
Bydd plant yn y DU yn cael mwy o amddiffyniad rhag pornograffi ar-lein fis nesaf, mae Ofcom wedi cyhoeddi, wrth i ddarparwyr mawr gytuno i gyflwyno dulliau cadarn o wirio oedran defnyddwyr am y tro cyntaf.
Erbyn 25 Gorffennaf, rhaid i bob gwefan ac ap sy’n caniatáu pornograffi – boed yn safleoedd pwrpasol i oedolion neu’n wasanaethau cyfryngau cymdeithasol, chwilio am gariad neu gemau – ddefnyddio gwiriadau oedran hynod effeithiol i sicrhau nad yw plant yn gallu dod ar eu traws. Mae eisoes yn ofynnol i gwmnïau ar-lein sy'n cyhoeddi eu pornograffi eu hunain amddiffyn plant rhagddo, ac mae miloedd o wefannau eisoes wedi cyflwyno gwiriadau oedran cadarn mewn ymateb.
Mae darparwyr pornograffi mawr sy’n gweithredu yn y DU wedi cadarnhau i Ofcom y byddan nhw’n cyflwyno gwiriadau effeithiol erbyn y dyddiad cau fis nesaf er mwyn cydymffurfio â’r rheol newydd. Maent yn cynnwys PornHub, y gwasanaeth pornograffig mwyaf poblogaidd yn y DU. Mae gwasanaethau eraill sy'n hapus i gael eu henwi ar hyn o bryd yn cynnwys BoyfriendTV, Cam4, FrolicMe, inxxx, Jerkmate, LiveHDCams, MyDirtyHobby, RedTube, Streamate, Stripchat, Tube8, a YouPorn. Mae hyn yn cynrychioli ystod eang o wasanaethau pornograffi y ceir mynediad iddynt yn y DU.
Mae monitro cydymffurfiaeth â'r dyletswyddau newydd hyn yn flaenoriaeth i Ofcom. Os bydd unrhyw gwmni'n methu â chydymffurfio â'i ddyletswyddau newydd, gall Ofcom osod dirwyon ac – mewn achosion difrifol iawn – gwneud cais am orchymyn llys i atal y wefan neu'r ap rhag bod ar gael yn y DU. Fel rhan o'n gwaith yn gorfodi'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rydym eisoes wedi lansio ymchwiliadau i bedwar darparwr porn ac ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau pellach o fis Gorffennaf.