Anxious woman on phone

Byddwch yn ofalus o alwadau sgam sy'n honni eu bod gan Ofcom

Cyhoeddwyd: 25 Medi 2025

Rydym yn ymwybodol am alwadau sgam sydd wedi bod yn digwydd dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, lle mae sgamwyr sy'n honni eu bod o Ofcom wedi cael gwybodaeth bersonol gan aelodau'r cyhoedd.

Rydym yn annog pobl i fod yn ymwybodol o'r galwadau hyn, ac rydym am eich sicrhau na fydd Ofcom yn eich ffonio i ofyn am eich gwybodaeth bersonol nac ariannol.

Beth sy'n digwydd ar y galwadau hyn

Mae'r galwadau yn cynnwys sgamwyr yn ffonio dioddefwyr ac yn dweud wrthynt fod gwasanaethau wedi’u cymryd allan yn dwyllodrus yn eu henw. Yna mae'r sgamwyr yn gofyn am wybodaeth bersonol - gan gynnwys manylion ariannol - ac yna'n honni y byddant yn trosglwyddo'r dioddefwr i'r heddlu.

Hyd yn hyn, mae'r sgamwyr wedi llwyddo i ffugio rhifau ffôn sy’n ymddangos fel pe bai’r galwadau yn dod yn gyfreithlon gan Ofcom. Mae'r rhain yn cynnwys 020 7981 3040, 020 7981 3000 a 0300 123 3333.

Fodd bynnag, er y gallai'r galwadau hyn edrych yn gyfreithlon, nid oes unrhyw amgylchiadau lle bydd Ofcom yn eich ffonio ar hap i ofyn am eich manylion personol neu ariannol.  

Beth i'w wneud os ydych chi'n derbyn galwad fel hyn

Os ydych chi'n derbyn galwad gan rywun sy'n honni ei fod o Ofcom ac yn gofyn am y math hwn o wybodaeth, peidiwch â darparu unrhyw fanylion y maent yn gofyn amdano. Terfynwch yr alwad a rhowch wybod i

Mae'r un peth yn wir am unrhyw alwad annisgwyl, lle mae sefydliad yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol neu ariannol. Mae rhagor o wybodaeth am alwadau a negeseuon sgam ar gael ar ein gwefan, a thrwy wefan Stop Think Fraud y Llywodraeth.

Camau gweithredu rydym yn eu cymryd

Rydym eisoes wedi gweithredu nifer o fesurau i'w gwneud hi'n anodd i sgamwyr ddefnyddio rhwydweithiau telathrebu’r DU i niweidio defnyddwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr rwystro rhifau nad ydynt erioed wedi'u bwriadu i wneud galwadau allanol ac sydd wedi'u cofnodi yn y rhestr Peidio â Tharddiad;
  • ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr adnabod galwadau o dramor sy'n ffugio Rhif Rhwydwaith sefydlog y DU a'u rhwystro;
  • tynhau'r gofynion ar weithredwyr i gynnal diwydrwydd dyladwy priodol wrth is-ddyrannu rhifau i weithredwyr eraill y DU.