
Ar 16 a 17 Medi, byddwn yn derbyn ceisiadaui wneud cynigion mewn ocsiwn ar gyfer trwyddedau i ddefnyddio sbectrwm 26GHz a 40Ghz (a elwir yn sbectrwm mmWave’).
Bydd y trwyddedau’n galluogi’r sbectrwm hwn i gael ei ddefnyddio ar gyfer technoleg ffonau symudol, gan gynnwys gwasanaethau 5G, a fydd yn cynnig nifer o fuddiannau i ddefnyddwyr.
Bydd sbectrwm mmWave yn gwella gwasanaethau symudol, yn enwedig o ran cynhwysedd a chyflymder mewn dinasoedd, trefi mawr ac ardaloedd prysur. Yn ogystal, gallai sbectrwm mmWave alluogi cymwysiadau diwifr arloesol, sydd angen llawer o ddata, cyflymderau uchel, neu’r ddau.
Rydym yn cynnig 5.4GHz o sbectrwm, sef y mwyaf sydd wedi ei rhyddhau mewn ocsiwn erioed.
Mae defnydd symudol 5G o sbectrwm mmWave mewn cyfnod cynnar byd eang ar hyn o bryd. Ni yw un o’r gwledydd cyntaf i’w rhyddhau ar raddfa fawr. Trwy wneud hyn, ein hamcan yw galluogi arloesi a gwella gwasanaethau ar draws y sector ffonau symudol.
Beth mae mmWave yn ei olygu i ddefnyddwyr ffonau symudol?
Wrth ryddhau sbectrwm mmWave at ddibenion newydd, mae potensial i ddarparu buddiannau sylweddol i bobl a busnesau ar draws y DU.
Bydd y math hwn o sbectrwm yn hwyluso gwasanaethau sydd angen capasiti a chyflymderau uchel. Gall chwarae rôl bwysig wrth alluogi darparwyr gwasaanethau symudol i ateb y galw cyfredol a galw’r dyfodol am ddata. Golyga hyn y gall helpu gwella capasiti mewn mannau prysur fel gorsafoedd trenau, mannau trefol prysur, a lleoliadau digwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth, lle mae llawer o bobl am ddefnyddio’u ffonau symudol ar yr un pryd.
Fel rhan o’r ocsiwn sy’n lansio heddiw, rydym yn dyfarnu’r sbectrwm mewn 68 o ardaloedd ‘dwysedd-uchel’ (hynny yw, trefi a dinasoedd yn y DU lle rydym wedi nodi galw uchel am ddata ffonau symudol).
Rydym eisoes yn cynnig sbectrwm yn y band 26GHz i’r rhai sydd eisiau trwydded trwy ein cynllun rhannu mynediad at drwyddedau. Bydd y cynllun hwn yn cynnig trwyddedau ardal leol. Er enghraifft, gall y sbectrwm hwn cael ei ddefnyddio i ddarparu band-eang di-wifr sefydlog mewn cymunedau gwledig neu gefnogi awtomatiaeth mewn ardaloedd diwydiannol, fel porthladdoedd prysur.
Beth yw sbectrwm?
Ni allwch weld na theimlo sbectrwm. Mae angen sbectrwm ar unrhyw ddyfais sydd’n cyfathrebu’n dd-iwifr, fel y teledu, fob allwedd car, monitorau babanod, microffonau di-wifr a lloerenni. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mastiau lleol, fel gall unigolion wneud galwadau a chael mynediad i’r we.
Pam fod Ofcom yn rheoli’r defnydd o sbectrwm?
Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Defnyddir bandiau penodol o sbectrwm ar gyfer gwahanol resymau. Er enghraifft, mae cwmnïau ffonau symudol yn defnyddio gwahanol rannau o’r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly, mae angen ei reoli er mwyn sicrhau nad yw gwasanaethau yn ymyrryd â’i gilydd gan darfu ar bobl a busnesau.
Cyhoeddir manylion y cynigwyr sydd wedi’u cadarnhau, y dyddiad cychwyn a’r canlyniadau ar ein gwefan.