A padlock and key sitting on a laptop keyboard

Archwiliadau oedran ar gyfer diogelwch ar-lein – beth mae angen i chi ei wybod fel defnyddiwr

Cyhoeddwyd: 26 Mehefin 2025

O 25 Gorffennaf 2025 ymlaen, bydd angen i bob gwefan ac ap sy’n caniatáu pornograffi gael archwiliadau oedran grymus ar waith, er mwyn sicrhau nad yw plant yn gallu cael gafael ar y cynnwys hwnnw.

Mae hwn yn newid sylweddol i sut mae oedolion yn y DU yn cael mynediad at bornograffi, ac mae’n gam allweddol o ran helpu i amddiffyn plant pan fyddan nhw ar-lein.

Rydyn ni’n deall bod rhai cwestiynau ynghylch sut bydd y rheolau newydd yn gweithio. Felly, rydyn ni wedi llunio’r esboniad hwn er mwyn egluro pethau’n iawn i bobl yn y DU sy’n defnyddio’r gwasanaethau ar-lein hyn.

Os ydych chi’n ddarparwr gwasanaeth, mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae angen i chi ei wneud ar gael ar ein tudalen i Oedolion yn unig a'n canllawiau ar roi camau sicrhau oedran effeithiol iawn ar waith.

Pam mae’r rheolau newydd hyn yn cael eu cyflwyno?

Mae’r rheolau’n cael eu cyflwyno o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Ofcom yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer diogelwch ar-lein, ac mae cadw plant yn ddiogel pan fyddan nhw ar-lein yn flaenoriaeth i ni.

Hyd yma, mae wedi bod yn rhy hawdd i blant weld pornograffi ar-lein. Mae ymchwil newydd gan Ofcom wedi canfod bod wyth y cant o blant 8-14 oed yn y DU wedi ymweld â gwefan neu ap pornograffi ar-lein mewn mis – gan gynnwys tua 3% o blant 8-9 oed – y plant ieuengaf yn yr astudiaeth.

Bechgyn 13-14 oed oedd fwyaf tebygol o ymweld â gwasanaeth pornograffi, cryn dipyn yn fwy na merched o’r un oed. Gyda phobl ifanc yn eu harddegau hŷn hefyd yn debygol o fod yn cael gafael ar bornograffi, bydd cyfanswm nifer y bobl ifanc o dan 18 oed sy’n dod i gysylltiad â chynnwys i oedolion yn uwch fyth

Ac mae ein hymchwil ni ein hunain yn dangos bod y mwyafrif helaeth o oedolion (80%) yn cefnogi archwiliadau oedran ar wefannau pornograffig ar-lein fel ffordd o amddiffyn plant. 

Fel y rheoleiddiwr, ni fyddwn yn asesu darnau unigol o gynnwys, nac yn dweud wrth wasanaethau ar-lein i gael gwared ar ddeunydd cyfreithiol. Nid ein rôl ni yw atal oedolion rhag cael mynediad at bornograffi cyfreithiol, ond o 25 Gorffennaf ymlaen bydd angen archwiliadau mwy grymus ac, yn hollbwysig, ni fydd ticio blwch i ddweud eich bod chi dros 18 oed yn ddigon mwyach.

Yn ogystal â phornograffi, rydyn ni’n disgwyl i’r gwasanaethau mwyaf peryglus ddefnyddio archwiliadau oedran grymus i amddiffyn plant rhag cynnwys sy’n ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio neu anhwylderau bwyta a mathau eraill o gynnwys niweidiol, gan ddiogelu hawliau oedolion i gael mynediad at gynnwys cyfreithiol ar yr un pryd.

Sut bydd hyn yn effeithio arna’ i fel defnyddiwr?

Pan fyddwch chi’n ymweld â gwefan neu ap sy’n caniatáu pornograffi, ni ddylech chi allu gweld y cynnwys hwn cyn y gofynnir i chi gadarnhau eich oedran. I wneud y profiad yn fwy hygyrch a thryloyw, dylech allu darllen datganiad sy’n nodi’r mathau o archwiliadau oedran y gallwch eu defnyddio, a sut maen nhw’n gweithio.

Er mwyn cydymffurfio â rheolau Ofcom, rhaid i’r broses archwilio oedran fod yn dechnegol gywir, yn gadarn, yn ddibynadwy ac yn deg.

