Cyhoeddwyd:
19 Tachwedd 2025
Mae'r adroddiadau hyn yn archwilio argaeledd gwasanaethau band eang a symudol ym mhob un o wledydd y DU.
Band Eang
- Mae rhwydweithiau ffibr llawn ar gael i 79% o safleoedd preswyl yn Lloegr. Mae hyn yn gynnydd o 10 pwynt canran ers mis Gorffennaf 2024. Mae darpariaeth gigabit bellach yn ymestyn i 88% neu 21.1 miliwn o safleoedd yn Lloegr.
- Mae nifer y bobl sy’n manteisio ar wasanaethau ar rwydweithiau sefydlog wedi cynyddu ledled Lloegr. Lle mae ffibr llawn ar gael, mae 41% o'r safleoedd wedi manteisio ar wasanaethau ar y rhwydweithiau hyn, sy'n gynnydd o 8 pwynt canran o'r defnydd ar gyfer pob adeilad ers y llynedd.
- Mae cysylltiadau band eang lloeren yn Lloegr wedi cynyddu. Mae nifer y cysylltiadau cwsmeriaid yn Lloegr wedi cynyddu o tua 70,000 i 90,000 ers y llynedd.
- Mae nifer y safleoedd- preswyl a masnachol - yn Lloegr heb fynediad at fand eang digonol wedi lleihau. Dim ond 26,000 (0.1%) o safleoedd yn Lloegr sy'n methu cael mynediad at fand eang digonol o linellau tir sefydlog neu Fynediad Di-wifr Sefydlog (FWA), sef gostyngiad o 7,000 o safleoedd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Symudol
- Rydym yn adrodd ar ddarpariaeth symudol 5G annibynnol (5G SA) am y tro cyntaf. Yn Lloegr, mae darpariaeth 5G SA y tu allan i safleoedd gan o leiaf un gweithredwr rhwydwaith symudol (MNO) yn 85% ar y lefel Hyder Uchel a 75% ar y lefel Hyder Uchel iawn.
- Mae darpariaeth 5G cyffredinol wedi cynyddu yn Lloegr gan fod 81% o dir Lloegr yn cael darpariaeth gan o leiaf un MNO ar y lefel Hyder Uchel, i fyny o 76% yn 2024.
- Mae Lloegr yn cynnal y lefelau uchaf o ddarpariaeth 4G ddaearyddol, gyda'r pedwar MNO yn darparu 4G i 90% o dir Lloegr.
Band Eang
- Mae tua 780,000 o gartrefi yng Ngogledd Iwerddon bellach yn gallu cael mynediad at fand eang ffibr llawn. Ymhlith pedair gwlad y DU, Gogledd Iwerddon (95%) sydd â'r argaeledd uchaf o rwydweithiau ffibr llawn. Mae sefyllfa ffibr llawn Gogledd Iwerddon yn deillio o broses sylweddol o gyflwyno’r ddarpariaeth fasnachol yn gynnar ynghyd â chynlluniau a ariennir yn gyhoeddus oedd â’r nod o wella band eang mewn ardaloedd gwledig.
- Mae band eang cyflym iawn o linellau sefydlog ar gael i 99% o safleoedd preswyl yng Ngogledd Iwerddon, sef cynnydd o un pwynt canran ers 2024. Mewn ardaloedd trefol, mae'r ffigur hwn yn codi i 99%+.
- Lle mae ffibr llawn ar gael, mae 62% o'r safleoedd wedi'u cysylltu, o gymharu â 53% y llynedd.
- Bu gostyngiad yn nifer y safleoedd nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang digonol. Nid yw tua 1,800 o safleoedd yn gallu cael mynediad at gysylltiadau gyda chyflymder lawrlwytho dros 10 Mbit yr eiliad, o gymharu ag ychydig dros 2,000 y llynedd.
- Mae'r defnydd cyfartalog o ddata band eang misol yng Ngogledd Iwerddon bellach yn 551 GB y mis. Mae hyn yn codi i 597 GB y mis dros gysylltiadau ffibr llawn.
Symudol
- Bu cynnydd pellach mewn argaeledd 5G. Mae gweithredwyr rhwydwaith symudol (MNOs) yn parhau i gynyddu ôl troed y gwasanaethau hyn, ac mae darpariaeth y tu allan i safleoedd gan o leiaf un MNO bellach yn 97% ar y lefel Hyder Uchel a 93% ar Hyder Uchel Iawn, i fyny o 92% ac 86% yn y drefn honno yn 2024.
- Rydym yn adrodd ar 5G annibynnol (5G SA) am y tro cyntaf eleni, a chanfuom fod darpariaeth y tu allan i safleoedd gan o leiaf un gweithredwr yn 92% ar y lefel Hyder Uchel ac 83% ar y lefel Hyder Uchel iawn yng Ngogledd Iwerddon.
