Ein hymchwil i ba mor dda mae gwasanaethau cyfathrebu yn diwallu anghenion defnyddwyr, yn enwedig y rhai a allai fod mewn amgylchiadau bregus.
Mae gwasanaethau cyfathrebu yn fwyfwy hanfodol i ddinasyddion a defnyddwyr. Mae sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad hawdd at y gwasanaethau cyfathrebu sydd eu hangen arnynt wrth wraidd yr hyn y mae Ofcom yn ei wneud.
Gall gwahanol ffactorau effeithio ar y gallu i gymryd rhan yn y marchnadoedd cyfathrebiadau a phost a gall unrhyw un wynebu amgylchiadau sy'n eu harwain at ddod yn agored i niwed - dros dro neu'n barhaol. Gallai hyn gynnwys cyflwr sy’n cyfyngu neu’n effeithio (iechyd corfforol, niwrolegol neu feddyliol), nodweddion penodol fel oedran, grŵp economaidd-gymdeithasol, sgiliau llythrennedd neu newidiadau mewn amgylchiadau personol fel profedigaeth, colli swydd neu newid yn incwm yr aelwyd.
Yma rydym yn cyflwyno ystod o'n data ar fynediad i wasanaethau a dyfeisiadau cyfathrebu, perchnogaeth a defnydd, allgáu digidol, fforddiadwyedd gwasanaethau, ymgysylltiad a niwed defnyddwyr a boddhad / ymdrin â chwynion, gan edrych ar brofiad y rhai mewn amgylchiadau a allai eu gwneud yn agored i niwed. Mae hyn yn ein helpu i ddeall pa mor dda mae'r sector cyfathrebiadau yn diwallu anghenion defnyddwyr.
Dewiswch bwnc i weld ein hymchwil gyhoeddedig.
Mynediad a chynhwysiad 2018
Mynediad a Chynhwysiad yn 2018 (Crynodeb gweithredol)(PDF, 217.0 KB)
Mae'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.