A padlock and key sitting on a laptop keyboard

Ofcom yn ymchwilio i ddau wasanaeth pornograffi o dan reolau i ddiogelu plant ar-lein

Cyhoeddwyd: 9 Mai 2025

Mae Ofcom yn agor ymchwiliadau heddiw i ddau wasanaeth pornograffig - Itai Tech Ltd a Score Internet Group LLC - o dan ein rhaglen gorfodi sicrwydd oedran

O dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rhaid i wasanaethau ar-lein sicrhau nad yw plant yn gallu cael gafael ar gynnwys pornograffig ar eu safleoedd. Ym mis Ionawr, fe wnaethom ysgrifennu at wasanaethau ar-lein sy’n dangos neu’n cyhoeddi eu cynnwys pornograffig eu hunain i egluro bod y gofynion iddynt gael gwiriadau oedran effeithiol iawn ar waith i ddiogelu plant wedi dod i rym. Fe wnaethom ofyn am fanylion cynlluniau gwasanaethau i gydymffurfio, ynghyd ag amserlen weithredu a phwynt cyswllt penodol.

Yn galonogol, cadarnhaodd llawer o wasanaethau eu bod yn gweithredu, neu fod ganddynt gynlluniau i weithredu, sicrwydd oedran ar oddeutu 1,300 o safleoedd. Dewisodd nifer fach o wasanaethau rwystro defnyddwyr yn y DU rhag cael mynediad i’w safleoedd, yn hytrach na rhoi gwiriadau oedran ar waith.

 Roedd rhai gwasanaethau wedi methu ymateb i’n cais ac nid ydynt wedi cymryd unrhyw gamau i roi sicrwydd oedran effeithiol iawn ar waith i ddiogelu plant rhag pornograffi.

Rydym heddiw’n agor ymchwiliadau i Itai Tech Ltd - gwasanaeth sy’n rhedeg y safle noethi Undress.cc - a Score Internet Group LLC, sy’n rhedeg y safle Scoreland.com. Mae’n ymddangos nad oes gan y naill safle na’r llall drefniadau sicrwydd oedran effeithiol iawn ac mae’n bosibl eu bod yn torri’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein a’u dyletswyddau i ddiogelu plant rhag pornograffi.

Y camau nesaf

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y ddau ymchwiliad ar ein gwefan maes o law, ynghyd â manylion unrhyw ymchwiliadau pellach a fydd yn cael eu lansio o dan y rhaglen orfodi hon

Mae gwasanaethau sy’n caniatáu cynnwys pornograffig a gynhyrchir gan ddefnyddwyr – a elwir yn wasanaethau Rhan 3 – yn dod o dan ran wahanol o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, a rhaid iddynt gyflwyno gwiriadau oedran effeithiol iawn o fis Gorffennaf ymlaen.

Yn ôl i'r brig