Ofcom yw’r rheoleiddiwr ar gyfer diogelwch ar-lein yn y DU o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Ein rôl yw sicrhau bod gwasanaethau ar-lein, fel gwefannau ac apiau, yn cyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu eu defnyddwyr.
Bydd yn rhaid i wasanaethau wedi’u rheoleiddio ddilyn amryw o reolau, gan gynnwys diogelu defnyddwyr rhag cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon ar-lein, a diogelu plant rhag cynnwys a gweithgarwch niweidiol ar-lein. Mae’n bosib y bydd gan rai gwasanaethau ddyletswyddau eraill, a hynny i sicrhau:
- bod gan bobl ragor o ddewis a rheolaeth dros yr hyn maen nhw’n ei weld ar-lein;
- bod gwasanaethau’n fwy tryloyw a bod modd eu dal i gyfrif am eu gweithredoedd;
- bod gwasanaethau’n diogelu rhyddid mynegiant.
Byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau wedi’u rheoleiddio yn dilyn y rheolau
Ein rôl yw sicrhau bod gwasanaethau wedi’u rheoleiddio yn cymryd camau priodol i ddiogelu eu defnyddwyr. Nid ydym yn mynnu bod cwmnïau’n tynnu negeseuon, lluniau neu fideos, na chyfrifon penodol. Ein rôl ni yw adeiladu bywyd mwy diogel ar-lein drwy wella’r systemau mae cwmnïau’n eu defnyddio i atal niwed.
Bydd gennym amrywiaeth o adnoddau i sicrhau bod gwasanaethau’n dilyn y rheolau. Ar ôl ymgynghori arnynt, byddwn yn gosod codau ymarfer ac yn darparu arweiniad ar sut gall gwasanaethau gyflawni eu dyletswyddau. Daw’r rheolau newydd i rym pan fydd Senedd y DU wedi cymeradwyo’r codau a’r arweiniad.
O dan y rheolau newydd, bydd gennym bwerau i gymryd camau gorfodi, gan gynnwys rhoi dirwyon i wasanaethau os nad ydynt yn cyflawni eu dyletswyddau. Nid yw ein pwerau wedi’u cyfyngu i ddarparwyr gwasanaethau yn y DU.
Wrth gyflawni ein cyfrifoldebau rheoleiddio, rydym bob amser yn ystyried hawliau defnyddwyr i breifatrwydd a rhyddid mynegiant.
Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer gwahanol fathau o wasanaethau ar-lein
Defnyddiwch y tabiau isod i weld pa reolau sy’n berthnasol i bob math o wasanaeth:
Gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr
Mae gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr yn caniatáu i bobl gynhyrchu a rhannu cynnwys i bobl eraill ei weld. Maen nhw’n cynnwys:
- gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol;
- gwasanaethau rhannu fideos;
- gwasanaethau negeseua preifat;
- marchnadoedd ar-lein;
- gwasanaethau cwrdd â chariad;
- gwasanaethau adolygu;
- gwasanaethau rhannu ffeiliau a sain;
- fforymau trafod;
- gwasanaethau rhannu gwybodaeth;
- gwasanaethau chwarae gemau.
Y rheolau diogelwch ar-lein
O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, bydd rhaid i wasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr nodi peryglon o niwed i’w defnyddwyr a chymryd camau i’w diogelu rhag cynnwys anghyfreithlon.
Bydd angen i wasanaethau sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant yn y DU hefyd nodi risgiau i blant a chymryd camau priodol i’w diogelu rhag mathau penodol o gynnwys niweidiol. Efallai y bydd darparwyr y tu allan i’r DU yn dal yn gorfod dilyn ein rheolau os oes ganddynt gysylltiadau â’r DU – hynny yw, os oes gan eu gwasanaeth nifer sylweddol o ddefnyddwyr yn y DU neu fod y DU yn un o’u marchnadoedd targed.
Gwasanaethau chwilio
Mae gwasanaeth chwilio yn wasanaeth ar-lein gyda pheiriant chwilio sy’n eich galluogi i chwilio mwy nag un wefan neu gronfa ddata am wybodaeth, gwefannau neu gynnwys arall.
Mae dau brif fath o wasanaeth chwilio: gwasanaethau chwilio cyffredinol a gwasanaethau chwilio fertigol.
- Mae gwasanaethau chwilio cyffredinol yn eich galluogi i chwilio cynnwys o bob rhan o’r we.
