Diweddariad Cysylltedd y Cenhedloedd: Gwanwyn 2026

Cyhoeddwyd: 13 Mai 2026

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg ar y ddarpariaeth symudol ac argaeledd band eang sefydlog ledled y DU ym mis Ionawr 2026. Mae'n ddiweddariad dros dro i'n hadroddiad Cysylltu’r Gwledydd 2025 (CN2025), a oedd yn seiliedig ar ddata o fis Gorffennaf 2025.  

Fel mewn diweddariadau blaenorol, ar gyfer band eang sefydlog rydym yn adrodd ar argaeledd gwasanaethau band eang o rwydweithiau mynediad diwifr llinell sefydlog a sefydlog. Yn ogystal, adroddwn ar y nifer sy’n defnyddio gwasanaethau ffeibr llawn.    

Rydym hefyd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar nifer yr adeiladau sy’n methu â chael mynediad at fand eang digonol, cysylltiad sy'n darparu cyflymder lawrlwytho o leiaf 10 Mbit/s a chyflymder llwytho i fyny 1 Mbit/s.[1] Ers i ni gyhoeddi CN2025, mae Starlink wedi cyflwyno cynlluniau rhatach mewn rhannau dethol o'r DU, sy'n golygu y gall nifer sylweddol o adeiladau sy'n methu â chael  mynediad at wasanaeth band eang digonol o Linell sefydlog neu rwydwaith mynediad diwifr sefydlog bellach gael mynediad at fand eang digonol fforddiadwy trwy wasanaethau band eang lloeren Orbit Dear Isel Starlink.

Adroddwn ar wasanaeth symudol gan ddefnyddio rhagfynegiadau cryfder signal a ddarperir gan y pedwar gweithredwr rhwydwaith symudol (MNOs), gan gymhwyso'r un fethodoleg ac mewn adroddiadau Cysylltu’r Gwledydd blaenorol.[2] Mae'r rhagfynegiadau hyn yn ein helpu i ddeall i ba raddau y mae gwasanaethau symudol ar gael ledled y DU, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol. Rydym hefyd yn adrodd ar wasanaethau annibynnol 5G, a adroddwyd am y tro cyntaf yn CN2025, wrth i'r cyflwyniad o’r ddarpariaeth barhau yn y DU.

Ochr yn ochr â'r diweddariad hwn, rydym hefyd wedi cyhoeddi ein hadroddiad diweddaraf sy’n edrych ymlaen ar gynlluniau i ddefnydd rhwydweithiau capasiti uchel iawn.

Canfyddiadau allweddol

  • Mae ffeibr llawn ar gael i 24.9 miliwn o eiddo preswyl yn y DU (82% o 30.5 miliwn o gartrefi’r DU. Mae hyn yn cyfateb i 1.2 miliwn o gartrefi ychwanegol sydd â mynediad at ffeibr llawn yn y chwe mis hyd at Ionawr 2026.[3]

  • Yn yr un cyfnod o chwe mis, cynyddodd y nifer a ddefnyddiwyd cysylltiadau band eang ffeibr llawn ym mhob adeilad yn y DU, h.y. preswyl a masnachol, 1.8 miliwn, gan gyrraedd 12.4 miliwn. Mae hyn yn cyfateb i 47% o'r holl adeiladau sydd â mynediad at ffeibr llawn. 

  • Mae argaeledd band eang sy'n gallu defnyddio gigabeit wedi cynyddu i 89% (27.1 miliwn o gartrefi), i fyny o 87% (26.4 miliwn) ym mis Gorffennaf 2025.  

  • Mae nifer yr adeiladau heb fynediad at fand eang digonol fforddiadwy wedi gostwng i ddim ond 4,000, mae hyn yn bennaf oherwydd argaeledd gwasanaethau lloeren am bris is.[4] Mae nifer yr adeiladau sy’n methu â chael mynediad at fand eang digonol o linell sefydlog neu rwydwaith mynediad diwifr sefydlog wedi gostwng i 39,000, i lawr o 44,000 ym mis Gorffennaf 2025.  

  • Mae darpariaeth 4G dymunol yn parhau’n sefydlog, gyda chynnydd o dri phwynt canran yn y DU a ragwelir y bydd gan yr MNO ddarpariaeth ddaearyddol 4G dda, gan gyrraedd 84%, o'i gymharu â Gorffennaf 2025. Gwelwyd cynnydd nodedig ar gyfer rhwydweithiau Vodafone a Three, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae darpariaeth ddaearyddol 4G a ragwelir ar draws tir y DU gan o leiaf un MNO yn parhau ar 96%. Mae pob MNO yn cynnal darpariaeth o o leiaf 99% y tu allan i adeiladau'r DU. 

  • Mae darpariaeth 5G annibynnol (5G SA) yn parhau i ehangu ledled y DU. Mae'r ddarpariaeth y tu allan i'r adeiladau bellach yn amrywio rhwng 49% ac 85% ar draws y tri MNO sydd wedi defnyddio 5G SA. [5] Mae hyn yn cymharu ag ystod o rhwng 47% a 65% ym mis Gorffennaf 2025. Cyflwynir y math newydd hwn o 5G ochr yn ochr â gwasanaethau 5G annibynnol (5G NSA) presennol.

