddulliau hunanladdiad a hunan-niweidio, neu lle mae ymddygiad hunanladdol a hunan-niweidio yn cael ei hybu. Mae oedolion a phlant yn gallu chwilio am y math hwn o gynnwys, gyda chanlyniadau trasig. Ond mae’n bosibl iddyn nhw hefyd ddod ar ei draws yn ddamweiniol neu efallai bydd algorithmau’n ei argymell iddyn nhw.
Mae ymchwil Ofcom yn awgrymu bod pedwar y cant o ddefnyddwyr rhyngrwyd y DU wedi gweld cynnwys ar-lein sy’n hyrwyddo hunanladdiad yn y mis diwethaf, ac mae plant yn fwy tebygol o'i weld nag oedolion.
Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein ddiogelu defnyddwyr y DU
O dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, mae gan bob darparwr gwasanaeth sydd o fewn y cwmpas ddyletswydd i wneud ei safleoedd a’i apiau yn fwy diogel drwy eu dyluniad a drwy amddiffyn plant ac oedolion rhag cynnwys anghyfreithlon a niweidiol, gan gynnwys cynnwys sy’n annog neu’n cynorthwyo hunanladdiad a hunan-niweidio.
Ar 16 Rhagfyr 2024, cyhoeddodd Ofcom ei godau ymarfer a’i ganllawiau cyntaf ar gynnwys anghyfreithlon. Yna roedd gan ddarparwyr gwasanaeth rheoleiddiedig tan 16 Mawrth 2025 i gynnal eu hasesiadau risg ar gynnwys anghyfreithlon, a daeth y dyletswyddau diogelwch cynnwys anghyfreithlon i rym ar 17 Mawrth 2025. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i gael gwared ar gynnwys anghyfreithlon yn gyflym pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono, gan gynnwys mathau anghyfreithlon o gynnwys hunanladdiad a hunan-niweidio.
Yn ein codau, rydym wedi nodi mesurau penodol y gall gwasanaethau ‘defnyddiwr-i-ddefnyddwyr' eu cymryd i ddiogelu oedolion a phlant rhag deunydd anghyfreithlon. Mae rhai ohonynt yn berthnasol i bob darparwr, ac eraill i fathau penodol o ddarparwyr gwasanaethau, neu i ddarparwyr gwasanaethau mwy neu sydd â risg uwch. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:
- sefydlu systemau a phrosesau cymedroli cynnwys sy’n galluogi iddynt dynnu deunydd anghyfreithlon am hunanladdiad a hunan-niweidio i lawr yn gyflym pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono.
- Gwneud yn siŵr bod swyddogaethau cymedroli cynnwys yn cael adnoddau priodol a bod unigolion sy’n cymedroli’n cael eu hyfforddi i adnabod cynnwys – a, lle bo hynny’n berthnasol, tynnu cynnwys i lawr – gan gynnwys deunydd anghyfreithlon am hunanladdiad a hunan-niweidio;
- galluogi defnyddwyr i riportio deunydd anghyfreithlon am hunanladdiad a hunan-niweidio drwy brosesau riportio a chwyno sy’n hawdd eu canfod a’u defnyddio;
- wrth brofi eu halgorithmau, gwirio a yw newidiadau i ddyluniad yn effeithio ar y risg o argymell cynnwys anghyfreithlon i ddefnyddwyr a sut, gan gynnwys deunydd anghyfreithlon am hunanladdiad; a
- Gosod telerau ac amodau clir a hygyrch sy’n egluro sut bydd defnyddwyr yn cael eu diogelu rhag cynnwys anghyfreithlon sy’n cynnwys deunydd am hunanladdiad a hunan-niweidio.
Yn ogystal, dylai darparwyr gwasanaethau chwilio:
- gymryd camau cymedroli priodol yn erbyn deunydd anghyfreithlon am hunanladdiad neu hunan-niweidio pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono, a allai gynnwys dadflaenoriaethu ei safle cyffredinol neu beidio â’i ddangos mewn canlyniadau chwilio; a
- darparu gwybodaeth am atal argyfwng mewn ymateb i ymholiadau chwilio am ddulliau hunanladdiad neu hunanladdiad yn gyffredinol.
Amddiffyniadau pellach i blant
Mae ein rheoleiddio yn darparu haen ychwanegol o amddiffyniad i blant, o ystyried pwysigrwydd hanfodol eu cadw’n ddiogel ar-lein rhag cynnwys ac ymddygiad niweidiol.
Mae hwn eisoes yn faes ffocws allweddol yn ein codau niwed anghyfreithlon. Er enghraifft, dylai safleoedd a fforymau sydd ag ymarferoldeb negeseuon uniongyrchol a pherygl o feithrin perthynas amhriodol roi trefniadau diogelwch ar waith gan sicrhau mai dim ond pobl y maent eisoes yn gysylltiedig â nhw sy'n gallu cysylltu â phlant.
Ar 24 Ebrill 2025, cyhoeddwyd ein penderfyniadau ar amddiffyniadau ychwanegol i blant yn ymwneud â chynnwys sy'n gyfreithlon ond yn niweidiol iddynt. Roedd gan ddarparwyr gwasanaethau y mae plant yn debygol o gael mynediad atynt hyd at 24 Gorffennaf 2025 i asesu’r risgiau i blant yn sgil rhai mathau o gynnwys a ddynodwyd yn y Ddeddf sy’n niweidiol iddynt. Mae hyn yn cynnwys cynnwys sy’n hyrwyddo, annog neu ddarparu cyfarwyddiadau ar gyfer hunanladdiad neu hunan-niweidio. Daeth y dyletswyddau diogelwch plant i rym ar 25 Gorffennaf 2025, sy’n golygu bod yn rhaid i ddarparwyr bellach roi mesurau ar waith i liniaru risgiau i blant ar eu platfformau. Mae ein codau plant ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr yn argymell y dylai gwasanaethau:
- dylunio a gweithredu systemau argymell fel bod cynnwys sy’n debygol o fod yn gynnwys am hunanladdiad neu hunan-niweidio yn cael ei eithrio o ffrydiau plant.