- Mae darpariaeth 4G yn parhau i fod yn asgwrn cefn y profiad symudol i ddefnyddwyr. Mae MNOs unigol yn darparu 4G da ledled Gogledd Iwerddon, gyda darpariaeth symudol ddaearyddol yn amrywio o 94-96%, gan ddibynnu ar y gweithredwr. Mae darpariaeth y tu allan i safleoedd gan bob un o'r pedwar MNO ar gael ar draws 97% o Ogledd Iwerddon.
Band Eang
- Mae gan 71% o safleoedd preswyl fynediad at rwydweithiau ffibr llawn yn yr Alban. Mae hwn yn gynnydd o naw pwynt canran (250,000 o adeiladau ychwanegol) o gymharu â Gorffennaf 2024.
- Mae'r nifer sy’n manteisio ar wasanaethau ar rwydweithiau ffibr llawn yn parhau i gynyddu, eleni a hynny wyth pwynt canran eleni, o 35% ym mis Gorffennaf 2024 i 43% ym mis Gorffennaf 2025.
- Mae’r nifer sy’n manteisio ar fand eang lloeren wedi parhau i gynyddu yn yr Alban. Mae cysylltiadau Starlink yn yr Alban wedi cynyddu o 11,000 i dros 15,000. Mae'r dechnoleg yn cynnig y potensial i ddod â chysylltedd i ardaloedd lle mae adeiladu cysylltiadau sefydlog neu symudol yn draddodiadol heriol.
- Mae nifer y safleoedd nad ydynt yn gallu cael mynediad at fand eang digonol yn parhau i ostwng. Dim ond 0.4% (10,000) o safleoedd yn yr Alban sy’n methu â chael mynediad at fand eang digonol o linellau sefydlog neu fynediad diwifr sefydlog (FWA). Mae hyn yn ostyngiad o tua 5,000 o safleoedd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Symudol
- Mae darpariaeth a defnydd o 5G annibynnol (SA) yn nodedig. Yn yr Alban, mae darpariaeth 5G SA y tu allan i safleoedd gan o leiaf un MNO yn 77% ar ein lefel Hyder Uchel.
- Mae darpariaeth 5G cyffredinol wedi gweld twf cymedrol ond parhaus. Mae'r ystod o ddarpariaeth 5G y tu allan i safleoedd ar Hyder Uchel ar draws y pedwar MNO wedi gwella o 54-76% y llynedd i 59-84% eleni.
- Mae darpariaeth 4G yr Alban wedi codi un i ddau bwynt canran ers y llynedd, ond mae gan y rhanbarth y lefelau isaf o ddarpariaeth ddaearyddol ledled y DU.
Band Eang
- Mae 78% o safleoedd preswyl yng Nghymru bellach â mynediad at rwydwaith ffibr llawn, sef cynnydd o 10 pwynt canran ers y llynedd, sy’n golygu bod 100,000 o safleoedd ychwanegol wedi cael mynediad at ffibr llawn o gymharu â Gorffennaf 2024.
- Mae'r nifer o ddefnyddwyr sydd bellach yn gwneud defnydd o ffibr llawn wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf. Cododd cyfraddau’r rhai sy’n manteisio ar ffibr llawn o 39% ym mis Gorffennaf 2024 i 49% ym mis Gorffennaf 2025. Mae dros hanner miliwn o safleoedd yn gwneud defnydd o gysylltiadau ffibr llawn yng Nghymru.
- Mae nifer y safleoedd sy’n methu â chael mynediad at fand eang da o rwydweithiau diwifr llinell sefydlog neu sefydlog wedi gostwng i oddeutu 6,000 yng Nghymru, sef gostyngiad o 2,000 ers y llynedd.
- Mae argaeledd ffibr llawn yn amrywio'n fawr ar draws etholaethau yng Nghymru, a gellir dod o hyd i ddata ffibr llawn ardal benodol yn ein hadroddiad rhyngweithiol.
- Mae mwy o gartrefi yng Nghymru yn defnyddio cysylltedd lloeren. Mae nifer y tanysgrifwyr Starlink yng Nghymru wedi cynyddu i dros 7,500 yn 2025 o oddeutu 5,000 y llynedd.
Symudol
- Mae 5G annibynnol, yr ydym yn adrodd arno am y tro cyntaf eleni, ar gyfer darpariaeth gan o leiaf un MNO bellach yn cyrraedd 59% ar y lefel Hyder Uchel a 56% ar y lefel Hyder Uchel iawn y tu allan i safleoedd.
- Mae darpariaeth 5G cyffredinol wedi gweld twf cymedrol yng Nghymru. Mae gan 57% o ddaearyddiaeth Cymru ddarpariaeth gan o leiaf un MNO ar lefel Hyder Uchel.
- Mae darpariaeth ddaearyddol 4G yng Nghymru wedi cynyddu, gyda 76% o'r rhanbarth âdarpariaeth gan bob MNO. Mae gan 99% o safleoedd dan do ddarpariaeth gan o leiaf un MNO ac mae gan 82% ddarpariaeth gan bob un o'r pedwar MNO.