17 Hydref 2025
Heddiw rydym wedi lansio ymgynghoriad pellach ar rwymedïau prisio WLA.
Gallwch weld yr holl ddogfennau a dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i ymateb ar ybrif dudalen we ymgynghori.
7 Hydref 2025
Mae rhai darparwyr rhwydwaith wedi codi pryderon gydag Ofcom ynghylch cynnig arbennig diweddar Openreach ar uwchraddio rhagweithiol FTTP. Er mwyn tryloywder, rydym yn cyhoeddi'r llythyr agored hwn yn nodi ein hymateb i'r pryderon hyn.
20 Mawrth
Heddiw rydym wedi lansio ein hymgynghoriad ar Hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad mewn rhwydweithiau ffeibr: Adolygiad o Fynediad Telathrebu 2026-31. Gallwch weld yr holl ddogfennau a chyfarwyddiadau i ymateb ar brif dudalen we yr ymgynghoriad.
Dyma ein hadolygiad o’r rheoliadau a fydd yn berthnasol i farchnadoedd telathrebu cyfanwerthol y DU o fis Ebrill 2026 tan fis Mawrth 2031.
Mae'r adolygiad yn ceisio sicrhau bod seilwaith band eang y Deyrnas Unedig yn addas at y diben a bydd yn ceisio gosod yr amgylchedd cywir i hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad mewn band eang gigabit-alluog, er mwyn darparu gwell gwasanaethau a mwy o ddewis i ddefnyddwyr.
Ers diwedd ein hadolygiad diwethaf yn 2021 (WFTMR), mae Openreach a llawer o gwmnïau eraill wedi parhau i fuddsoddi mewn rhwydweithiau gigabit-alluog newydd. Yn Cysylltu'r Gwledydd 2023 fe wnaethom adrodd bod band eang gigabit ar gael i 23.2 miliwn o gartrefi (78% o’r DU), a gallai 17.1 miliwn o gartrefi (57%) gael mynediad at fand eang ffeibr llawn.
Disgwyliwn gyhoeddi ein prif ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer newidiadau i reoleiddio yn gynnar y flwyddyn nesaf, gyda’r bwriad o gyhoeddi ein penderfyniadau terfynol yn gynnar yn 2026.
Darllenwch y ddogfen adolygu sy’n nodi ein dull gweithredu a’n hamserlen ar gyfer AMT 2026 (PDF, 353.6 KB)