- bod â systemau a phrosesau cymedroli cynnwys sy’n sicrhau bod camau’n cael eu cymryd yn gyflym pan fyddant yn nodi cynnwys hunan-niweidio neu hunanladdiad, er mwyn atal plant rhag gweld - lle mae gwasanaethau’n caniatáu’r math hwn o gynnwys, dylent roi sicrwydd oedran hynod effeithiol ar waith i sicrhau’r canlyniad hwn;
- gwneud yn siŵr bod gan eu swyddogaethau cymedroli cynnwys ddigon o adnoddau a bod unigolion sy’n cymedroli’n cael eu hyfforddi i adnabod a gweithredu’n unol â’u polisïau mewnol ar gynnwys yng nghyswllt cynnwys am hunanladdiad neu hunan-niweidio; a
- cyfeirio plant sy’n riportio, yn postio, yn rhannu neu’n chwilio am ddeunydd am hunanladdiad neu hunan-niweidio ar-lein at gymorth priodol;
Rydym yn argymell y dylai gwasanaethau chwilio:
- cymryd camau cymedroli priodol yn erbyn cynnwys hunanladdiad neu hunan-niweidio pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono, a allai gynnwys di-flaenoriaethu ei safle cyffredinol, yn ogystal â'i eithrio o ganlyniadau chwilio defnyddwyr sy'n blant trwy osodiadau chwilio diogel; a
- rhoi gwybodaeth am atal argyfwng i blant mewn ymateb i geisiadau chwilio sy’n ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta.
Mae rhai o'r rhain yn berthnasol i bob darparwr, ac eraill i rai mathau o ddarparwyr, neu i ddarparwyr gwasanaethau mwy neu fwy o risg.
Mesurau diogelwch ychwanegol arfaethedig
Ar 30 Mehefin 2025, cyhoeddwyd ein hymgynghoriad ar Fesurau Diogelwch Ychwanegol, sy'n nodi cynigion i ofyn i lwyfannau fynd ymhellach i gadw defnyddwyr yn ddiogel. Mae'r rhain yn cynnwys cynigion y dylai rhai darparwyr gwasanaeth:
- asesu a oes technoleg ragweithiol i ganfod mathau arbennig o gynnwys ar gael ac yn bodloni meini prawf penodol. Mae hyn yn cynnwys technoleg i ganfod cynnwys hunanladdiad anghyfreithlon, a chynnwys hunanladdiad a hunan-niweidio sy'n niweidiol i blant. Lle mae offer o'r fath yn bodoli, dylent eu defnyddio;
- galluogi adrodd amser real ar ffrydiau byw sy'n dangos niwed sydd ar fin digwydd, a sicrhau bod cymedrolwyr dynol ar gael pan fydd ffrydio byw yn weithredol; a
- dylunio a gweithredu eu systemau argymell fel bod cynnwys sy'n debygol o fod yn fathau penodol o gynnwys anghyfreithlon blaenoriaethol, (gan gynnwys cynnwys hunanladdiad anghyfreithlon) wedi'i eithrio o ffrydiau defnyddwyr.
Nod y mesurau hyn yw mynd i'r afael â chynnwys hunanladdiad a hunan-niweidio wrth y ffynhonnell a'i atal rhag mynd yn firaol.
Mae tystiolaeth yn allweddol i’n gwaith
Mae parhau i adeiladu ein sylfaen dystiolaeth yn y maes hwn yn un o'n prif flaenoriaethau, ac mae gennym raglen ymchwil sefydledig sy'n helpu i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth bwysig i gefnogi ein gwaith. Mae hynny’n cynnwys clywed gan bobl a sefydliadau sy’n arbenigo mewn cefnogi ac amddiffyn oedolion a phlant rhag hunanladdiad a hunan-niweidio.
Rydym hefyd wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r rhai sydd â phrofiadau uniongyrchol o niwed ar-lein yn ogystal â chrwneriaid sy’n cynnal cwestau. Byddwn yn parhau – ac yn cynyddu – y math hwn o ymgysylltu i sicrhau bod safbwyntiau o’r fath yn cael eu hymgorffori yn ein gwaith.
Gweithredu
Disgwyliwn i bob darparwr asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth, a chymryd camau i amddiffyn eu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol. Lle mae'n ymddangos nad yw darparwr yn cymryd camau i amddiffyn ei ddefnyddwyr rhag cynnwys niweidiol a bod risg o niwed difrifol i ddefnyddwyr - yn enwedig plant - ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi. Gwnaethom agor ymchwiliad i fforwm hunanladdiad yn fuan ar ôl i’r dyletswyddau niwed anghyfreithlon ddod i rym.
Lle byddwn yn nodi methiannau cydymffurfio, gallwn roi cosbau ariannol sylweddol, ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr wneud newidiadau penodol, ac – yn yr achosion mwyaf difrifol – gwneud cais i'r llysoedd i rwystro safleoedd yn y DU.
Os ydych chi’n cael trafferth ymdopi, ffoniwch y Samariaid am ddim ar 116 123 (y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon) neu cysylltwch â ffynonellau eraill o gefnogaeth, fel y rhai sydd wedi cael eu rhestru ar dudalen we y GIG sy’n cynnig helpu i’r rhai sy’n meddwl am hunanladdiad. Mae cymorth ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn, gan roi lle diogel i chi, pwy bynnag ydych chi a sut bynnag rydych chi’n teimlo.