A sut bydda i’n profi fy oedran? 

Mae nifer o ddulliau y gallai gwefan neu ap eu defnyddio i gadarnhau eich oedran. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Amcangyfrif oedran yr wyneb – rydych chi’n dangos eich wyneb drwy ffotograff neu fideo, ac mae technoleg yn ei ddadansoddi i amcangyfrif eich oedran. 
  • Bancio agored – rydych chi’n rhoi caniatâd i’r wefan neu’r ap gadarnhau â’ch banc a ydych chi dros 18 oed. Ni fydd angen i chi rannu eich dyddiad geni nac unrhyw wybodaeth arall. 
  • Gwasanaethau adnabod digidol – mae hyn yn cynnwys waledi adnabod digidol, sy’n gallu dilysu dogfennau sy’n profi eich oedran a’u storio’n ddiogel (fel trwydded yrru) mewn fformat digidol.
  • Archwiliadau oedran cerdyn credyd – rydych chi’n rhoi manylion eich cerdyn credyd ac yn rhoi caniatâd i’r wefan neu’r ap gadarnhau a yw’r cerdyn yn ddilys.
  • Amcangyfrif oedran ar sail e-bost – rydych chi’n rhoi eich cyfeiriad e-bost, ac mae technoleg yn dadansoddi gwasanaethau ar-lein eraill lle mae wedi cael ei ddefnyddio – fel darparwyr gwasanaethau neu wasanaethau bancio.  
  • Archwiliadau oedran gweithredwyr rhwydweithiau symudol – rydych chi’n rhoi eich caniatâd i’r wefan neu’r ap gysylltu â’ch darparwr symudol i wneud yn siŵr ei fod wedi cadarnhau eich bod dros 18 oed. 
  • Cyfateb ID â llun – rydych chi’n llwytho delwedd i fyny o ddogfen ID â llun, a llun ohonoch chi eich hun ar yr un pryd – mae’r rhain yn cael eu cymharu i gadarnhau a yw’r ID yn perthyn i chi. 

Sut ydw i’n gwybod y bydd fy mhreifatrwydd a fy nata yn ddiogel? 

Gellir cynnal archwiliadau oedran grymus yn effeithiol, yn ddiogel, ac mewn ffordd sy’n diogelu eich preifatrwydd. Yn yr un modd â phopeth rydych chi’n ei wneud ar-lein, dylech fod yn ofalus a defnyddio eich crebwyll wrth roi gwybodaeth bersonol.   

Mae diogelu data yn y DU yn cael ei reoleiddio a’i orfodi gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Wrth gynnal archwiliadau oedran, rhaid i wasanaethau gasglu’r isafswm o ddata personol sydd ei angen, rhaid iddynt beidio â chadw unrhyw ddata personol a gesglir drwy’r dull am fwy o amser nag sydd ei angen, a rhaid iddynt beidio â defnyddio’r data at unrhyw ddiben arall.

Rydyn ni'n cydweithio’n agos ag ICO ac os oes gennym bryderon nad yw darparwr wedi cydymffurfio â'r gyfraith diogelu data, gallwn gyfeirio’r mater at sylw’r ICO. 

Mae pobl yn gyfarwydd â gorfod profi eu hoedran yn y byd all-lein wrth brynu nwyddau â chyfyngiad oedran arnynt fel alcohol a thybaco. Mae archwiliadau oedran i gael mynediad at bornograffi ar-lein yr un fath. Bydd yn helpu i atal plant rhag dod ar draws pornograffi ar-lein, yn yr un ffordd ag na ddylai plentyn allu cerdded i mewn i siop a phrynu DVD neu gylchgrawn pornograffig. 

Sut byddwch chi’n gorfodi’r rheolau newydd?

Rydyn ni’n disgwyl i wefannau ac apiau ymgysylltu â ni a chydymffurfio â’u dyletswyddau o dan ein rheolau newydd. 

Os nad ydyn nhw’n gwneud hyn, gallwn roi dirwy o hyd at £18m neu 10% o’u refeniw byd-eang cymwys (p’un bynnag sydd fwyaf). Ac yn yr achosion mwyaf difrifol, gallwn ofyn i lys osod sancsiynau ar drydydd partïon, fel darparwyr rhyngrwyd, a allai arwain at rwystro neu gyfyngu ar y wefan yn y DU.

Yn ôl i'r brig