Mae’r pedwar gweithredwyr rhwydweithiau symudol yn y DU wedi cadarnhau wrth Lywodraeth y DU nad ydynt yn bwriadu cynnig rhwydweithiau gwasanaethau 2G a 3G y tu hwnt i 2033 fan bellaf. Mae’n bosibl y bydd rhai gweithredwyr rhwydweithiau symudol yn penderfynu diffodd gwasanaethau cyn y dyddiad hwnnw.
Bydd angen uwchraddio pob dyfais 2G a 3G i 4G o leiaf, neu ddarparu atebion amgen.
Rhan o’n rôl yn monitro’r broses o ddiffodd rhwydweithiau 2G/3G yw sicrhau nad yw hyn yn tarfu gormod ar gwsmeriaid, yn enwedig cwsmeriaid agored i niwed. I wneud hyn, rydym yn cyhoeddi data darpariaeth 2G perthnasol i helpu sectorau sydd â diddordeb – yn enwedig y sector teleofal, a allai ddefnyddio SIMs trawsrwydweithio rhyngwladol – i nodi lle gallai gwasanaeth dan do gael ei golli yn dilyn newidiadau i rwydweithiau 2G. Gallai hyn helpu i nodi ardaloedd lle gall darparwyr gwasanaeth flaenoriaethu uwchraddio dyfeisiau cyn y newidiadau i rwydweithiau 2G. Gall darparwyr ystyried ei ddefnyddio i gefnogi gwaith y mae angen iddynt ei wneud.
Fodd bynnag, dylid ystyried y data hwn fel data dangosol yn unig, ac ni ddylid dibynnu arno at ddibenion nodi union leoliadau.
Dim ond i ddyfeisiau 2G yn unig y mae’r data’n berthnasol – sef dyfeisiau sy’n methu cysylltu â 4G/5G – ac nid yw’n gysylltiedig â darpariaeth symudol 4G/5G.
Newidiadau arfaethedig i Rwydwaith 2G Virgin Media O2 (O2)
Mae O2 wedi cyhoeddi y bydd yn rhwystro mynediad i’w rwydweithiau 2G a 3G i wasanaethau trawsrwydweithio i mewn o 1 Hydref 2025 ymlaen. Gallai’r newidiadau hyn effeithio ar sectorau fel y sector teleofal, a allai ddefnyddio SIMs trawsrwydweithio rhyngwladol ar gyfer eu gweithrediadau.
Rydym felly’n cyhoeddi, gyda’r cafeat a nodir uchod, restr o godau post sy’n cynnwys adeiladau y rhagwelir y byddant yn dod yn ‘fannau di-gyswllt o ran gwasanaethau trawsrwydweithio 2G i mewn’ h.y. codau post lle rhagwelir na fydd gan SIMs trawsrwydweithio rhyngwladol ddarpariaeth 2G dan do unwaith y bydd O2 yn rhwystro gwasanaethau trawsrwydweithio i mewn ar ei rwydwaith 2G, gan mai O2 yw’r unig weithredwr rhwydweithiau symudol sy’n darparu 2G yn y lleoliadau hyn. Mae’r rhestr yn cael ei chreu gan ddefnyddio’r trothwy darpariaeth dan do a ddefnyddir yn ein cyhoeddiad Cysylltu’r Gwledydd. Fel rhan o’n hadroddiad 2024, mae manylion y trothwyon ar gael yn adran Darpariaeth Symudol yn yr Atodiad Methodoleg.
Cyhoeddwyd 17 Ebrill 2025. Data o fis Medi 2024.
Gall signalau symudol dan do amrywio'n fawr mewn unrhyw eiddo penodol a rhwng gwahanol adeiladau, ac nid yw’n hawdd rhagweld darpariaeth dan do mewn modd dibynadwy. O ystyried y risgiau penodol sy’n gysylltiedig â theleofal, rydym hefyd yn cyhoeddi, gyda’r cafeat a nodir uchod, restr o godau post ychwanegol lle rhagwelir y bydd SIMs trawsrwydweithio rhyngwladol yn colli darpariaeth 2G dan do unwaith y bydd O2 yn cyfyngu ar ei rwydwaith 2G, gan ddefnyddio dull mwy ceidwadol o ragweld darpariaeth dan do na’r un a ddefnyddiwn ar gyfer ein cyhoeddiad Cysylltu’r Gwledydd.
Cyhoeddwyd 17 Ebrill 2025. Data o fis Medi 2024.
Er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth, rydym hefyd wedi cyhoeddi rhywfaint o gyngor i’r Rhyngrwyd Pethau a chyflenwyr dyfeisiau trydydd parti yng nghyswllt diffodd rhwydweithiau 3G a 2G.
Nodiadau technegol
- Mae’r rhestrau cyhoeddedig o godau post yn seiliedig ar ragfynegiadau gweithredwyr rhwydweithiau symudol o’u darpariaeth 2G yn yr awyr agored, ac rydym wedi defnyddio amrywiaeth o dybiaethau ychwanegol ar golli signalau i helpu i ragweld cryfder tebygol signal 2G dan do.
- Mae’r data’n cynnwys codau post lle’r ydym yn tybio y bydd hyn yn effeithio ar o leiaf un adeilad.
- Nid yw rhai codau post sydd wedi’u rhestru yn y data yn cynnwys ‘adeiladau’, fel y’u diffinnir gan Ofcom yn Cysylltu’r Gwledydd, ond maen nhw wedi’u cynnwys er mwyn bod yn gyflawn.
- Nid yw’r data cyhoeddedig yn derfynol at ddibenion nodi adeiladau a gallai hyn effeithio arnynt. Peidiwch â dibynnu ar y data hwn yn unig. Yn hytrach, dylid defnyddio’r data hwn gyda dangosyddion posib eraill o golli signal symudol 2G dibynadwy, i nodi cwsmeriaid y gallai hyn effeithio arnynt a bod angen cymorth arnynt i sicrhau parhad gwasanaeth.
Pethau eraill i’w nodi
- Dim ond i adnabod defnyddwyr presennol dyfeisiau 2G y dylid defnyddio’r data hwn. Nid yw’n addas at ddibenion cynllunio yn y dyfodol nac at ddibenion eraill.
- Mae’r data’n arbennig o ddefnyddiol i gwmnïau sy’n defnyddio SIMs trawsrwydweithio rhyngwladol 2G i ddarparu cysylltedd i’w cwsmeriaid eu hunain. Mae’n ategu’r gwaith mae gweithredwyr rhwydweithiau symudol y DU yn ei wneud ar hyn o bryd i ganfod defnyddwyr trydydd parti eu rhwydweithiau 2G a 3G.