Mae’n ofynnol i'r Post Brenhinol, fel y darparwr gwasanaeth cyffredinol, ddarparu ystod o wasanaethau post i gartrefi a busnesau am brisiau fforddiadwy sy'n unffurf ledled y DU. Mae gwasanaethau post yn parhau i fod yn adnodd cyfathrebu hanfodol i lawer o bobl a busnesau, a gwyddom, o'n hymchwil ar anghenion defnyddwyr, fod gwasanaeth fforddiadwy yn arbennig o bwysig i bobl. Ar yr un pryd, mae nifer y llythyrau sy'n cael eu hanfon wedi haneru dros y degawd diwethaf ac mae'n parhau i ostwng, gan gynyddu costau unedau. Mae deinameg newidiol y farchnad wedi gwanhau sefyllfa ariannol y Post Brenhinol ac wedi bygwth cynaliadwyedd y gwasanaeth post cyffredinol. Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom nodi ein penderfyniad i ddiwygio'r gwasanaeth cyffredinol er mwyn rhoi gwell cyfle iddo oroesi, ond rydym yn ystyried bod risg sylweddol o hyd i’w gynaladwyedd. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn cynnal adolygiad newydd o'n dull ar gyfer prisio a fforddiadwyedd.
Ym mis Ionawr 2024, fe wnaethom gwblhau ein hadolygiad blaenorol o fforddiadwyedd. Fe wnaethom benderfynu parhau â'n dull o osod cap diogelu ar lythyrau Ail Ddosbarth i sicrhau bod pobl a mynediad at wasanaeth fforddiadwy, gan roi hyblygrwydd prisio i'r Post Brenhinol ar gyfer ei wasanaethau cyffredinol eraill. Fe wnaethom osod y cap ar y pris cyfredol ar y pryd, gan ei gynyddu yn unol â chwyddiant (Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI)). Penderfynom roi'r mesur hwn ar waith am dair blynedd yn hytrach na phum mlynedd oherwydd tystiolaeth y gallai cap ar y lefel hon o fis Ebrill 2027 ymlaen gael mwy o effaith ar gynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth cyffredinol.
Fe wnaethom hefyd nodi nad cap diogelu oedd yr unig ffordd o fynd i'r afael â'r risg fforddiadwyedd, a dywedom y byddem yn ymgysylltu â'r Post Brenhinol i ystyried dulliau eraill o sicrhau fforddiadwyedd, er enghraifft cynllun disgownt wedi'i dargedu ar gyfer cwsmeriaid agored i niwed. Rydym wedi gwneud ymchwilio’n ymhellach i gynlluniau o'r fath i weld ai dyma'r ateb, neu ran o'r ateb, i fynd i'r afael â risgiau fforddiadwyedd yn y dyfodol. Yn y Cais am Fewnbwn hwn, rydym yn nodi ein syniadau cynnar ar hyn, gan gynnwys yr elfennau allweddol sydd eu hangen ar gyfer cynllun effeithiol.
Rydym hefyd yn nodi materion eraill sy'n ymwneud â fforddiadwyedd a phrisio, ac ymatebion rheoleiddiol posibl, gan geisio mewnbwn rhanddeiliaid ar y rhain.
Ymateb i'n galwad am fewnbwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad erbyn 5pm ar 5 Rhagfyr 2025.
Prif ddogfennau
Cysylltwch
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA