wales NC image

100,000 yn fwy o gartrefi yng Nghymru wedi cael mynediad at fand eang ffibr llawn

Cyhoeddwyd: 19 Tachwedd 2025
    • Mae gan bron i wyth o bob 10 o gartref yng Nghymru fynediad at fand eang ffibr llawn wrth i'r cyflwyniad cyflym barhau
    • Mae darpariaeth 5G yng Nghymru yn parhau i gynyddu'n raddol

    Mae band eang ffibr llawn wedi cyrraedd can mil yn fwy o gartrefi yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl Cysylltedd y Cenhedloedd, adroddiad blaenllaw Ofcom ar gyflwr rhwydweithiau sefydlog a symudol.

    Mae band eang ffibr llawn a gigabit yn parhau i ehangu

    Picture3 wales cy

    Mae'r adroddiad yn canfod, ym mis Gorffennaf 2025, fod gan 78% (1.1 miliwn) o gartrefi yng Nghymru fynediad at fand eang ffibr llawn, sef cynnydd blynyddol o 10 pwynt canran neu bron i 100,000 o eiddo preswyl, yn sgil y broses o gyflwyno band eang ffibr llawn yn gyflym.

    Mae gwahaniaethau mewn darpariaeth ffibr llawn rhwng ardaloedd gwledig a threfol o hyd, gyda chartrefi mewn ardaloedd trefol yng Nghymru yn fwy tebygol o gael mynediad at ffibr llawn (83%) na'r rhai mewn ardaloedd gwledig (59%). Ond mae'r bwlch yn cau, gydag aelwydydd yng nghefn gwlad Cymru yn gweld cynnydd o 11 pwynt canran mewn mynediad at ffibr llawn, sy'n cyfateb i 40,000 o gartrefi.  

    Mae gwahaniaethau sylweddol yn parhau rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae darpariaeth ffibr llawn gyfartalog yn y tair ardal awdurdod lleol uchaf yn Sir y Fflint, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili dros 89% o'i gymharu â'r tair ardal awdurdod lleol gyda'r ddarpariaeth isaf – Powys (58%), Ynys Môn (57%) a Cheredigion (51%).

    Er bod llawer o gartrefi dal heb fanteisio ar y ddarpariaeth ffibr llawn, mae'r defnydd yn cynyddu. Mae cyfran y rhai sydd â mynediad at fand eang ffibr llawn sy'n cofrestru wedi codi o 39% y llynedd i 49% ac mae'n uwch yng nghefn gwlad Cymru (58%) nag mewn ardaloedd trefol (47%).  

    Gan ystyried rhwydweithiau ffibr a chebl llawn gyda'i gilydd, erbyn hyn mae gan dros 80% o gartrefi Cymru fynediad at gysylltiad band eang sy'n gallu defnyddio gigabit.

    Mae mannau gwan band eang sefydlog yn dal i fodoli, ond yn lleihau'n sylweddol

    Canfu ein hadroddiad nad yw 6,000 (0.4%) o adeiladau yng Nghymru yn gallu cael mynediad at fand eang digonol o linellau sefydlog na mynediad diwifr sefydlog (FWA), sef gostyngiad o tua 25% o gymharu llynedd[3] .

    Yn ogystal, mae dros 7,500 o danysgrifwyr band eang lloeren yng Nghymru bellach yn defnyddio gwasanaethau orbit isel y Ddaear (LEO). Er mai Starlink yw'r unig weithredwr lloeren LEO sy'n cynnig band eang uniongyrchol i ddefnyddwyr yn y DU ar hyn o bryd, mae Amazon ar fin ymuno â’r farchnad, a allai helpu i yrru gwell mynediad at wasanaethau band eang yn yr ardaloedd anoddaf eu cyrraedd yn y blynyddoedd i ddod.

    Mae darpariaeth symudol yn parhau i wella yng Nghymru

    Mae gan 57% o dir Cymru ddarllediad 5G gan o leiaf un o'r pedwar Gweithredwr Rhwydwaith Symudol (MNOs) – sef cynnydd o bum pwynt canran ers y llynedd.

    Er bod cwmpas 5G yn ehangu, mae 4G yn dal i gyfrif am y mwyafrif o draffig data symudol, ac mae darpariaeth ddaearyddol 4G gan o leiaf un MNO wedi cynyddu ddau bwynt canran, i 97%.

    Mae gan dri chwarter o diriogaeth Cymru bellach wasanaeth 4G gan bob un o'r pedwar MNO - gan gynyddu dewis defnyddwyr. 

    Picture4 wales cy

    Dywedodd Cyfarwyddwr Ofcom Cymru, Phil Henfrey: "Rwy'n falch o weld bod buddsoddiad cyhoeddus a masnachol parhaus yn darparu mwy o fand eang ffibr llawn i gartrefi ledled y wlad a bod y ddarpariaeth symudol yn parhau i wella.

    "Ond mae lle i wella o hyd cyn i holl gymunedau Cymru gael mynediad at y gwasanaethau gorau posibl, sefydlog a symudol, a byddwn yn parhau i chwarae ein rhan wrth alluogi'r arloesedd a'r buddsoddiad i wneud i hynny ddigwydd." 


    Nodiadau i Olygyddion

    [1] Yn cyfeirio at hyder uchel sy'n gysylltiedig â thua 80% o debygolrwydd y bydd darpariaeth 5G ar gyfer ardaloedd y tu allan i'r eiddo lle mae o leiaf un gweithredwr rhwydwaith symudol yn darparu

    [2] Diffinnir band eang 'gweddus' ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU fel un sy'n darparu cyflymder lawrlwytho o leiaf 10 Mbit yr eiliad a chyflymder llwytho i lawr 1 Mbit yr eiliad.

    [3] Y ffigurau ar gyfer Gorffennaf 2024 oedd 8,000 o adeiladau heb fynediad at fand eang gweddus, y ffigur ar gyfer Gorffennaf 2025 yw 6,000 o adeiladau.