Cefndir ein hadroddiad ar Ddefnyddio Rhwydwaith Cynlluniedig (PND)
Mae ein hadroddiad blaengar diweddaraf ar ddefnyddio rhwydwaith cynlluniedig yn archwilio'r cynnydd mewn darpariaeth rhwydwaith ffeibr llawn a gigabit-alluog a ragwelir erbyn diwedd 2028. Mae hefyd yn cwmpasu cynlluniau gweithredwyr rhwydweithiau mynediad diwifr sefydlog i ymestyn neu uwchraddio eu rhwydweithiau er mwyn darparu gwasanaethau band eang cyflym iawn.
Mae'r adroddiad yn seiliedig ar gynlluniau defnyddio datganedig gweithredwyr rhwydwaith o fis Ionawr 2026 dros y tair blynedd nesaf. Mae'r cynlluniau'n cynnwys y rhai sy'n cael eu hariannu'n breifat yn ogystal ag unrhyw gynlluniau sy'n cael eu cefnogi trwy gronfeydd cyhoeddus neu ymyrraeth. Fodd bynnag, dim ond ar ddefnyddio cynlluniedig gweithredwyr rhwydwaith y mae’r adroddiad yn canolbwyntio ac nid yw'n ystyried ar wahân unrhyw ddyheadau neu gynlluniau gan awdurdodau cyhoeddus, boed yn genedlaethol neu'n lleol, i gyflwyno rhwydweithiau yn eu hardaloedd daearyddol.
Mae adroddiad PND Ofcom wedi’i baratoi a'i gyhoeddi i ategu ein hadroddiadau seilwaith (a elwir yn ein hadroddiadau Cysylltu’r Gwledydd). Nodir sail a phwrpas yr adroddiad hwn isod ac maent yn darparu cyd-destun pwysig i'r wybodaeth a gyhoeddwn.
Pwrpas yr adroddiad blaengar hwn
Un o'r materion rhwydweithiau cyfathrebu electronig y mae'n ofynnol i Ofcom fynd i'r afael â nhw yn ein hadroddiadau seilwaith a baratowyd o dan adran 134A o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 ('Deddf 2003') yw cynigion adeiladu yn y dyfodol gan weithredwyr rhwydwaith.
Yn benodol, mae hyn yn golygu bod angen i Ofcom adrodd ar y cynigion y gall gweithredwyr rhwydweithiau cyfathrebu electronig yn y DU eu cael ar unrhyw adeg o fewn y 3 blynedd nesaf i roi rhwydwaith capasiti uchel iawn (VHCN) newydd ar waith [1] ac eithrio rhwydwaith symudol, neu i ymestyn neu uwchraddio unrhyw ran o rwydwaith llinell sefydlog neu ei gyfwerth, fel rhwydwaith mynediad diwifr sefydlog, er mwyn darparu cyflymder lawrlwytho o leiaf 100 megabit yr eiliad (Mbit/s) [2].
Mae'r cynlluniau hyn yn fasnachol sensitif, gan gyfyngu ar faint o wybodaeth a gyhoeddwn
Oherwydd eu natur, mae'r cynigion adeiladu yn y dyfodol hwn yn gyfrinachol ac yn hynod sensitif yn fasnachol. Yn gyson â'n hadroddiadau blaenorol, dim ond ein canfyddiadau ar lefel y DU y mae ein hadroddiad cyhoeddedig yn eu cynnwys, ynghyd â gwybodaeth gyfanredol a dienw ar ddefnydd a gynlluniwyd ar gyfer pob un o genhedloedd ac awdurdodau lleol y DU.
Fodd bynnag, yn unol ag adran 134AC(1) o Ddeddf 2003, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ystyried ein hadroddiadau seilwaith ar dri phwrpas, sef dyrannu arian cyhoeddus ar gyfer rhoi rhwydweithiau cyfathrebu electronig ar waith; dylunio cynlluniau band eang cenedlaethol; a gwirio argaeledd gwasanaethau y mae amodau gwasanaeth cyffredinol yn berthnasol iddynt.
Am y rheswm hwn, rydym hefyd wedi anfon data ychwanegol at yr Ysgrifennydd Gwladol gyda data penodol am ddarpariaeth gweithredwyr ac eiddo. Ni fydd y data hwn yn cael ei gyhoeddi.
Mae cynlluniau'n destun newid
MMae'r data a gyflwynir yn cynrychioli rhagolygon y gweithredwyr eu hunain o ddarpariaeth sy'n dibynnu ar yr adeiladau sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Gall cynlluniau defnyddio gweithredwyr, ni waeth pa mor bell y maent wedi datblygu ac wedi ymrwymo, fod yn destun newid [3]. Ni ellir ystyried y ffigurau a nodir yn yr adroddiad hwn yn gynhwysfawr nac yn derfynol.
Gellir dod o hyd i'n hadroddiadau yn y dolenni isod
Troednodiadau
1. Mae adran 4(12A) Deddf 2003 yn diffinio ystyr VHCN fel rhwydwaith cyfathrebiadau electronig sydd: (a) yn cynnwys elfennau ffeibr optegol o leiaf hyd at y pwynt dosbarthu yn y lleoliad a wasanaethir; neu (b) yn gallu darparu, o dan amodau oriau brig arferol, perfformiad rhwydwaith sydd, ym marn Ofcom, yn debyg, o ran lled band i lawr ac i fyny, cydnerthedd, paramedrau sy'n gysylltiedig â gwallau ac oedi a'u hamrywiad, i berfformiad rhwydwaith sy'n dod o dan baragraff (a). Mae adran 4(12B) Deddf 2003 yn egluro y gellir ystyried perfformiad rhwydwaith yn debyg waeth beth fo'r amrywiad o ran profiad y defnyddiwr terfynol o ganlyniad i nodweddion cynhenid wahanol y cyfrwng a ddefnyddir i gysylltu'r rhwydwaith â phwynt terfynu'r rhwydwaith yn y pen draw.
2. Adran 134B(1)(j) o Ddeddf 2003.
3. Nid ydym ychwaith yn bwriadu diweddaru ein teclyn gwirio darpariaeth band eang i gynnwys gwybodaeth adeiladu ar gyfer y dyfodol. Nid yn unig y byddai'r wybodaeth hon yn gyfrinachol ac yn hynod sensitif yn fasnachol am yr un rhesymau, gallai hefyd roi disgwyliad afresymol i ddefnyddwyr unigol. Rydym yn rhagweld y bydd safleoedd unigol yn debygol o gael eu hysbysu gan ddarparwyr band eang pan fydd VHCN ar gael, neu y disgwylir iddynt fod ar gael, mewn lleoliad penodol fel rhan o fentrau gwerthu a marchnata. Os felly, a phan fydd darparwyr manwerthu wedi ein hysbysu bod yr eiddo'n o fewn cylch y ddarpariaeth neu'n "Barod am Wasanaeth", rydym yn bwriadu diweddaru ein teclyn gwirio darpariaeth band eang gyda'r wybodaeth berthnasol.