- Mae gwasanaethau chwilio fertigol yn eich galluogi i chwilio am gynnyrch neu wasanaethau penodol sy’n cael eu cynnig gan wahanol gwmnïau, fel teithiau hedfan, cardiau credyd neu yswiriant.
Rheolau diogelwch ar-lein
O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, bydd rhaid i wasanaethau chwilio wedi’u rheoleiddio nodi peryglon o niwed i’w defnyddwyr a chymryd camau i’w diogelu rhag cynnwys anghyfreithlon.
Bydd angen i wasanaethau chwilio sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant hefyd nodi risgiau i blant a chymryd camau priodol i’w diogelu rhag mathau penodol o gynnwys niweidiol. Efallai y bydd darparwyr y tu allan i’r DU yn dal yn gorfod dilyn ein rheolau os oes ganddynt gysylltiadau â’r DU – hynny yw, os oes gan eu gwasanaeth nifer sylweddol o ddefnyddwyr yn y DU neu fod y DU yn un o’u marchnadoedd targed.
Gwasanaethau gyda chynnwys pornograffig
Mae gwasanaethau gyda chynnwys pornograffig yn cynnwys gwasanaethau ar-lein sy’n cyhoeddi neu’n dangos cynnwys pornograffig penodol ar ffurf fideos, delweddau neu sain. Maen nhw hefyd yn cynnwys gwasanaethau sy’n caniatáu i ddefnyddwyr lwytho cynnwys pornograffig i fyny a’i rannu, ac y gall defnyddwyr eraill y gwasanaeth ei weld. Gallai’r gwasanaethau hyn fod yn wefannau ac yn apiau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr neu’n llwyfannau rhannu fideos .
Rheolau diogelwch ar-lein
O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rhaid i wasanaethau sy’n cyhoeddi neu’n dangos pornograffi fod â mesurau sicrhau oedran effeithiol iawn i sicrhau nad yw plant yn gallu cael gafael ar bornograffi ar eu gwasanaeth fel rheol. Efallai y bydd darparwyr y tu allan i’r DU yn dal yn gorfod dilyn ein rheolau os oes ganddynt gysylltiadau â’r DU – hynny yw, os oes gan eu gwasanaeth nifer sylweddol o ddefnyddwyr yn y DU neu fod y DU yn un o’u marchnadoedd targed.
Efallai y bydd yn rhaid i wasanaethau sy’n caniatáu i ddefnyddwyr lwytho cynnwys pornograffig i fyny a’i rannu â defnyddwyr eraill hefyd ddilyn y rheolau ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr neu lwyfannau rhannu fideos .
Rhoi gwybod am rywbeth rydych chi wedi’i weld ar-leine
Cysylltu â’r gwasanaeth gyntaf
Mae llawer o wasanaethau ar-lein eisoes yn darparu ffyrdd i chi roi gwybod am gynnwys neu ymddygiad niweidiol, neu i gwyno am rywbeth rydych chi wedi’i weld. Os oes gennych broblem gyda rhywbeth rydych chi wedi’i weld neu ei brofi ar wasanaeth ar-lein, dylai rhoi gwybod yn uniongyrchol i’r gwasanaeth fod yn gam cyntaf.
Os ydych chi wedi gwneud hynny ac yn dal yn bryderus, gallwch roi gwybod i Ofcom.
Ni allwn ymateb i gwynion unigol nac ymchwilio iddynt
Er na allwn ymateb i’ch cwyn, bydd yn ein helpu i asesu a yw gwasanaethau wedi’u rheoleiddio yn gwneud digon i ddiogelu eu defnyddwyr – ac a ddylem gymryd unrhyw gamau.
Gallwch gwyno i ni am wasanaethau ar-lein wedi’u rheoleiddio. Mae gwasanaethau ar-lein wedi’u rheoleiddio yn cynnwys:
- gwefannau ac apiau sy’n lletya cynnwys wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr (fel cyfryngau cymdeithasol);
- peiriannau chwilio;
- gwasanaethau gyda chynnwys pornograffig;
- llwyfannau rhannu fideos.
Ffoniwch 999 mewn argyfwng sy’n peryglu bywyd
Dylech ffonio’r heddlu pan fydd trosedd yn digwydd, neu pan fydd rhywun mewn perygl uniongyrchol.
Ffynonellau cymorth eraill
Mae llinellau cymorth a gwasanaethau cymorth sy’n gallu eich helpu os ydych chi wedi gweld cynnwys anghyfreithlon, niweidiol neu sy’n peri gofid ar-lein.