  • Mae darpariaeth 5G cyffredinol, sy'n cynnwys 5G SA a 5G NSA, hefyd yn parhau i ehangu. Yn y chwe mis hyd at fis Ionawr 2026, mae darpariaeth 5G y tu allan i adeiladau wedi cynyddu o leiaf bum pwynt canran ar gyfer pob MNO, gyda darpariaeth MNO unigol bellach yn amrywio rhwng 76% a 94%. Mae darpariaeth y tu allan i safleoedd gan bob MNO wedi cynyddu o 47% i 64%.

Fel gyda diweddariadau blaenorol, rydym wedi cyhoeddi: 

  • adroddiad rhyngweithiol sy'n cynnwys y data diweddaraf a hanesyddol; a
  • tablau cryno ar gyfer darpariaeth symudol (4G, 5G a 5G SA, llais a thestun), argaeledd band eang sefydlog a'r defnydd ffeibr llawn. 

Rydym hefyd wedi defnyddio'r data a gasglwyd ar gyfer yr adroddiad hwn i ddiweddaru ein gwirwyr darpariaeth band eang a symudol.

Troednodiadau

1. Mae'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol band eang (USO) yn rhoi'r hawl i ofyn am gysylltiad band eang gyda chyflymder lawrlwytho o leiaf 10 Mbit/s a chyflymder uwchlwytho o 1 Mbit/s (yn ogystal â sawl nodwedd dechnegol benodol arall) i gartref neu fusnes, yn amodol ar ofynion cymhwysedd a fforddiadwyedd: gweler yma.

2. Cyflwynodd Vodafone a Three setiau data ar wahân ar gyfer rhagfynegiadau darpariaeth, a byddwn yn parhau i adrodd ar eu rhwydweithiau ar wahân nes eu bod wedi'u hintegreiddio'n llawn.

3. Yn unol â chyhoeddiadau blaenorol Cysylltu'r Cenhedloedd,, mae ein hadroddiadau ar ddarpariaeth ffeibr llawn a gigabit-alluog yn canolbwyntio ar eiddo preswyl. Adroddir ar y nifer sy’n defnyddio ffeibr llawn ac eiddo heb fynediad at fand eang digonol ar gyfer pob adeilad, h.y. preswyl a masnachol gyda'i gilydd. Darperir data cwmpas ar gyfer pob adeilad yn ein hadroddiad rhyngweithiol a ffeiliau data y gellir eu lawrlwytho.

4. Mae'r pecynnau band eang am bris is Starlink, sydd ar gael mewn rhannau dethol o'r DU, yn cael eu marchnata fel cynhyrchion preswyl. Mae tua 7,000 o adeiladau ychwanegol wedi'u dosbarthu fel masnachol yn ein data a allai fod yn gymwys ar gyfer yr USO os na allant gael mynediad at fand eang digonol am lai na £59.60 y mis. Fodd bynnag, efallai y bydd gan rai o'r adeiladau masnachol hyn gysylltedd eisoes, er enghraifft trwy linellau ar brydles. Nid ydym wedi cynnwys y safleoedd hyn yn ein hamcangyfrif fel rhai sy'n gymwys ar gyfer USO. 

5. Ar gyfer darpariaeth symudol 5G, rydym yn darparu ffigurau ar lefel Hyder Uchel a Hyder Uchel Iawn, sy'n adlewyrchu'r tebygolrwydd o ddarpariaeth ar lawr gwlad i ddefnyddwyr. Cyfeiriwch at dudalen 12 o atodiad Methodoleg CN2025 am ddiffiniad o'r lefelau hyn. Mae pob ffigur darpariaeth 5G a 5G SA a adroddir yn y canfyddiadau allweddol ar y lefel Hyder Uchel.

Lawrlwytho'r data

Rydym wedi darparu rhywfaint o'r data y mae'r adroddiad Cysylltu'r Gwledydd yn seiliedig arno i'w lawrlwytho. 

Gweler ein telerau defnyddio ar gyfer ein hamodau trwydded. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar y data rydym wedi'i ddarparu, gyrrwch e-bost i cndatateam@ofcom.org.uk.

Data (Saesneg yn unig) Am y data
Fixed broadband coverage 
Full fibre take-up for local and unitary authorities
Fixed_broadband_coverage_and_full_fibre_take-up (ZIP, 32.3 MB) About this data - fixed broadband coverage and full fibre take-up (PDF, 246 KB)
Mobile coverage Mobile_coverage_r1 (ZIP, 254 KB) About this data - mobile (PDF, 220 KB) coverage

 

Adroddiad rhyngweithiol

Am y profiad gorau, ehangwch i'r sgrîn lawn (cliciwch y botwm yn y gornel isaf ar y dde).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth ar y data rydym wedi'i ddarparu, cysylltwch â ni yncndatateam@ofcom.org.uk.