Weithiau bydd Ofcom yn cael cais i brynu neu werthu sbectrwm. Mae cofrestr o drafodion prynu a gwerthu yn cael ei chyhoeddi o dan y Porth Gwybodaeth am Sbectrwm yn System Gwybodaeth am Sbectrwm Ofcom.
Ar gyfer sbectrwm sy’n dod o dan Reoliadau Telegraffiaeth Ddi-wifr (Masnachu Sbectrwm) 2012, gellir aildrwyddedu sbectrwm sy’n gymwys i’w fasnachu i drwyddedai arall, yn amodol ar fodloni meini prawf sylfaenol penodol fel bod yn rhydd rhag unrhyw ffi, hysbysiad dirymu neu atebolrwydd heb ei ddatrys. Ar gyfer dosbarthiadau trwydded cymwys (gweler y Nodiadau Cyfarwyddyd), gall trwyddedai wneud cais i amrywio trwydded i ganiatáu i sbectrwm gael ei brydlesu i bartïon eraill.
Masnachu sbectrwm symudol
Ar gyfer sbectrwm sy’n dod o dan Reoliadau Telegraffiaeth Ddi-wifr (Masnachu Sbectrwm Symudol) 2011, mae’n rhaid i ni ystyried a allai materion cystadleuaeth fod yn berthnasol ac a ddylid rhoi ein caniatâd cyn y gellir masnachu.
Byddwn fel arfer yn cyhoeddi disgrifiad o fasnach symudol arfaethedig ar y dudalen hon, er mwyn i bartïon sydd â diddordeb allu cyflwyno unrhyw bryderon am yr effaith y gallai’r fasnach ei chael ar gystadleuaeth.
Nid oes rhaglenni masnachu sbectrwm symudol ar waith ar hyn o bryd.